Cyllideb yn rhoi arian ym mhocedi pobl sydd ei angen fwyaf - Drakeford
Mae'r Gyllideb yn "flaengar" meddai Mark Drakeford, am ei bod yn "codi arian mas o bocedi pobl sy'n gallu talu" a'i roi i bobl sydd ei angen fwyaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gyllideb yn "rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sydd ei angen fwyaf", yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford.
Wrth gyhoeddi'r Gyllideb ddydd Mercher, dywedodd Llywodraeth y DU y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £320m ychwanegol i'w wario ar wasanaethau o ddydd i ddydd, a £185m ar seilwaith dros y pedair blynedd nesaf.
Roedd cyhoeddiadau'r Canghellor yn cynnwys diwedd ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn a chodiadau treth sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, ymhlith newidiadau eraill.
Prawf bod "Cymru'n cael ei thwyllo eto" oedd y Gyllideb yn ôl Plaid Cymru, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y cynlluniau'n "cosbi'r union bobl sy'n cadw ein heconomi i redeg".
Ond yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "hyderus bydd y Gyllideb yn gweithio i ni yng Nghymru".
Cyllideb 2025: '£505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Natur y Gyllideb 'yn mynd i greu problemau' i Lywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Y Gyllideb: 'Gas, 'lectrig a phrisiau bwyd' yn poeni pobl Bangor
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ychwanegodd: "Dwi'n dechrau edrych ar y manylion ond dwi'n hyderus bydd y Gyllideb yn gweithio i ni yng Nghymru achos Cyllideb Llafur yw e, Cyllideb sy'n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sydd ei angen fwyaf a dyna be' sy'n bwysig i ni yma yng Nghymru."
Dywedodd y bydd mwy o arian i bensiynwyr o ganlyniad i'r Gyllideb yn ogystal â mwy o gymorth gyda biliau ynni a diwedd ar y cap dau blentyn a fydd yn cael "effaith fawr".
Ychwanegodd fod y Canghellor wedi "codi arian o bocedi pobl sy'n gallu talu trethi".
"Dyna pam mae'n Gyllideb flaengar achos mae'n codi arian mas o bocedi pobl sy'n gallu talu a ma'n rhoi'r arian mewn i bocedi pobl sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Geraint Hughes, sy'n rhedeg cwmni arwerthu tai yng Ngheredigion, nad yw'r Gyllideb yn "gwneud dim byd i gefnogi tyfiant".
"Wrth godi'r dreth incwm... mae hynny'n rhywbeth arall sy'n mynd i hybu landlords i werthu tai," meddai.
"Maen nhw wedi rhoi lot mwy o bwysau ar landlords i 'neud yn siŵr fod gan y tenants lot mwy o safety net a'r broblem mae hynny wedi creu ydi fod landlords yn tynnu allan o'r farchnad ac yn gwerthu eu tai."
Ychwanegodd fod codi'r isafswm cyflog hefyd yn creu problem, gan ddweud "wrth godi'r cyflog mae'n rhwystro busnesau rhag cyflogi".

"Ar y cyfan sai'n credu fod gormod am effeithio ni fel busnes bach," meddai Iolo ap Dafydd
Mae Iolo ap Dafydd yn rhedeg cwmni Saunas Aberpoeth gyda'i frawd yn Aberystwyth.
"Ar y cyfan sai'n credu fod gormod am effeithio ni fel busnes bach," meddai.
"Fy mhrif bryder yw stad yr economi yn y Deyrnas Unedig. Mae Llafur wedi bod i fewn am flwyddyn heb gael lot o positives neu lot o bethau wedi mynd yn erbyn nhw."
Dywedodd nad yw'r cynnydd i'r isafswm cyflog yn destun pryder iddo fel perchennog busnes ond bod y costau yn gyffredinol wedi bod yn "reality check".
"I ni mae o am ddysgu a trio cadw'r balans gyda peidio gor-staffio... [ond] ni wedi bod yn weddol brysur dros yr haf."
'Newid da i nifer fach o ffermwyr'
Dywedodd Gareth Parry o Undeb Amaethwyr Cymru fod y "newid bach" i'r dreth etifeddiant yn llwyddiant i'r undeb a'r diwydiant amaeth.
Mae Mr Parry yn croesawu'r newid sy'n caniatáu i ŵr a gwraig, neu bartneriaid sifil, drosglwyddo unrhyw ran o'u lwfans gwerth £1m i'w gilydd cyn gorfod talu'r dreth.
"Mae'n gwneud y sgwrs etifeddiaeth dipyn yn haws," meddai.
"Mae'n newid bach ond mae'n mynd i helpu llawer o fusnesau bach."
Ond dywedodd nad yw'n ddigon i dawelu pryderon y sector amaeth am y newidiadau i'r dreth etifeddiant a fydd yn dod i rym yn 2026.
"Mae hwn yn newid da i nifer fach o ffermwyr, ond mae'r ethos y newidiadau i'r dreth dal yna yn gryf iawn," meddai.
'Lot mwy o bobl am dalu mwy o drethi
Dywedodd y cyfrifydd Aled Wyn Thomas fod y newidiadau i'r dreth etifeddiant yn "bwysig i ffermydd bach teuluol".
"Ma'r gallu i drosglwyddo'r lwfans £1m i un priod yn golygu, fel enghraifft, fod modd i fferm tua 250 erw i allu osgoi treth etifeddiaeth tra cyn y cyhoeddiad ddoe falle fferm tua 125 bydde wedi gallu osgoi'r dreth," meddai.
"Ond y datganiad mwyaf pellgyrhaeddol yw'r penderfyniad i gadw trothwyon treth incwm ac yswiriant gwladol yr un peth tan o leiaf 2031.
"Mae lot mwy o bobl am dalu mwy o drethi wrth i gyflogau godi dros y blynyddoedd nesaf."

