Gareth Davies yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 34 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 34 oed.
Mae mewnwr y Scarlets wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru ac wedi cynrychioli'r Llewod yn ystod gyrfa ryngwladol a ddechreuodd nol yn 2014 yn Ne Affrica.
Fe enillodd y gamp lawn gyda Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 a 2021, a Davies sgoriodd y cais hollbwysig yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn ystod Cwpan y Byd 2015.
Daw'r cyhoeddiad ychydig ddyddiau cyn i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau prawf yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Davies: "Rwyf wedi penderfynu, ar ôl 10 mlynedd anhygoel yn chwarae i Gymru, fy mod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.
"Breuddwyd fy mhlentyndod oedd cynrychioli fy ngwlad ac rwyf wedi caru pob eiliad mewn crys Cymru.
"O ennill fy nghap cyntaf ar daith yr haf nôl yn 2014, i chwarae mewn tri Chwpan Rygbi'r Byd, ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Champ Lawn... mae wedi bod yn arbennig."
'Wedi bod yn anrhydedd'
"Diolch i fy nheulu, fy ngwraig Katy, fy ffrindiau a'r holl gefnogwyr am eu cefnogaeth dros y ddegawd diwethaf.
"Mae hi wedi bod yn anrhydedd cynrychioli Cymru a gyda’r criw ifanc cyffrous yma o chwaraewyr yn dod drwodd dwi’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i mi gamu i ffwrdd o rygbi rhyngwladol.
"Mae gen i lawer i'w roi i'r gêm o hyd ac rwy'n edrych ymlaen at flynyddoedd olaf fy ngyrfa rygbi clwb. Diolch."
Dywedodd Warren Gatland: “Mae Gareth wedi bod yn chwaraewr gwych i Gymru dros y ddegawd diwethaf ac mae wastad wedi rhoi popeth yn y crys coch.
“Bu rhai eiliadau cofiadwy iawn, fel ei geisiau yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd yn 2015 ac yn erbyn Awstralia yng Nghwpanau’r Byd 2019 a 2023.
"Gall ef a’i deulu fod yn falch iawn o’i gyflawniadau rhyngwladol.
“Rwy’n gwybod bod ganddo lawer i’w roi o hyd i rygbi ac edrychaf ymlaen at barhau i’w wylio’n chwarae i'w glwb.”
Y penwythnos diwethaf fe sgoriodd Davies ddau gais wrth i’r Scarlets ennill yng Nghaerdydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel: “Mae Gareth wedi mwynhau gyrfa ryngwladol arbennig, i Gymru a’r Llewod.
“Rwyf wedi mwynhau gweithio gydag ef ac yn edrych ymlaen at wneud hynny yn y dyfodol gyda'r Scarlets.
“Mae wedi bod yn wych i ni yn ystod wythnosau agoriadol y tymor ac mae ganddo lawer i’w gynnig o hyd o ran chwarae a’i rôl fel arweinydd yma.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref
- Cyhoeddwyd14 Hydref
- Cyhoeddwyd31 Mai