Pwy oedd Santes Tudful?

- Cyhoeddwyd
Mae Merthyr Tudful yn enwog am ei hanes diwydiannol, yn enwedig y gweithfeydd dur a haearn a agorwyd yn yr ardal yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Safle dur a haearn Dowlais oedd y cyntaf i agor yn y dref yn 1759, yna agorwyd tri safle enfawr arall yn yr ardal; gweithfeydd Plymouth (1763), Cyfarthfa (1765) a Penydarren (1784).
Erbyn 1830, gweithfeydd Dowlais oedd y safle haearn a dur mwyaf y byd.
Ond o ble daw'r enw ar gyfer tref Merthyr Tudful? A pwy oedd Tudful?
Dyma rywfaint o'r hanes.
Merch Brenin Brychan
Roedd Brychan Brycheiniog yn frenin pwysig yn y bumed ganrif, ac yn ôl yr hanes cafodd bedair gwraig, sawl cariad, a thua 35 o blant - 24 neu 25 o ferched ac 11 o feibion.
Ymysg ei ferched roedd Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Marchell, Meleri, Nefyn, Ceinwen, Cynheiddon, Clydai, Dwynwen, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybïe a Tangwystl.
Un arall o'i ferched, yr ieuengaf ond un, oedd y Santes Tudful, a chafodd ei geni yn Aberhonddu. Roedd Aberhonddu'n rhan o hen frenhiniaeth Garthmadryn nes i Brychan newid enw'r dalaith i Frycheiniog, yr enw sydd ar yr ardal hyd heddiw.
Cafodd Tudful a'i brodyr a chwiorydd addysg safonol gan fynychu'r ysgol yng Ngwenddwr, i'r de o Lanfair-ym-Muallt, ac roeddent yn hynod grefyddol.
Fe ymgartrefodd Tudful yn Nyffryn Taf, gan sefydlu cymuned ac eglwys Gristnogol, gyda theuluoedd yn byw ar y tir yno. Roedd Tudful yn berson gofalgar ac yn cael ei chydnabod am ei gwaith yn gwella cleifion - boed rheiny'n bobl neu'n anifeiliaid.

Mae Merthyr Tudful yn gartref i tua 60,000 o bobl heddiw
Tua'r flwyddyn 480, ag yntau'n heneiddio, roedd y Brenin Brychan eisiau gweld ei blant i drafod materion etifeddiaeth, ac felly fe deithiodd i wahanol ardaloedd i'w gweld.
Roedd gyda'i fab, Rhun Dremrudd, ei ŵyr a rhai o'i filwyr, ac fe deithiodd y grŵp i weld un o'i ferched, Tangwystl ach Brychan. Roedd Tangwystl yn byw yn Hafod Tangwystl - cymuned Gristnogol a greoedd sydd bellach yn cael ei alw'n Aberfan.
Gadawodd Brychan Hafod Tangwystl a theithio i weld Tudful.
Ymosodiadau Paganaidd
Yn y cyfnod yma roedd Cristnogion cynnar Cymru'n gwrthdaro'n aml gyda llwythi a phobloedd eraill - Paganiaid o Gymru, llwythi o Baganiaid Iwerddon, Pictiaid o'r Alban a oedd wedi setlo ym Maesyfed, ac wrth gwrs yr Eingl-Sacsoniaid o'r dwyrain.
Does dim sicrwydd pa grŵp, neu pha gyfuniad o grwpiau, oedd yn gyfrifol, ond fe ymosodwyd ar Hafod Tangwystl ac ar gymuned Tudful. Lladdwyd pawb yn Hafod Tangwystl yn ôl y sôn, gan gynnwys Tangwystl ei hun a'i brawd, Rhun.
Roedd rhai o gymuned Tudful wedi ymladd neu redeg am eu bywydau, ond yn ôl yr hanes pan gafodd Tudful ei dal fe wrthododd ymladd na ymbil am ei bywyd. Yn hytrach, roedd ar ei gliniau yn gweddïo, ac fe'i lladdwyd yn y fan a'r lle.

Eglwys Santes Tudful, Merthyr Tudful
Claddwyd Tudful yn yr eglwys y gwnaeth hi ei hun ei sefydlu.
Mae eglwys wedi bod ar y safle ers dros 1,550 o flynyddoedd, bellach, er iddo gael ei hadnewyddu yn y 13eg ganrif, yn ystod Oes Fictoria ac yn ddiweddar iawn.
Pan gafodd Tudful ei chanoneiddio fel Santes cafodd yr eglwys ei henwi'n Eglwys Santes Tudful.

Bathodyn Clwb Pêl-Droed Merthyr heddiw, sydd â delwedd o Tudful arno. Llysenw'r clwb - sydd newydd ennill dyrchafiad - ydi'r Merthyron/The Martyrs
Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd y dref ei henwi'n Merthyr Tudful i anrhydeddu ble cafodd Tudful ei lladd.
Ystyr y gair Lladin Martyrium yw 'man cysegredig' a daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei hail ystyr, sef 'eglwys er cof am sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd'.
Wrth gwrs mae llefydd eraill yng Nghymru sy'n cynnwys y gair 'Merthyr', fel Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Cynog ym Mhowys.
Dros amser mae fersiynau mwy Seisnig o enw'r dref wedi eu defnyddio am gyfnodau, gan gynnwys 'Merthyr Tudfil' a 'Merthyr Tidvil', ac heddiw yr enw Saesneg yw Merthyr Tydfil.
Er hyn, mae'r enw Cymraeg a'r gydnabyddiaeth i ferthyr yr ardal yn parhau i fod yn ganolog i hanes a hunaniaeth y dref, ac mae dydd gŵyl Santes Tudful yn cael ei ddathlu ar 23 Awst.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024