Car wedi croesi i lwybr lori gan ladd tri, yn ôl cwest

Bu farw Lawrence Howells (ch), Barrie Jones (dde) a Scott Jeffrey yn y gwrthdrawiad ger Tresimwn
- Cyhoeddwyd
Bu farw tri dyn ar ôl i'r car oedden nhw'n teithio ynddo groesi draw i lwybr lori cyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg, mae cwest wedi clywed.
Bu farw Scott Jeffrey, 34, o Ben-y-bont, Lawrence Howells, 51, a Barrie Jones, 48, y ddau o Borthcawl, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A48 ger Tresimwn ar 1 Ebrill.
Roedd y tri yn teithio mewn car Ford Puma glas wnaeth daro yn erbyn lori Scania coch a du.
Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod y gwrthdrawiad wedi digwydd toc cyn 17:00, wrth i'r Ford Puma deithio i gyfeiriad Y Barri.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd brysur yr A48 ger Tresimwn ym Mro Morgannwg
Ychydig cyn y gwrthdrawiad, mae'n ymddangos i'r car "groesi'r ffordd i mewn i lwybr... y tryc Scania".
Bu farw'r tri dyn yn y fan a'r lle.
Mewn teyrngedau yn dilyn eu marwolaeth, dywedodd teulu Mr Howells eu bod wedi eu "torri" gan y drychineb, tra bod teulu Mr Jones yn dweud bod y golled wedi "gadael twll" yn eu calonnau.
Mae pobl sy'n byw yn yr ardal wedi mynegi pryderon am gyfyngiad cyflymder y ffordd, tra bod AS dros Ganol De Cymru, Andrew RT Davies, wedi galw am ymchwiliad diogelwch yn dilyn pum marwolaeth ar y ffordd yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae pobl sy'n byw yn yr ardal wedi mynegi pryderon am gyfyngiad cyflymder y ffordd
Clywodd llys y crwner fod darpar achos marwolaeth wedi ei roi i Mr Jeffrey, Mr Howells a Mr Jones, o wrthdrawiad ffordd a arweiniodd at anafiadau lluosog.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Kerrie Burge agor a gohirio cwest i farwolaethau'r tri.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill