Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn 'llawn geiriau gwag'
- Cyhoeddwyd
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru'n "llawn geiriau gwag", yn ôl un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Dywedodd y pwyllgor cyllid bod angen "gwelliannau brys" i'r cynlluniau gwario, a dylai'r llywodraeth roi "mwy o flaenoriaeth" i'r argyfwng costau byw.
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y cynlluniau ddydd Mawrth cyn bod pleidlais ar y gyllideb derfynol yn cael ei chynnal fis nesa.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried argymhellion y pwyllgor.
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei gyllideb ddrafft, sy'n werth £26bn, ym mis Rhagfyr.
Yn ôl y cynlluniau bydd pob adran o Lywodraeth Cymru'n gweld cynnydd i'w chyllideb yn 2025-26, yn wahanol iawn i'r sefyllfa y llynedd pan yr adran iechyd oedd yr unig adran i osgoi toriad i'w chyllideb.
Mae'r gyllideb newydd yn elwa o arian ychwanegol gan y llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan.
Wrth gyhoeddi'i gynlluniau, dywedodd Drakeford bod y gyllideb yn "rhoi gobaith ar gyfer dyfodol mwy disglair".
Ond dywedodd pwyllgor cyllid Senedd Cymru, sydd wedi bod yn craffu ar y cynlluniau, "nad yw'n glir a yw'r mesurau arfaethedig yn cyfateb i'r rhethreg hon".
'Pryderon difrifol am y gyllideb arfaethedig'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Peredur Owen Griffiths bod yr adroddiad yn "amlinellu pryderon difrifol am y gyllideb arfaethedig ac yn darparu argymhellion clir i Lywodraeth Cymru eu hystyried."
"Os yw'r gyllideb arfaethedig i fod yn arwydd o ddechrau newydd a seibiant o'r cyni ariannol, yn anffodus mae tipyn o waith i'w wneud eto."
Mae'r adroddiad yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi "ymwreiddio ym mywydau beunyddiol llawer ledled Cymru" a bod Llywodraeth Cymru'n "troi oddi wrth ddarparu cymorth costau byw acíwt".
"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r heriau costau byw y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wedi diflannu ac mae ein neges i Lywodraeth Cymru yn glir: nid nawr yw'r amser i dorri'n ôl ar roi cymorth i bobl sy'n agored i niwed," meddai Owen Griffiths
Cafodd yr adroddiad, sy'n gwneud 39 o argymhellion, ei gefnogi gan bedwar aelod y pwyllgor gan gynnwys y ddau AS Llafur.
Mae'n galw am fwy o arian i gael ei wario ar fesurau ataliol i fynd i'r afael â phroblemau iechyd a thlodi, gan gyhuddo'r llywodraeth o "ganolbwyntio mwy ar ymdrin â heriau wrth iddynt godi… ar draul cyllidebu strategol tymor hwy".
Mae'r pwyllgor hefyd yn codi pryderon am y codiad sydd i ddod i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr – cyhoeddiad wnaed gan y canghellor yn ei chyllideb yn San Steffan.
Mae Llywodraeth y DU wedi gaddo rhoi arian i Lywodraeth Cymru i ddigolledu cyflogwyr y sector gyhoeddus yng Nghymru ond dydy hi ddim yn glir eto faint o arian fydd ar gael ac a fydd hynny'n ddigon i ddigolledi cyrff yn y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau i'r sector gyhoeddus.
Mae Drakeford wedi dweud nad yw'n disgwyl cael gwybod faint o arian fydd yn dod o San Steffan tan fis "Mai neu Mehefin", ond mae'r pwyllgor wedi galw am ddiweddariad "ar fyrder".
'Ystyried adroddiad y pwyllgor'
Heb fwyafrif ym Mae Caerdydd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'i chyllideb.
Pleidlais gychwynnol yn unig fydd y bleidlais ar y gyllideb ddrafft ddydd Mawrth, ond pe bai'r llywodraeth yn colli byddai hynny'n tanlinellu'r pwysau sydd ar weinidogion cyn bod y bleidlais hollbwysig ar y gyllideb derfynol yn digwydd ym mis Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r llywodraeth yn "ystyried adroddiad y pwyllgor cyllid" cyn cyflwyno'i chyllideb derfynol yn hwyrach y mis hwn.
Dadansoddiad
Wrth gyhoeddi ei gynlluniau gwario ym mis Rhagfyr dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford fod y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesa, sy'n werth £26b, yn "rhoi gobaith ar gyfer dyfodol mwy disglair".
Ond yn ôl adroddiad y pwyllgor cyllid, dydy hi ddim yn glir a ydy'r cynlluniau'n cyd-fynd â'r rhethreg, ac mae yna gryn dipyn o waith i'w wneud eto.
Mae'r argyfwng costau byw yn un maes sydd angen sylw, medd y pwyllgor, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o roi'r gorau i estyn cymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd. Dywedodd llefarydd y byddai'r llywodraeth yn ystyried argymhellion y pwyllgor.
Yn y cyfamser mae yna ddyfalu o hyd ynghylch sut mae'r llywodraeth yn bwriadu pasio'i chyllideb, achos heb fwyafrif ym Mae Caerdydd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau.
Bydd y senedd yn pleidleisio ar y cynlluniau gwario am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Pleidlais gychwynnol yn unig fydd honno ond pe bai'r llywodraeth yn colli, byddai hynny'n tanlinellu'r pwysau sydd ar weinidogion cyn bod y bleidlais hollbwysig ar y gyllideb derfynol yn digwydd fis Mawrth.