O Abertawe i'r Aifft: Cofnod o brofiadau glöwr yn y Rhyfel Mawr

- Cyhoeddwyd
Mae llyfr newydd yn rhannu profiadau glöwr ifanc o Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd The First World War Diaries of David Rees Thomas ei olygu gan or-nai David, George Hook, o ddyddiaduron oedd wedi eu cadw'n ddiogel gan y teulu am dros ganrif.
Yn ôl yr hanesydd Dr Gethin Matthews, o Brifysgol Abertawe, mae'r llyfr yn gofnod gwerthfawr o brofiad dyn cyffredin oedd wedi gorfod gadael ei filltir sgwâr am leoliadau byddai byth wedi gallu dychmygu mynd iddyn nhw:
Gallipoli, yr Aifft a Phalesteina
Gan fod dros chwarter miliwn o Gymry wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr mae'n amlwg bod ystod eang o oblygiadau gan y Rhyfel ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Yn ddi-os, bu'r rhan fwyaf o'r effeithiau yn negyddol, yn golygu loes, caledi a cholled.
Er hyn, os dewch o hyd i ffynhonnell sy'n rhoi blas o brofiadau unigol yn ystod y Rhyfel, gallwch hefyd weld amrywiaeth o ymatebion a theimladau, sy'n cyfoethogi ein dealltwriaeth o sut roedd y Cymry wedi byw trwy'r drin.
Felly, i hanesydd, mae cael gweld am y tro cyntaf ddyddiadur a ysgrifennwyd gan filwr o Gymro, yn cofnodi ei symudiadau a'i brofiadau yn Gallipoli, yr Aifft a Phalesteina o 1915 i 1918, yn brofiad arbennig.
Dyna sydd gennym yn nyddiadur David Rees Thomas, glöwr o Dreboeth, gogledd Abertawe, a wasanaethodd gyda Chorfflu Meddygol y Fyddin mewn uned o'r enw'r 3rd Welsh Field Ambulance (WFA).
Cadwodd y teulu bum cyfrol y dyddiadur am dros ganrif cyn iddynt gael eu trosglwyddo i Archifau Gorllewin Morgannwg yn 2021. Yn y cyfamser, mae gor-nai David Rees Thomas, George Hook, gwyddonydd wedi ymddeol o Seland Newydd, wedi bod yn brysur yn mireinio trawsgrifiad o'r dyddiaduron.
Ffynhonnell arbennig
Mae cael mynediad i ysgrifau David yn arbennig i mi oherwydd roeddwn i eisoes yn gwybod cryn dipyn o'r stori o ffynonellau eraill.
Roedd y 3rd WFA yn uned leol iawn i Abertawe, a gellir gweld hyn yng nghofebau'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn rhai capeli lleol.
Yr 14 enw cyntaf ar Restr Anrhydedd capel Caersalem Newydd yn Nhreboeth yw dynion a wasanaethodd gyda'r uned hon, gan gynnwys David Rees Thomas a'i frawd John. Mae gan y Rhestr Anrhydedd yng nghapel yr Annibynwyr cyfagos ym Mynyddbach enwau saith dyn a wasanaethodd yn yr uned, gan gynnwys Richard Eustis.
Roedd Richard a David yn ffrindiau gorau, ac felly rwy'n gyfarwydd ag enw David – neu Dai, fel y galwodd Richard ef – gan imi olygu casgliad o lythyrau a anfonwyd gartref gan Richard a'i frodyr tra'n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Mawr.
Fy hoff lun yn y llyfr a ddeilliodd o'm ymchwil – Having a Go at the Kaiser – yw'r un o Richard Eustis a David Rees Thomas ar gamelod o flaen y Sffincs a Phyramid Mawr Giza.

