Joyce-Butchers i ennill cap 50 i Gymru yn erbyn Awstralia

Jasmine Joyce-ButchersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jasmine Joyce-Butchers ar gytundeb proffesiynol arbennig sy'n caniatáu iddi chwarae rygbi'r undeb a saith bob ochr

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Jasmine Joyce-Butchers ennill ei 50fed cap ddydd Gwener, wrth i ferched Cymru anelu at wneud y dwbl dros Awstralia yn Sydney.

Mae'r prif hyfforddwr, Sean Lynn, wedi gwneud saith newid i'r tîm a enillodd y prawf cyntaf o 21-12 yn Brisbane, wrth baratoi at gêm olaf Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd ym mis Awst.

Bydd y gêm yn dechrau am 10:00 amser Cymru, ac yn cael ei chwarae ar gae'r North Sydney Oval.

Dywedodd Sean Lynn fod y garfan wedi cael gwybod "cyn i ni ddod allan, y byddai pob chwaraewr yn cael amser chwarae yma yn Awstralia a dyna pam rydyn ni wedi gwneud saith newid i'r tîm sy'n cychwyn".

Sean LynnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sean Lynn fod y saith o chwaraewyr sydd wedi'u dewis angen bod yn "ddewr"

Esboniodd Lynn fod y saith chwaraewr sy'n cael dechrau wedi cael cyfarwyddiadau i fod yn "ddewr" ac i "hawlio lleoedd yng Nghwpan y Byd".

"Rydyn ni'n gwybod y byddwn ni'n wynebu tîm sydd wedi'u hanafu ac yn benderfynol o wneud safiad o flaen eu torf gartref yn Sydney," meddai.

Mae disgwyl i garfan Cwpan y Byd gael ei henwi pan fyddan nhw'n cyrraedd adref, gyda gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Alban ar 23 Awst ym Manceinion.

Bydd gemau yn erbyn Canada a Ffiji yn dilyn, gyda dau dîm o'r grŵp yn symud ymlaen i'r rowndiau nesaf.

Chwe newid i Awstralia

Awstralia: Caitlyn Halse; Maya Stewart, Georgina Friedrichs, Trilleen Pomare, Desiree Miller; Faitala Moleka, Samantha Wood; Faliki Pohiva, Katalina Amosa, Bridie O'Gorman, Kaitlan Leaney, Michaela Leonard, Piper Duck, Emily Chancellor (capten), Tabua Tuinakauvadra.

Eilyddion: Tania Naden, Lydia Kavoa, Alapeta Ngauamo, Ashley Fernandez, Ashley Marsters, Layne Morgan, Tia Hinds, Waiaria Ellis.

Cymru: Nel Metcalfe; Jasmine Joyce-Butchers, Carys Cox, Courtney Keight, Lisa Neumann; Kayleigh Powell, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Gwen Crabb, Abbie Fleming, Kate Williams (cyd-gapten), Bethan Lewis, Alex Callender (cyd-gapten).

Eilyddion: Molly Reardon, Maisie Davies, Jenni Scoble, Alaw Pyrs, Georgia Evans, Meg Davies, Lleucu George, Catherine Richards.

Pynciau cysylltiedig