Penodi Mark Drakeford yn Ysgrifennydd Iechyd dros dro

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi gwasanaethu fel Gweinidog Iechyd o'r blaen - rhwng 2013 a 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn dychwelyd i gabinet Llywodraeth Cymru i olynu Eluned Morgan fel Ysgrifennydd Iechyd.

Fe gadarnhaodd y prif weinidog newydd mewn datganiad mai penodiad "dros dro" fydd hyn.

Mr Drakeford oedd yn gyfrifol am y portffolio iechyd rhwng 2013 a 2016.

Mae Eluned Morgan hefyd wedi cadarnhau penodiad Huw Irranca-Davies fel dirprwy brif weinidog, ac yn ôl y disgwyl mae hefyd yn parhau i fod yn gyfrifol am y portffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Fe fydd Ms Morgan ei hun yn parhau i fod yn gyfrifol am y Gymraeg.

Dywedodd Ms Morgan y bydd Mr Drakeford "yn defnyddio'i wybodaeth a'i brofiad sylweddol i barhau â'n gwaith o wella tryloywder a darpariaeth gwasanaethau".

Mae Ms Morgan hefyd wedi penodi Elisabeth Jones, nad yw'n Aelod o'r Senedd, dros dro i olynu Mick Antoniw fel Cwnsler Cyffredinol, sef prif ymgynghorydd cyfreithiol y llywodraeth.

Ms Jones oedd Prif Gynghorydd Cyfreithiol yr hen Gynulliad Cenedlaethol a'r Senedd bresennol rhwng 2012 a 2019.

Fe fydd y penodiadau yma, medd Ms Morgan, "yn rhoi sefydlogrwydd a pharhad i’r tîm Gweinidogol dros yr haf".

Fe fydd yn parhau i ad-drefnu ei chabinet yn yr hydref.

'Bydd Cymru'n gwylio'

Mewn ymateb i benodiad Mark Drakeford, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies bod "elfen adloniant ad-drefnu yn para megis diwrnod, a bydd y llywodraeth newydd yma'n cael ei barnu ar sail ei chanlyniadau".

Ychwanegodd: "Yr hyn mae Cymru ei angen yw llywodraeth all fod yn llais i Gymru gyfan, a darparu'r GIG a'r gwasanaethau cyhoeddus y mae Cymru'n eu haeddu.

"Wedi misoedd o anhrefn o fewn Llywodraeth Cymru, bydd Cymru'n gwylio."

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei bod yn "destun pryder mai’r hyn a welwn heddiw yw tystiolaeth fod arweinyddiaeth Eluned Morgan yn golygu ‘dim newid’".

“Nid ydy hi wedi amlinellu ei gweledigaeth, mae hi wedi cadw’r un cabinet fwy neu lai, a hyd yn oed pan fo newid yn cael ei orfodi arni wrth iddi adael iechyd i gymryd y brif swydd, dim ond apwyntiad dros dro sydd wedi ei wneud.

“Mewn cyfnod o argyfwng yn y gwasanaeth iechyd, y peth olaf sydd ei angen yw Gweinidog Iechyd dros dro fydd ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd."

Y cabinet yn llawn

  • Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca-Davies

  • Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet - Rebecca Evans

  • Ysgrifennydd Addysg - Lynne Neagle

  • Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio - Jayne Bryant

  • Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Mark Drakeford

  • Ysgrifennydd Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - Ken Skates

  • Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Prif Chwip - Jane Hutt

  • Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden

  • Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Jack Sargeant

  • Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar - Sarah Murphy

  • Darpar Gwnsler Cyffredinol - Elisabeth Jones