O'r chwith, Nanw Maelor, Gwenno Roberts a Elliw Huws
Dywedodd Nanw Maelor, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, fod "gymaint o bethau sy'n berthnasol i fyfyrwyr" yn y Gyllideb ond nad yw llawer yn talu sylw iddo.
Rhent yw un o'r pethau pwysicaf i fyfyrwyr, meddai, gyda'r farchnad yn "hynod o gystadleuol" a phrisiau yn codi.
A gyda landlordiaid i dalu mwy mewn treth incwm, mae Nanw'n poeni y bydd y gost yn cael ei drosglwyddo i fyfyrwyr.
"Ma siŵr fydd y gost yn cael ei basio mlaen i fyfyrwyr, fydd y rhent yn codi o ganlyniad i hynny, sgil effeithiau anuniongyrchol falle fydd y myfyrwyr ddim yn ymwybodol," meddai.
'Costau byw yn ofni fi'
Dywedodd Gwenno Roberts sy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn ei bod hi a'i ffrindiau "wedi synnu" ar yr "amodau byw" ar ôl dechrau rhentu yn Aberystwyth.
Mae hi a'i ffrindiau yn mynd i'r llyfrgell yn lle aros yn "oerfel" ei thŷ sydd mor gostus i gadw'n gynnes.
Ychwanegodd: "Ma gymaint o gostau gyda ni - ma raid i chi ddewis beth chi eisiau blaenoriaethu felly o ran y gyllideb - ma'n codi ofn arnai o ran y costau sydd i ddod."
Costau byw yw'r prif bryder i Elliw Huws hefyd, sy'n gweithio tra'n astudio yn y brifysgol.
"Mae costau byw yn amlwg ar ei waetha dwi erioed wedi ei weld, a deud hynna yn 18 oed, ond ma jyst yn anodd achos y prif beth sy'n sticio allan o'r gyllideb ydy costau byw," meddai.
"Mae pris talu am brifysgol yn codi, does 'na ddim sôn bod y benthyciad dan ni'n ei dderbyn yn mynd i godi."
Ychwanegodd: "Dwi wedi stryglo â'r syniad bod ni fel myfyrwyr yn gorfod safio, gorfod mynd allan i weithio... a trio wedyn cofio bod y brifysgol ddim i gyd am yr ochr academaidd - ma'n rhaid i ni fwynhau o, sicrhau bod yr ochr gymdeithasol gennyn ni."

Mae Undeb Glowyr De Cymru wedi croesawu'r penderfyniad i drosglwyddo cronfa fuddsoddi wrth gefn Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain i'w aelodau
Cyhoeddodd y canghellor ddydd Mercher hefyd y bydd yn trosglwyddo cronfa fuddsoddi wrth gefn Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain i'r aelodau fel bod y rhai oedd yn gweithio yn y diwydiant "yn cael bargen deg yn eu hymddeoliad hefyd".
Wrth ymateb dywedodd Wayne Thomas, Ysgrifennydd Undeb Glowyr De Cymru, eu bod wedi aros blynyddoedd am gyhoeddiad o'r fath.
"Ni'n falch iawn achos mae glowyr Cymru, Lloegr a'r Alban wedi bod yn aros am yr arian i ddod nôl am flynyddoedd mawr," meddai.
"Mae rhai pethau ni ddim yn gwybod eto wrth gwrs, o ran pryd ma' fe'n dod mas, ni'n gobeithio bydd e'n dod mas diwedd Rhagfyr ond mae e'n rhyfeddol i ddweud y gwir ac wedi cymryd blynyddoedd i gyrraedd y fan hyn."
Ychwanegodd ei bod hi'n drist iawn fod cymaint o lowyr a fyddai wedi elwa o'r cyhoeddiad yma bellach wedi marw.
"Os bydde fe wedi cael ei wneud blynyddoedd mawr yn ôl byddai lot o bobl wedi cael y codiad.
"Mae 40,000 o bobl yn mynd i gael uplift ar pensions nhw. Ni ddim yn siŵr nawr faint o niferoedd sydd yng Nghymru ond fel ni'n deall mae'r uplift yn mynd i gael ei dalu nôl o fis Tachwedd y llynedd felly dwi'n credu bydd e'n cyrraedd lot o bobl.
"...Dylen nhw ddim fod wedi cymryd yr arian mas yn y lle cyntaf, ond ni'n falch iawn eu bod nhw wedi talu'r arian nôl o'r diwedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.