Y don newydd o artistiaid ifanc jazz Cymreig
- Cyhoeddwyd
Efallai bod Cymru yn adnabyddus am gorau meibion a Cherdd Dant ond wrth gwrs mae 'na bob math o gerddoriaeth eraill yn cael ei greu yma.
Ac yn y byd jazz mae'n gyfnod cyffrous gyda nifer o gerddorion ifanc yn dechrau dod i'r amlwg sy'n ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi sefydlu fel artistiaid.
Wrth i gyfres newydd Jazz gyda Tomos Williams gael ei darlledu ar BBC Radio Cymru, yma mae'r cyflwynydd a'r cerddor yn sôn am y to newydd o gerddorion jazz o Gymru.
Ers ymddangosiad Wynton Marsalis fel bachgen ifanc deunaw oed ar ddechrau'r wythdegau, mae'r jazz renaissance, adfywiad o fewn y gerddoriaeth sy'n denu cynulleidfa newydd a diddordeb ehangach yn y byd jazz, wedi cael ei gyhoeddi yn aml.
Mae'r trwmpedwr enwog o'r UDA yn ŵr bonheddig yn ei chwedegau erbyn hyn, ond mae'r ysfa am ganfod diddordeb ffresh a chyflwyno jazz i gynulleidfa newydd yn parhau.
Yn fwya' diweddar ry' ni wedi cael y seren Khamasi Washington o'r Unol Daleithiau, a Shabaka Hutchins a'i fandiau Sons of Kemet a The Commet is Coming o Brydain yn cyflwyno jazz i'r to ifanc drwy gyfuno jazz a rhythmau dawns.
Ac yn goron i'r cyfan gwnaeth the Ezra Collective gipio'r wobr Mercury y llynedd - y tro cynta' i fand jazz ennill y wobr nodedig yma.
Yn sgil hyn, mae yna le i gredu bod ymddangosiad nifer o gerddorion ifanc o Gymru sy'n perfformio jazz, yn brawf bod y gerddoriaeth mewn lle iachus yng ngwlad y gân.
Mae'r gantores Kat Rees o Abertawe yn astudio am ei gradd Meistr yn jazz ar hyn o bryd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ac mae hi a'r Siglo Section - band mawr traddodiadol (big band) jazz wedi rhyddhau caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg.
Mae'n debygol iawn mai dyma'r tro cynta' i'r arddull yma gael cyfansoddiadau gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg.
Dychmygwch Ella Fitzgerald a'i cherddorfa yn canu yn Gymraeg, a dy' chi ddim yn bell ohoni. Ma' Cafi Bach yn adrodd hanes gŵr daeth draw i Gymru ar y Windrush, sy'n cwympo mewn cariad, yn setlo ac yna yn agor caffi yn ardal Tiger Bay, Caerdydd.
Mae'r cyfansoddiadau wedi'u trefnu ar gyfer y Siglo Section, big band ifanca' Cymru, gan ei arweinydd, y trwmpedwr Loz Collier. Ma' Loz yn weithgar gyda nifer o brosiectau cerddorol ac yn drwmpedwr gyda'r band Afro-Cluster.
Cerddor arall o Abertawe sydd wrthi yn sefydlu enw mawr i’w hunan ar lefel Brydeinig ac yn rhyngwladol yw'r pianydd Joe Webb.
Mae ei albwm newydd Hamstrings and Hurricanes newydd gael ei ryddhau ar un o brif labeli jazz Prydain a mae Joe wedi bod yn perfformio ledled y byd yn gyson, heb sôn am berfformio gyda'r cawr Wynton Marsalis a'r pianydd Jamie Cullum.
Cyfuna Joe arddull piano stride gyda syniadau jazz modern, ac mae e' hefyd yn arddel ei Gymreictod yn gryf gyda rhai enwau Cymraeg i’w ganeuon fel Hiraeth a Breuddwyd Cariad.
Daw'r band Awen Ensemble o Leeds, ond mae ei trwmpedwr Emyr Penry Dance yn wreiddiol o Aberystwyth ac maent hwythau hefyd yn arddel ei Gymreictod.
Cyfuniad o jazz/gwerin, yw eu cerddoriaeth sydd hefyd yn cynnwys dylanwadau o'r Alban ac Iwerddon, ond enw ei albwm cynta’ yw Cadair Idris ac mae ganddynt hwythau hefyd deitlau Cymraeg i'w caneuon. Mae'r iaith Gymraeg i’w glywed ar gân agoriadol ei albwm Deuwn i Mi.
Dau enw arall o'r tô ifanc i gofio yw Eddie Gripper ac Ursula Harrison.
Mae'r pianydd Eddie Gripper wedi gweithio yn agos â Huw Warren ac Angharad Jenkins a cafodd ei albwm gynta Home adolygiadau arbennig iawn y llynedd, tra bod Ursula Harrison ar y bas yn sefydlu enw i'w hunan ac ar drothwy sefydlu gyrfa lwyddiannus iawn.
O ran canu'n Gymraeg mae dylanwad jazz hefyd i’w glywed yng nghaneuon cantorion fel Mared, Taluah, Mali Haf, Llinos Emmanuel ac Eadyth a Kizzy Crawford, heb sôn am Gwenno Morgan ar y piano wrth gwrs.
Dengys y rhestr yma boblogrwydd jazz a'i ddylanwad ar gerddorion sydd yn gweithio y tu hwnt i ffiniau'r genre.
Yn ogystal â'r to ifanc mae cewri'r sîn jazz yma yng Nghymru fel Huw Warren a Paula Gardiner yn dal i berfformio a chreu cerddoriaeth arbennig iawn.
Gallwch glywed yr holl artistiaid yma ar Jazz Tomos Williams ar BBC Radio Cymru - y cyntaf o bedair rhaglen yn cael ei darlledu nos Sul 17 Tachwedd am 1900
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd3 Awst