Menter gymunedol yn sicrhau prydles hen Ysgol Abersoch

Ysgol Abersoch
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Abersoch yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae menter leol wedi sicrhau prydles hen ysgol yng Ngwynedd er mwyn ei throi'n ganolfan gymunedol.

Mae grŵp cymunedol nid-er-elw Menter Rabar wedi sicrhau £400,000 ar ôl misoedd o ymgyrchu er mwyn adfywio hen ysgol fabanod Abersoch at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.

Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Abersoch yn 2021.

Dywedodd y grŵp mai'r bwriad yw datblygu'r ganolfan newydd i gynnwys caffi a theras, gardd, arddangosfa ar dreftadaeth Abersoch ac unedau busnes i'w rhentu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y bydd y brydles hir dymor yn caniatáu'r fenter i "wireddu cynlluniau cyffrous i ddatblygu hen safle Ysgol Abersoch i fod yn adnodd cymunedol".

Menter RabarFfynhonnell y llun, Menter Rabar
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, mae Menter Rabar wedi sicrhau £400,000 i adfywio'r hen ysgol

Dywedodd Einir Wyn, ysgrifennydd y fenter, ei bod "yn hynod falch" i weld yr hen ysgol yn ôl ym mherchnogaeth y gymuned.

"Bydd y prosiect yn dathlu a diogelu treftadaeth unigryw y pentref a'r gymuned trwy arddangosfa ac archif gyffrous, ryngweithiol," meddai.

"Bydd yn ganolfan fenter ffyniannus, yn cynnig man gweithio hyblyg a fforddiadwy i weithwyr cartref ac entrepreneuriaid i'w rentu.

"Cynigia'r caffi a'r ardd amrywiaeth gyfleoedd gwirfoddoli tra'n darparu gofod a ddyluniwyd yn hyfryd, sydd wir ei angen, yn y pentref."

'Taith hir a heriol'

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni'r adeilad drwy osod paneli solar a phwmp gwres o'r aer, ynghyd â darparu pwyntiau gwefru i geir trydan.

Dywedodd Ms Wyn y bydd yr iaith a diwylliant Cymraeg yn cael ei rannu "â phawb sydd yn ymweld, gweithio a byw yn Abersoch trwy gydol y flwyddyn".

Ychwanegodd y "bu'n daith hir a heriol ar brydiau" ond eu bod wedi profi fod cymuned Abersoch yn gallu "gwneud pethau gwych".

"Dyma ddechrau newydd i Abersoch, ac yn ôl arwyddair yr ysgol bydd yn 'hwylio i'r dyfodol'."

Y cynlluniau ar gyfer y safleFfynhonnell y llun, Menter Rabar
Disgrifiad o’r llun,

Y cynlluniau ar gyfer y safle

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod cabinet y cyngor dros dai ac eiddo: "Mae buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol amlwg i gynlluniau Menter Rabar a rydw i'n hynod falch bod y cyngor yn gallu eu cefnogi drwy gynnig prydles hir dymor i'r fenter am swm enwol.

"Mae Menter Rabar wedi llwyddo i godi llawer o arian i'w fuddsoddi yn yr eiddo i'w wneud yn hwb hygyrch yng nghanol y pentref ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau amrywiol.

"Bydd y fenter gyffrous hon yn cynnig cyfleon i'r gymuned gyfan yma; bydd yn cynnig gofod i fusnesau, lle i'r gymuned ddod ynghyd a chyfleon i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth yr ardal.

"Bydd y gweithgareddau hyn hefyd yn cyfrannu at gryfhau'r iaith Gymraeg yn yr ardal."

Arwydd yn hysbysu ymgyrch Menter Rabar
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd a gafodd ei osod ar un o gapeli'r pentref i hysbysebu'r ymgyrch y llynedd

Ychwanegodd y Cynghorydd John Brynmor Hughes, aelod lleol dros Abersoch gyda Llanengan: "Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r pwyllgor am ei ymdrech ac am ei amser i wneud hyn yn fenter lwyddiannus.

"Hefyd diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter yn ariannol. Pob lwc am y dyfodol. Ymlaen ac i fyny."