Teulu'n gwybod 'fawr ddim' am adolygiad o farwolaethau brawd a chwaer yn 1976

Cafodd cyrff Griff a Martha Thomas eu darganfod yn eu cartref, Ffynnon Samson, ym mhentref Llangolman yn 1976
- Cyhoeddwyd
Tair blynedd ers i'r heddlu lansio adolygiad fforensig o farwolaethau amheus brawd a chwaer oedrannus yn 1976, mae perthynas wedi dweud ei fod yn "siomedig" nad yw'r teulu wedi cael mwy o wybodaeth am sut mae'r ymchwiliad yn datblygu.
Bwriad Operation Hallam oedd craffu ar ddeunydd a gasglwyd mewn cysylltiad â marwolaethau Griff a Martha Thomas yn eu cartref, Ffynnon Samson, yn Llangolman, Sir Benfro.
Yn ôl Huw Absalom, sy'n perthyn i'r ddau, dydy'r heddlu'n dweud "fawr ddim" am yr adolygiad, ac mae hi "tipyn bach yn siomedig" nad yw'r teulu'n cael mwy o wybodaeth, meddai wrth Newyddion S4C.
Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles, mae'r gwaith wedi bod yn "galed iawn" ond mae'n gobeithio y bydd mwy o fanylion am yr adolygiad yn y dyfodol agos.

Mae Griff Thomas a'i chwaer Martha wedi eu claddu ym mynwent capel Rhydwilym, ble roedd y ddau yn cyd-addoli
Fe ganfu cwest yn 1977 bod Martha Thomas, neu Patti fel roedd yn cael ei hadnabod yn lleol, wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon. Fe gofnodwyd rheithfarn agored yn achos Griff Thomas.
Ar ôl trin y digwyddiad fel dau achos o lofruddiaeth, fe newidiodd yr heddlu gwrs yr ymchwiliad gan roi'r bai ar Griff Thomas am ladd ei chwaer.
Yn Ionawr 1977, fe awgrymodd y dyn oedd yn arwain yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Pat Malloy bod Griff "mwy na thebyg" wedi lladd ei chwaer, drwy ei tharo o bosib gyda chadair, cyn cynnau tân a gorwedd yn y fflamau.
Dyw aelodau o'r teulu na ffrindiau erioed wedi credu'r ddamcaniaeth, ac maen nhw'n meddwl bod y ddau wedi cael eu llofruddio.
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024
Cafodd Operation Hallam ei lansio gan Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 2022 i gynnal "adolygiad fforensig" o ddeunydd yn gysylltiedig gyda'r marwolaethau.
Byddai hefyd yn ymgais i ganfod a fyddai technegau cyfoes yn medru darganfod a oedd "tystiolaeth ychwanegol" yn bresennol ar eitemau oedd ynghlwm â'r achos.

Mae Huw Absalom yn perthyn i Griff a Patti Thomas, ac roedd yn eu hadnabod yn dda
Tair blynedd ers lansio Operation Hallam, mae perthynas i'r ddau yn dweud nad yw'r teulu wedi cael unrhyw wybodaeth am sut mae'r adolygiad yn datblygu.
Dywedodd Huw Absalom ei fod yn meddwl bod o leiaf 150 o eitemau wedi cael eu meddiannu gan yr heddlu pan gafodd cyrff y ddau eu darganfod, ond dyw hi ddim yn glir faint o wrthrychau sydd wedi eu harchwilio.
"Beth maen nhw'n testo, maen nhw yn dweud fawr ddim wrthon ni", meddai Mr Absalom.
"Mae e dipyn bach yn siomedig faint o wybodaeth ni yn cael. Dyna i gyd ni'n cael yw yr un e-mail yn dweud bod pethau yn ongoing."
'Sdim un wedi siarad da fi'
"Licen ni gael gwybodaeth rhywbeth ond se ni'n cael gwybod dim byd.
"Mae tair mlynedd yn amser hir iawn. D'wi'n deall bod cases arall gyda nhw ond dwi ffili deall erbyn nawr se rhywbeth."
Tra'n ddiolchgar am yr adolygiad, dywedodd Mr Absalom nad oedd wedi siarad gyda ditectifs ers dechrau'r adolygiad
"Sdim un wedi siarad da fi. Dwi tipyn bach yn siomedig bod nhw ddim wedi siarad gyda ni naill ai individually neu fel rhan o'r teulu."