O flaen y pyramidau yn Ionawr 1916 - David Rees Thomas ar y chwith, Richard Eustis yn y canol. Diolch i Pamela John am y llun
Tynnwyd y ffotograff hwn ym mis Ionawr 1916: roedd y ddau ddyn wedi bod yn lowyr yn Nhreboeth lai na 18 mis ynghynt. Mae hyn yn rhoi syniad o sut roedd eu bywydau wedi trawsnewid a sut y gallent brofi lleoedd na allent wedi breuddwydio am ymweld â nhw cyn y Rhyfel.
Mae cofnodion y dyddiadur yn esblygu, ac maent yn newid o fod yn gryno ar y dechrau i fod yn fanwl a chain wrth i David ddod o hyd i'w lais. Disgrifir golygfeydd Cairo, Alexandria a Phalesteina, a rhanna David ei argraffiadau ar y sefyllfaoedd y profodd ac arferion y bobl y cyfarfu â nhw.
Felly yn y dyddiadur mae gennym adroddiad manwl o'r daith a gymerodd ef a rhai o'i gymrodyr ym mis Medi 1917 i fyny Afon Nîl i Luxor, i weld rhyfeddodau'r Hen Aifft.
Yna, ar ei ben-blwydd yn 27 oed - 29 Rhagfyr 1917 - ychydig ddyddiau ar ôl i Fyddin Prydain gipio Jerwsalem, ymwelodd David â'r safleoedd sanctaidd yn y ddinas. Mae ei ddyddiadur yn datgan na fyddai ei deulu gartref byth wedi dychmygu y byddai ef yn sefyll ar Galfaria ar brynhawn Sul.
Y corporal, y camelod a'r clwyfedig
Mae digon o ddisgrifiadau yn y dyddiaduron o weithgareddau hwyliog y 3rd WFA – nofio yng Nghamlas Suez; chwarae rygbi (roedd David yn faswr o safon) a rhoi perfformiadau cerddorol (roedd llawer o'r uned wedi bod ym Mand Pres Dirwestol Treboeth cyn ymrestru).
Mae llawer o ddisgrifiadau manwl o gôr yr uned yn rhoi cyngherddau, i uchel-swyddogion y Fyddin a'r Llynges; efallai mai'r uchafbwynt oedd cyngerdd yng Nghadeirlan San Siôr, Jerwsalem, ar Noswyl Nadolig, 1917.
Ar y llaw arall, mae'r dyddiadur yn llawn gwybodaeth am ei ddyletswyddau fel corporal yn y WFA, er enghraifft wrth iddo ddatblygu ei sgiliau trafod camelod.

O'r chwith - John Thomas, David Rees Thomas a Richard Eustis, gyda bachgen bach yn Nhreboeth, cyn i David a Richard adael am Gallipoli yn haf 1915. Diolch i Pamela John am y llun
Er bod rhai o'r manylion yn ysgafn eu naws, yn aml ceir manylion am y milwyr clwyfedig a gafodd eu trin, ac mae modd croesgyfeirio sylwadau David ag adroddiadau yn y papurau newydd nôl yng Nghymru.
Yn Gallipoli ym mis Tachwedd 1915, gofalodd David am Howell Gordon Williams o Gwmllynfell a oedd wedi'i anafu'n ddrwg: mae erthygl yn y papur newydd lleol ym mis Gorffennaf 1916 yn adrodd ei fod wedi cael croeso adref.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, bu David yn trin Will Daniels o Lanelli wedi iddo gael ei saethu yn ei ben: fodd bynnag, cyn diwedd y flwyddyn cyhoeddodd papur newydd ysgrif goffa Daniels, a oedd ond yn 20 oed.
Un achos lle mae David yn rhannu manylion anghysurus yw pan mae'n sôn am dynged ei gyd-filwr Daniel Bennett o Lanmorlais, a gafodd ei chwythu'n ddarnau gan fom awyren ar y ffordd ger Ramallah.
'Dynion cyffredin mewn sefyllfa eithriadol'
Mae golygiad George Hook o ysgrifau ei hen wncl yn cynnwys toreth o nodiadau, ffotograffau a mapiau i gynorthwyo'r darllenydd i ddilyn y stori. Ysgrifenna George yn ei ragair i'r llyfr faint roedd yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddod i adnabod David Rees Thomas drwy ei ddyddiaduron.
Mae'n dweud amdano ei fod yn berson cymwynasgar a oedd yn gofalu'n gydwybodol am ei gyd-ddyn, ac yn gwerthfawrogi'r gymrodoriaeth a brofodd yn ogystal â'r diwylliannau a'r olion hanesyddol a ddaeth ar eu traws.
Mae'n werth nodi nad oes unrhyw ddrwgdeimlad tuag at y 'gelyn', nac ymffrostio am gampau milwrol yn y tudalennau hyn.
Roedd David a'i gymrodyr yn ddynion 'cyffredin' a roddwyd mewn sefyllfa eithriadol, a adawodd eu cartrefi a'u hanwyliaid i wasanaethu yng ngwisg y Brenin, ond a gadwodd afael ar eu hunaniaethau sifil a'u gwerthoedd Cymreig.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024