Dyn wedi marw ar ôl i ganŵ oedd wedi'i ddwyn droi drosodd - cwest

Leon Vernon-WhiteFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Boddodd Leon Peter Vernon-White yn yr afon Teifi yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn, a gafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "ysbryd rhydd direidus", ar ôl i ganŵ yr oedd wedi'i ddwyn droi drosodd, mae cwest wedi clywed.

Boddodd Leon Peter Vernon-White, dyn 24 oed o sir Gaerloyw, yn Afon Teifi yng Ngheredigion - yn dilyn adroddiadau fod canŵiwr wedi disgyn i'r dŵr.

Clywodd y cwest yn Aberystwyth fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cael gwybod am y digwyddiad am 19:42 ar 6 Mehefin 2024.

Dywedodd PC Christine Lewis, o'r heddlu, wrth y cwest fod y llanw i mewn pan gyrhaeddon nhw'r safle am tua 19:59, bod yr afon yn "llawn a llonydd" a fod posib gweld yn dda.

Bad achub
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bad achub Aberteifi yn rhan o'r ymgyrch i ddod o hyd i Leon Vernon-White

Ymunodd yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a thimau chwilio ac achub arbenigol eraill gyda Gwylwyr y Glannau.

Clywodd y cwest fod Mr Vernon-White wedi teithio lawr i Aberteifi o Sir Gaerloyw gyda'i gi a dau ffrind ar ddiwrnod y digwyddiad.

Roedd mam Mr Vernon-White yn byw yn yr ardal.

Dywedodd y ddau ffrind, Solomon Stone a Kyle Knox, mewn datganiadau tystion eu bod wedi cyfarfod mam Mr Vernon-White am ddiod yn y Saddler's Arms yng Ngheredigion, cyn i Leon awgrymu iddyn nhw fynd am dro i lawr wrth yr afon.

Dywedodd Mr Knox eu bod wedi cerdded i ffordd Llandudoch a thrwy eiddo rhywun, pan ddaeth i'r amlwg fod Mr Vernon-White yn "chwilio am gwch i'w gymryd".

Honnodd Mr Knox ei fod wedi cael digon, ac nad oedd eisiau unrhyw beth i wneud gyda chymryd unrhyw gwch, a'i fod wedi gadael ei ddau ffrind a'r ci.

Mewn datganiad wedi'i ddarllen gan y crwner, dywedodd yr ail ffrind, Solomon Stone, fod Mr Vernon-White wedi darganfod caiac gwyrdd gyda dwy set ynddo.

Roedd yn cofio pendroni a ddylen nhw gymryd y cwch.

Roedd Mr Stone yn cofio bod yn y cwch am gyfnod byr o tua 30 eiliad, gyda Mr Vernon-White a'r ci - cyn iddo droi drosodd.

"Roeddwn i'n meddwl fod Leon yn gallu nofio, felly mi nes i fynd a'r ci yn ôl i'r lan," meddai.

Ar ôl hyn, dywedodd ei fod wedi "troi rownd i weld lle'r oedd Leon - doedd o heb symud o ble wnaethon ni droi drosodd".

'Ei weld yn diflannu dan y dŵr'

Roedd tyst arall, James Leando, ar ei gwch ar Afon Teifi yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd ei fod wedi clywed rhywun yn gweiddi, a'i fod yn gweld dyn a chi rhwng 20 a 30 troedfedd i ffwrdd ohono mewn panig.

Honnodd iddo ffonio 999 am 19:39, a'i fod wedi gweld y "gwryw yn diflannu o dan y dŵr", tra'i fod ar y ffôn gyda'r heddlu.

Cadarnhaodd PC Christine Lewis y cafodd corff Mr Vernon-White ei ddarganfod gan weithwyr y tîm cychod am 00:51 ddydd Gwener, 7 Mehefin.

Ychwanegodd fod y corff wedi symud tua hanner canllath i fyny'r afon am Pont Ceredigion.

'Un yn gallu nofio, a'r llall ddim'

Doedd gan Mr Vernon-White ddim clefydau blaenorol nac unrhyw anafiadau sylweddol yn fewnol nac allanol, yn ôl adroddiad patholegwyr o 14 Mehefin.

Roedd lefel yr alcohol yn ei waed yn ddwywaith y terfyn cyfreithiol i yrru, ac roedd tystiolaeth o ddefnydd diweddar o ganabis.

Cytunodd y crwner, Peter Brunton, mai boddi oedd achos y farwolaeth, ond dywedodd nad oedd "presenoldeb alcohol a chanabis" wedi helpu ei siawns.

Diystyrodd Mr Brunton unrhyw amgylchiadau amheus.

Dywedodd mai'r "ffaith syml" oedd bod dau ddyn wedi darganfod eu hunain mewn afon, gydag un yn gallu nofio a'r llall ddim.

Rhannodd y crwner ei gydymdeimlad gyda theulu Mr Vernon-White, oedd yn bresennol.