Dau yn pledio'n ddieuog i anrhefn wedi gêm bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o anrhefn treisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn dilyn gêm yn erbyn Llanrumney Athletic, ac mae bellach wedi gadael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth.
Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gafon nhw eu galw i ddigwyddiad y tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol ychydig ar ôl 16:00 ddydd Sadwrn.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, fe wnaeth Benjamin Dean, 28 oed o ardal Trowbridge, a Ryan Rees 22 oed o Lanrhymni, wadu'r cyhuddiadau o anrhefn treisgar.
Plediodd Mr Dean yn ddieuog i achosi niwed corfforol hefyd, tra bod Mr Rees wedi gwadu cyhuddiad o yrru heb yswiriant.
Clywodd y llys bod dau berson arall oedd dan amheuaeth gan yr heddlu "wedi ffoi i Sbaen".
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 11 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023