Menyw yn pledio'n ddieuog yn achos saethu Rhondda Cynon Taf

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 39 oed o Gaerlŷr wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth Joanne Penny yn Rhondda Cynon Taf fis Mawrth.
Cafodd Ms Penny, 40 oed, ei saethu'n farw mewn bloc o fflatiau yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth eleni.
Mewn gwrandawiad byr, fe blediodd Melissa Quailey-Dashper yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth a chyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Fe ymddangosodd saith o ddiffynyddion eraill yn y llys ddydd llun, a phledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Fe fydd yr achos yn cael ei gynnal ar 20 Hydref.
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae wyth o bobl i gyd wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r achos.
Mae Jordan Mills-Smith, 33 o Bentwyn yng Nghaerdydd, Marcus Huntley, 20 o Laneirwg, Caerdydd, Joshua Gordon, 27 o Oadby yn Sir Gaerlŷr, Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr a Kristina Ginova, 21 o Oadby, i gyd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o gymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Mae Sai Raj Manne, 25 ac sydd heb gyfeiriad sefydlog, wedi gwadu bod â gwn yn ei feddiant a chymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Mae Molly Cooper, 33 o Gaerlŷr, wedi gwadu cael gafael ar fwledi heb drwydded a chymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.