Meibion Glyndŵr: Neb wedi'i arestio ers ailagor yr ymchwiliad yn 2004

Ty wedi ei losgi
Disgrifiad o’r llun,

Dros gyfnod o 12 mlynedd roedd 228 digwyddiad wedi eu cysylltu gydag ymgyrch Meibion Glyndŵr

  • Cyhoeddwyd

Dros 20 mlynedd ers i Heddlu Gogledd Cymru ailagor eu hymchwiliad i ymgyrch Meibion Glyndŵr, does neb wedi ei arestio na'i gyhuddo.

Yn 2004 fe gyhoeddodd y llu eu bod yn ailedrych ar yr holl dystiolaeth roedden nhw wedi ei chadw o'r ymgyrch.

Y gobaith oedd y byddai datblygiadau ym myd tystiolaeth fforensig - gan gynnwys DNA a'r gronfa olion bysedd cenedlaethol - yn arwain at erlyniadau, fel sydd wedi digwydd mewn achosion eraill fel llofruddiaeth Lynette White o Gaerdydd.

Ond gall BBC Cymru Fyw ddatgelu nad oes unrhyw un wedi ei arestio na'i gyhuddo, ac ni fydd unrhyw beth pellach yn digwydd yn y dyfodol agos.

Disgrifiad,

Gwyliwch drafodaeth am arwyddocâd datblygiadau DNA ar raglen Taro 9 o 2004

Yn ôl yn 2004, chwarter canrif ers ymosodiadau cyntaf y llosgwyr yn 1979, fe wnaeth rhaglen materion cyfoes y BBC, Taro 9, ymchwilio i'r pwnc.

Dywedodd dirprwy brif gwnstabl Heddlu'r Gogledd ar y pryd, Clive Wolfendale wrth y rhaglen eu bod wedi dechrau ailedrych ar dystiolaeth yr ymgyrch losgi tai haf.

"Mae'n bosib ar hyn o bryd i dynnu DNA o bron â bod unrhyw beth 'da chi'n ei gyffwrdd," meddai.

"Beth sy'n syfrdanol ydy nad yw y DNA yma yn dirywio o gwbl."

Roedd y penderfyniad yn ddadleuol oherwydd sensitifrwydd y pwnc, gyda'r hanesydd, y diweddar Dr John Davies, yn rhybuddio bod cymaint o gydymdeimlad gyda'r ymgyrch wreiddiol mewn rhai ardaloedd, gallai unrhyw arestio o'r newydd arwain at ailddechrau'r ymosodiadau.

Sion Aubrey Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siôn Aubrey Roberts - yr unig berson i gael ei ganfod yn euog mewn cysylltiad ag ymgyrch fomio Meibion Glyndŵr - wrth Taro 9 yn 2004 bod y mudiad yn ofalus iawn i beidio â gadael unrhyw dystiolaeth ar ôl

Fe gysylltodd BBC Cymru Fyw gyda Heddlu'r Gogledd i ofyn a gafodd unrhyw un ei arestio yn y ddau ddegawd ers gwneud y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd bod neb hyd yma wedi ei arestio na'i gyhuddo.

Mae adolygiad arall yn annhebygol yn y dyfodol agos, ond bydd yr heddlu yn ystyried unrhyw wybodaeth sy'n dod i law ac yn ymchwilio os oes angen.

Ychwanegodd bod uned Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru hefyd wedi gwneud ymchwiliad yn fwy diweddar yn dilyn rhaglen ddogfen Firebombers BBC Cymru yn 2023.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew Williams o Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru: "Does neb wedi ei arestio ond fe gafodd un person ei gyfweld gan swyddogion Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

"Does neb wedi ei gyhuddo a ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd ar hyn o bryd."

'Rhyfeddu' bod neb wedi ei arestio

Yn ôl golygydd cyfres Taro 9 yn 2004, Geraint Lewis Jones, roedd yr heddlu'n wreiddiol wedi cytuno 20 mlynedd yn ôl i ddangos y dystiolaeth i newyddiadurwyr y rhaglen.

Meddai: "Dwi'n credu iddyn nhw gael traed oer, a dyma nhw yn newid eu meddwl.

"Efallai, pwy a ŵyr, am eu bod yn poeni y bydde Taro 9 yn canfod bod nhw heb symud ymlaen o gwbl ar ôl 25 mlynedd.

"Be' wnaethon nhw oedd cyhoeddi bod nhw yn ailagor yr ymchwiliad oherwydd bod DNA wedi symud 'mlaen gymaint - ac felly roedd e'n amhosib i ni fynd i'w storfa.

"Dwi'n cofio'r AS Gareth Thomas ar y pryd yn dweud nad oedd DNA wedi newid gymaint â hynny yn y pum mlynedd flaenorol, felly pam nawr?

"Beth bynnag oedd rheswm yr heddlu am gyhoeddi cold case review, roedd e dal yn syndod yn 2004, ar ôl ymgyrch a barodd am flynyddoedd bod nhw heb ddod o hyd i'r llosgwyr.

"Ond hyd yn oed heddiw ar ôl yr holl amser yma a'r adnoddau a ddefnyddiwyd gan yr awdurdodau, a gyda mwy o symud 'mlaen gyda thechnoleg DNA, yr un yw'r stori.

"Dwi yn rhyfeddu bod neb wedi ei gyhuddo na'i arestio."