Ymestyn cynllun i gynnig tocynnau bws am £1 i blant iau

Lansiodd Eluned Morgan a Ken Skates y cynllun yng Ngorsaf Fysiau Casnewydd, ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Bydd y cynllun i gynnig tocynnau bws am £1 i blant rhwng 16 ac 21 oed yng Nghymru bellach yn cael ei ymestyn i blant iau hefyd.
Fe arweiniodd y cynllun gwreiddiol, oedd i fod i ddod i rym ym mis Medi, at gwynion oherwydd y gallai hyn fod wedi arwain at blant iau'n talu mwy na rhai yn eu harddegau hwyr.
Roedd y cynllun gwerth £15m yn rhan o'r cytundeb ar y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Nawr, mae'r llywodraeth yn dweud iddyn nhw ganfod £7m yn ychwanegol er mwyn cynnig y tocynnau rhad i blant rhwng pump a 15 oed.

Dim ond pobl rhwng 16 ac 21 oed oedd am elwa o'r polisi yn wreiddiol
Torri cost tocyn dydd i £3
Bydd y cynllun peilot yn dechrau ym mis Medi i bobl rhwng 16 ac 21 oed ac yn rhedeg tan fis Awst 2026.
Bydd yn rhaid i blant rhwng pump a 15 oed aros tan fis Tachwedd.
Dywedodd swyddogion y llywodraeth eu bod yn hyderus y bydd y mwyafrif helaeth o gwmnïau bysus yn cymryd rhan, ond does dim modd eu gorfodi.
Yn ogystal â thocyn sengl am £1, bydd y polisi'n torri'r gost o docyn dydd i £3.
Bydd yn rhaid i bobl rhwng 16 ac 21 oed gael cerdyn FyNgherdynTeithio i fod yn gymwys, ond fydd ddim angen un ar blant iau.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae torri cost teithio i bobl ifanc a darparu trafnidiaeth well i bawb yn un o'n prif flaenoriaethau.
"Rydym yn cyflawni ein haddewidion i bobl ifanc ledled Cymru."
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru mae hwn yn "gam gwych i'r cyfeiriad cywir" er nad dyma'r neiwidiadau mae wedi galw amdano.
Aeth ymlaen i ddweud y "dylid ei groesawu'n gynnes – rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau plant ledled Cymru".
Dywedodd Plaid Cymru, sydd wedi cyhuddo gweinidogion o wneud llanast o'r cynlluniau gwreiddiol, fod gweinidogion wedi cyflawni "esgeulustod annerbyniol".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid fod hyn wedi dod o ganlyniad i gytundeb cyllideb "munud olaf" gan Lafur "a oedd yn chwilio am unrhyw ffordd i gael eu cyllideb annigonol a diuchelgais drwodd".
Dywedodd Sam Rowlands o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am deithio bws am ddim i bobl ifanc, i'w helpu i gael mynediad at yr addysg, yr hyfforddiant a'r cyflogaeth sydd eu hangen arnynt."
"Mae angen mwy o fuddsoddiad i gefnogi llwybrau bysiau mewn cymunedau gwledig, gan sicrhau bod modd i bob rhan o gymdeithas deithio ar fws."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.