Hefin Wyn yw golygydd Clebran, y papur bro fuodd yn galw ar yr heddlu i ailagor yr ymchwiliad
Bu papur bro Clebran yn ymgyrchu ers blynyddoedd dros ailagor yr ymchwiliad i farwolaethau Griff a Patti.
Yn ddiweddar, dywedodd dau arbenigwr fforensig wrth raglen y Byd ar Bedwar eu bod nhw'n amau bod yna berson arall yn gysylltiedig gyda'r marwolaethau. Mae'r achos wedi cael sylw hefyd ar bodlediad gan y BBC.
Yn ôl golygydd Clebran, Hefin Wyn, fe ddylai'r heddlu gyfeirio'r mater yn ôl at y crwner.
"Mae Clebran yn galw yn bendant erbyn hyn ar Operation Hallam i awdurdodi'r crwner i ailagor y cwest", meddai.
'Rhaid cael pardwn i Griff'
"Mae yna ddigon o dystiolaeth wedi dod i'r fei erbyn hyn i brofi nad oedd y dystiolaeth wreiddiol yn dal dŵr o gwbl. Doedd yna ddim awgrym o gymhelliad dros yr honiad bod Griff wedi ymosod ar ei chwaer a'i lladd hi.
"Mae yna arbenigwyr fforensig wedi cadarnhau, i raddau helaeth, bod yna drydydd person yn ôl pob tebyg yn bresennol.
"Mae'n weddol sicr erbyn hyn bod rhaid cael pardwn i Griff.
"Dwi'n galw ar Operation Hallam i ddod â'r mater i ben, i ailagor y cwest a gwneud yn siwr bod Griff yn ddieuog o'r drosedd ddifrifol o ymosod a llofruddio ei chwaer ei hun. Ddigwyddodd mo hynny o gwbl."

Dywedodd Ifan Charles ei fod yn "cytuno bod yna gwestiynau mawr" yghylch yr achos
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles ei fod yn gobeithio y bydd mwy i ddweud am yr adolygiad cyn bo hir.
"Mae'r gwaith wedi bod yn galed iawn gan fod e mor hen i wneud yn siwr bod y gwaith fforensig yn cael ei wneud yn drylwyr a fi'n gobeithio yn y dyfodol cynnar hyn byddwn ni mewn sefyllfa i drafod pethau mewn mwy o fanylder.
"Fi yn cytuno bod yna gwestiynau mawr a dyna pham ni moyn mynd trwyddo pethau yn drylwyr i wneud yn siwr bod ni'n gwneud popeth yn iawn a deall popeth sydd wedi digwydd, mesur y camau nesaf yn iawn a bod e'n iawn i'r gymuned a'r teulu."

Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys yn Llangynnwr ger Caerfyrddin
Yn ôl Huw Absalom, mae'n allweddol bod yna atebion yn deillio o'r adolygiad.
"We ni yn 15 oed ar y pryd, a dwi'n 64 oed, a sdim lot yn ifancach na fi i gael.
"Mae Griff wedi cael ei gyhuddo o ladd yr un person sydd wedi bod yn ei fywyd erioed.
"We nhw yn bobl syml iawn, byw getre ar y ffarm. We nhw ddim wedi gweld dim o'r high life.
"Sai' gweld bod eisiau ystyried bod nhw wedi 'neud hyn i'w hunain.
"Licsen ni se nhw yn ailagor y case. Mae lle i ailagor y case 'ma ac ailagor ar y cyfan a gwneud y job yn iawn.
"Mae'r llofrudd iawn dal i fod allan."