Pump uchafbwynt gyrfa Jonathan Davies
- Cyhoeddwyd
Daeth y newyddion dros y penwythnos bod Jonathan ‘Fox’ Davies yn ymddeol o chwarae rygbi.
Bellach yn 36 oed fe enillodd Davies ei gap rhyngwladol cyntaf yn 2009, ac aeth ymlaen i gynrychioli ei wlad 96 o weithiau, gan hefyd chwarae mewn chwe gêm brawf dros Y Llewod.
Heblaw am ddau dymor gyda Clermont Auvergne (2014-16) fe chwaraeodd Davies dros glwb Llanelli a’r Scarlets drwy gydol ei yrfa.
Yma mae prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, yn nodi pum uchafbwynt o yrfa Jonathan Davies:
Heb os bydd Jonathan Davies yn cael ei gofio ymhlith y goreuon i Gymru yn yr oes broffesiynol. Yn ganolwr cryf cydnerth, roedd yn rhan annatod o’r tîm yn ystod cyfnod cyntaf Warren Gatland fel hyfforddwr y tîm cenedlaethol, ac yn aml fe oedd y glud oedd yn dal pob dim at ei gilydd ymysg yr olwyr.
Wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith, Y Goron Driphlyg deirgwaith a’r bencampwriaeth ar bedair achlysur, roedd cyfraniad y gŵr a gafodd ei adnabod fel 'y cadno' yn amhrisiadwy ac yn un sy’n sicr o’i le yn oriel yr anfarwolion.
1. Cap cyntaf (2009)
Gyda’r chwaraewyr gorau ac amlycaf gyda’r Llewod yn Ne Affrica mi oedd yna gyfle i arbrofi a chynnwys rhai o’r genhedlaeth nesa yn 2009 – un o’r rheiny oedd y gŵr ifanc o Bancyfelin Jonathan Davies oedd eto i droi'n 21 oed.
Er nad oedd Toronto’n lleoliad amlwg i gamu i’r maes cenedlaethol am y tro cyntaf roedd digon o dystiolaeth yn erbyn Canada y diwrnod hwnnw byddai’r canolwr yn gadael ei farc am flynyddoedd i ddod.
2. Camp Lawn (2012)
Bellach yn un o’r hoelion wyth ac wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd yr Hydref blaenorol, roedd Davies ar ei orau yn ystod y cyfnod hwn.
Sgoriodd ddwywaith yn Nulyn ar ddechrau’r ymgyrch, gyda Chymru’n mynd ymlaen i gipio’r Gamp Lawn am yr 11fed tro, a’r eildro o fewn pedair blynedd.
3. Taith Y Llewod i Awstralia, 2013
Ar ôl ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ystod y tymor doedd hi ddim yn syndod o gwbl y byddai ei ddoniau yn cael ei gydnabod gan hyfforddwr Y Llewod, Warren Gatland, ac felly y bu yn Awstralia y flwyddyn honno.
Yng nghanol presenoldeb chwaraewyr gorau Prydain ac Iwerddon roedd y cadno yn dal ei dir ac wedi gwneud digon o argraff yn y gemau rhanbarthol i ddwyn perswâd ar yr hyfforddwyr i’w gynnwys yn y dair gêm prawf. Roedd dwy wrth ochr Brian O’Driscoll a’r drydedd a’r prawf fuddugoliaethus yn Sydney, ynghyd â Jamie Roberts.
4. Scarlets yn ennill y Pro 12 (2017)
Er mai buddugoliaeth swmpus dros Munster yn y rownd derfynol wnaeth sicrhau’r tlws i dîm Wayne Pivac does dim amheuaeth y daeth sail i’r llwyddiant hwnnw yn y rownd gyn-derfynol yn Nulyn yn erbyn grym Leinster ar faes yr RDS.
Roedd doniau creadigol a gêm ymosod y Scarlets i'w gweld yn glir yn yr hanner cyntaf wrth greu difrod dro ar ôl tro ond yn amddiffynnol fe roedd Jonathan Davies yn gawr y noson honno yn enwedig wrth rhoi pwysau ar Jonny Sexton drwy gydol y gêm – roedd ei berfformiad yn wirioneddol wych ac wedi mynd yn bell i sicrhau mai’r Scarlets (er eu bod lawr i 14 dyn) fyddai’n fuddugol.
5. Taith Y Llewod i Seland Newydd, 2017
Am yr eildro yn ei yrfa byddai Davies yn gwisgo crys coch Y Llewod ond y tro hwn roedd y dasg gymaint yn anoddach yn erbyn y Crysau Duon.
Eto roedd y Cymro’n un o’r enwau cynta’ i’w gynnwys bob tro wrth i’r Llewod ennill yr ail brawf yn Wellington a sicrhau fod y gyfres yn gorffen yn gyfartal 1-1.
Cymaint oedd ei gyfraniad i’r tîm teithiol cafodd Davies i enwi’n seren y gyfres
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Hydref