Ynys yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

YnysFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Ynys ydy band Dylan Hughes (canol) o Race Horses a Radio Luxembourg gynt

  • Cyhoeddwyd

Ynys sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, am eu halbwm Dosbarth Nos.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam nos Fercher.

Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau.

Y beirniaid eleni oedd Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

'Braint'

Dosbarth Nos ydy ail albwm Ynys - band Dylan Hughes o Race Horses a Radio Luxembourg gynt.

Fe gyrhaeddodd eu halbwm cyntaf rhestr fer ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023.

Yn derbyn y wobr ar lwyfan y Pafiliwn, dywedodd Dylan Hughes ei bod yn "fraint".

"Diolch i bawb sy' 'di gwrando, wedi dod i weld ni'n fyw neu brynu'r record," meddai.

"Diolch i bawb sy' 'di chwarae ar y record, a Recordiau Libertino - byddai'r albwm ddim wedi bod yn bosib hebddyn nhw."

Wedi'i recordio'n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng ngorllewin Cymru, mae'r albwm yn arddangos esblygiad cerddorol Ynys.

Dywedodd y beirniaid fod yr albwm yn "cofleidio palet sain mwy egnïol ac anturus gyda'i drefniadau deinamig rhyfeddol, a dal hanfod perfformiadau byw'r band".

"Mae Dosbarth Nos yn ymgorffori uchafbwynt taith greadigol Ynys, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn esblygiad y prosiect.

"Mae dull manwl Hughes o gyfansoddi caneuon, ynghyd ag egni cydweithredol y band, wedi arwain at albwm sy'n llawn bwriad a hyder newydd."

Pwy oedd ar y rhestr fer?

Mae'r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014, a Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro.

Yr naw albwm arall oedd ar y rhestr fer elenni oedd:

  • Adwaith - Solas

  • Bwncath - Bwncath III

  • Don Leisure - Tyrchu Sain

  • Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell

  • Gwenno Morgan - Gwyw

  • Gwilym Bowen Rhys - Aden

  • Pys Melyn - Fel Efeilliaid

  • Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd

  • Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni