Pobl yn gadael 'gwastraff dynol' wrth draeth ger Abersoch

Mae 'na bryder yn lleol y gallai rhoi trwydded alcohol i gaffi ger y traeth arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n ymweld â thraeth ger Abersoch yn gadael "gwastraff dynol" mewn gerddi, yn ôl trigolion sy'n gwrthwynebu rhoi trwydded alcohol i gaffi ar lan y môr.
Cafodd cais perchnogion Mickey's Beach Café ger Traeth Machroes i werthu alcohol ar y safle ei dderbyn gan is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Gwynedd yr wythnos hon.
Ond mae Cyngor Cymuned Llanengan ac ymgyrchwyr lleol yn anhapus gyda'r penderfyniad, gan honni hefyd fod pobl eisoes yn defnyddio jet skis dan ddylanwad alcohol.
Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol y perchennog, Lisa Gilligan, nad oedd y caffi yn anelu i fod yn "leoliad yfed".
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Dywedodd Jeremy Beddows, sy'n berchen ar dŷ cyfagos, ei fod yn poeni na fyddai pobl yn defnyddio'r toiledau "sydd ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd o'r caffi".
"Dyw llawer o bobl, yn eu cyffro a'u brys, ddim yn gwneud y daith 'hir' (i'r toiledau)," meddai.
Honnodd Mr Beddows fod pobl yn "dod oddi ar y llwybr i mewn i'n gardd ni, gan adael gwastraff dynol. Mae'n ardal lle mae plant ifanc yn ymweld."
Roedd trigolyn arall, Peter Baines, yn poeni y byddai alcohol yn "newid teimlad" yr ardal - o bobl "yn cael coffi a chacen i archebu poteli o Prosecco a chwrw.
"Fe allai ddatblygu i bartïon a cherddoriaeth uchel" ychwanegodd.
Disgrifiodd y cyngor cymuned hefyd broblemau yn ymwneud ag yfed ar y traeth, gan nodi nad yw peiriannau fel jet-skis ac alcohol yn "mynd gyda'i gilydd".
Roedden nhw wedi mynegi "pryder difrifol" am y diffyg toiledau, a sut y gallai gwerthu alcohol "gynyddu poblogrwydd" Traeth Machroes - gan arwain at fwy o draffig ar ffordd gul, droellog.
Cafodd diffyg cyfleusterau toiledau ei nodi ymhlith sylwadau'r cyhoedd hefyd, a phryder y gallai cynnydd mewn sbwriel ddod yn "fwy o broblem" gyda mwy o yfed.
Ddim yn anelu i fod yn 'leoliad yfed'
Dywedodd cyfreithwyr ar ran perchennog y caffi, Lisa Gilligan, nad oedd y safle yn anelu i fod yn "leoliad yfed" ac nad oedden nhw'n gofyn am gael chwarae cerddoriaeth uchel.
Fe soniodd am "lwyddiant" trwyddedau dros dro i werthu alcohol, gan nodi nad oedd "unrhyw wrthwynebiadau" wedi dod gan yr heddlu nac Iechyd yr Amgylchedd.
Fe wnaethon nhw gadarnhau hefyd fod toiled yn y lleoliad, ac nad ydyn nhw'n bwriadu defnyddio gwydr.
Ychwanegodd y cyfreithiwr nad y rheolwyr presennol oedd yn gyfrifol am y safle dros y blynyddoedd diwethaf.
"Rydyn ni'n ceisio gweithio'n galed gyda'r awdurdod lleol o ran yr oriau," meddai, gan nodi eu bod yn hapus i gau am 17:00.
"Rydym hefyd eisiau gweithio gyda Mr Beddows a Mr Baines, gan gynnwys trafodaethau ynglŷn â mynediad i'r safle a biniau."