Costau 'eithafol o ddrud' yn atal pobl rhag rhentu

Tai ar werth ac i'w rhentuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cost rhentu godi i gyfartaledd o £804 y mis ym Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad prisiau tai Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn awgrymu bod prisiau morgeisi yn gostwng yng Nghymru, ond bod costau rhent ar gynnydd.

Fe wnaeth rhent preifat yng Nghymru godi i gyfartaledd o £804 y mis ym Mehefin.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod prisiau rhent wedi codi 8.2% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin.

Mae'r cynnydd wedi arafu tipyn ers iddo fod ar ei uchaf - 9.9% yn y flwyddyn hyd at fis Tachwedd 2023 - yn ôl y Mynegai Prisiau Rhent Preifat.

Ond mae'r costau uchel yn golygu, i rai sy'n ceisio arbed arian i brynu tŷ, dyw rhentu ddim yn opsiwn sydd yn apelio.

Libbi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Libbi Jones yn byw adref gyda'i theulu er mwyn arbed arian

"Fi'n byw gyda fy rhieni ar hyn o bryd, a un o'r rhesymau yw i safio arian," meddai Libbi Jones o'r Coed Duon.

"Does dim pwynt i fi symud mas, talu am rhent ar ben popeth arall.

"Bydde'n well gyda fi talu am y deposit, a wedyn talu am mortgage yn lle gwario arian fi ar rhent.

"Ma'r rhent tua'r un cost â mortgage, mae'n eithafol o ddrud yn enwedig ar ben fy hunan.

"Fi'n credu os ti'n mynd mewn i rhentu gyda rhywun arall mae e jest yn haneru'r gost, ond dyw hynna ddim yn sefyllfa i fi ar hyn o bryd."

'Anodd safio'

Ychwanegodd Libbi: "Dyw e ddim yn ideal byw gyda rhieni, yn enwedig fel oedolyn annibynnol.

"Ma' gyda fi job proffesiynol hefyd, fi'n cael salary da, ond fi dal yn teimlo fel ei fod e'n anodd i safio'r arian 'na am y deposit.

"Mae'n rhwystredig. I fi, dwi'n annibynnol - bydde'n well 'da fi byw mewn tŷ fy hunan.

"Fi'n caru rhieni fi, ond bydde well da fi cal y space 'na, a rhoi'r arian tuag at lle fy hunan."

Ty ar werth
Disgrifiad o’r llun,

Mae pris prynu tŷ hefyd wedi codi fymryn yng Nghymru

Dyw sefyllfa Libbi ddim yn un unigryw chwaith.

Diffyg tai rhent sydd tu ôl i'r cynnydd mewn prisiau yn ôl Carys Davies - perchennog arwerthwyr tai Perfect Pads yn Abertawe.

"Ma'r prisiau wedi mynd yn afresymol o uchel," meddai.

"Ma' rhaid gofyn y cwestiwn 'wyt ti'n mynd i weld e'n stopo?' ac ar hyn o bryd, nadw, achos mae'r galw dal yn uchel.

"Ni'n rhoi tai ar ein gwefan ni ac ar wefannau eraill.

"Mae rhyw saith neu wyth a mwy yn bwcio arno i weld y tŷ, a gan amlaf, mas o'r saith neu wyth sy'n dod i weld y tŷ, falle bod pedwar neu bum cynnig yn cael ei roi 'mlan, a bob un rhywbeth yn debyg, felly mae lan i'r landlord wedyn i ddewis pa un licie fe fynd amdano.

"Ar ôl Covid fe ddechreuodd pethau newid, lle roedd y rents yn dechrau mynd yn uchel.

"Mae e yn sefyllfa eitha' bregus i denantiaid ar hyn o bryd, ond ma' rhaid cofio bod gan landlordiaid filiau i'w talu - costau ac ati."

Carys DaviesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Davies wedi gweld prisiau rhent yn codi'n sylweddol

O'r farchnad rhent, i brynu a gwerthu.

Mae pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru yn £238,098 - 0.7% o gynnydd ar y flwyddyn - yn ôl Mynegai Prisiau Tai Cymru y Principality rhwng Ebrill a Mehefin.

Roedd 'na 13% o gynnydd hefyd yn lefel y gwerthiant.

Mae'r data'n cydfynd gyda'r hyn mae Carys Davies yn ei weld ar lawr gwlad.

"Ni di gweld cyfraddau llog yn gostwng, ac o ran ni, ni'n gweld y tai'n gwerthu.

"Cyn belled bod chi'n rhoi pris realistig ar eich tŷ, ma' pobl moyn gwerthu a ma' pobl am brynu.

"Beth ni'n gweld yw bod 'na dipyn o movement ar hyn o bryd, sy'n galonogol."

Jac Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jac Griffiths mae cyfraddau llog is wedi helpu i brynu tŷ yn fwy fforddiadwy

Fe wnaeth Jac Griffiths o Fynachlog Ddu yn Sir Benfro, brynu ei dŷ cyntaf gyda'i bartner Lois ar ddechrau'r flwyddyn.

Dywedodd: "'Gwnaethon ni brynu tŷ yn Sanclêr ym mis Chwefror. Roedd yr interest rates tua 4.5% adeg 'ny a fi'n gwybod o'dd e tua 5% haf llynedd.

"Ni'n talu rownd £800 y mis am y morgais ac o'n i'n lwcus i roi tua 20% deposit lawr am y tŷ.

"Ma'r ffaith bod yr interest rates wedi cwympo wedi helpu ni ac wedi neud y broses o brynu tŷ lot mwy fforddiadwy."

Pynciau cysylltiedig