Pleidlais cyllideb ddrafft wedi pasio gyda Thorïaid yn America

Mae Darren Millar a Russell George yn methu'r bleidlais i fynd i'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol yn yr Unol DaleithiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar wedi methu'r bleidlais i fynd i'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais ar ei chyllideb ddrafft ar ôl i arweinydd y Ceidwadwyr ac aelod arall o'i blaid fynd i'r Unol Daleithiau ar gyfer cyfarfod gweddi yn Washington DC.

Mae Darren Millar a Russell George wedi mynd i'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol lle mae disgwyl i Donald Trump roi araith, gan olygu bod y pâr wedi colli cyfle cyntaf y Senedd i drafod a phleidleisio ar gynlluniau gwariant y flwyddyn nesaf.

Mae'r cyfarfod gweddi ar 6 Chwefror yn ddyddiad pwysig yng nghalendr gwleidyddol America, a'r cyntaf ers buddugoliaeth Trump.

Mae gan Lafur union hanner y seddi yn Senedd Cymru, felly yn methu ennill pleidleisiau os ydy'r gwrthbleidiau yn uno.

Roedd 29 o blaid y cynnig bod y Senedd yn "nodi'r gyllideb ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26", un wedi ymatal a 26 yn erbyn.

Gwrthod cais paru

Roedd y bleidlais ar y gyllideb yn symbolaidd, ond byddai colli wedi bod yn embaras i'r llywodraeth.

Bydd yn rhaid i weinidogion gyhoeddi fersiwn derfynol er mwyn iddi gael ei chymeradwyo gan y Senedd fis nesaf.

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cynlluniau gwariant yn hallt ond fe ddaeth i'r amlwg fore Mawrth na fyddai Darren Millar yno oherwydd yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel "ymrwymiad hirsefydlog yn yr Unol Daleithiau lle bydd yn cyfarfod â nifer o wleidyddion proffil uchel".

Mae'r ddau Geidwadwr yn ymddiriedolwyr i elusen Gristnogol, Sefydliad Evans Roberts.

Gall Aelodau o'r Senedd sy'n absennol ofyn i aelod o blaid arall beidio pleidleisio - proses o'r enw paru. Mae'r BBC ar ddeall bod cais gan y Ceidwadwyr i rywun o Lafur beidio pleidleisio wedi ei wrthod.

Fel arall, os oes angen amser i ffwrdd arnynt gall rhywun fwrw pleidlais drwy ddirprwy ar eu rhan. Mae Lesley Griffiths o'r Blaid Lafur i ffwrdd am fis ac wedi trefnu pleidlais o'r fath.

Fe wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y gyllideb.

Fe wnaeth yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, ymatal yn y bleidlais a chredir mai hi sydd yn fwyaf tebygol o ddod i gytundeb gyda'r llywodraeth yn y bleidlais derfynol.