'Torcalonnus' - lefelau sbwriel strydoedd Cymru 'y gwaethaf erioed'

Sbwriel wedi ei striwio ar draws palmant, gyda bag du a bin sbwriel yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae sbwriel yn "bryder mawr" ledled Cymru, yn ôl cynghorau

  • Cyhoeddwyd

Mae sbwriel wedi dod yn "argyfwng" meddai ymgyrchwyr, ar ôl i arolygon o lendid strydoedd ledled Cymru ddatgelu'r sefyllfa waethaf erioed.

Yn ôl elusen Cadwch Gymru'n Daclus mae'r cynnydd mewn pecynnau byrbrydau a photeli diod sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith yn achosi "ymddygiad brawychus", gan rybuddio am "don o sbwriel sy'n frwydr i'w atal".

Dywedodd cynghorau ei bod hi'n anodd iawn i gynnal cyllidebau ar gyfer glanhau strydoedd yn wyneb costau cynyddol mewn meysydd eraill, fel gofal cymdeithasol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau mwy o ardaloedd glan dros y wlad.

Cynnydd 286% yn y strydoedd gwaethaf

Wrth gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol mae Cadwch Gymru'n Daclus yn dweud i'w harolygon glendid strydoedd ddatgelu'r canlyniadau gwaethaf ers iddyn nhw ddechrau cynnal y gwaith ymchwil 17 mlynedd yn ôl.

Roedd y broblem ar ei gwaethaf mewn trefi a dinasoedd - gyda mwy na 35% o ardaloedd trefol yn profi lefelau "annerbyniol" o sbwriel.

Roedd yna gynnydd hefyd o 286% yn nifer y strydoedd mwyaf llygredig, oedd yn derbyn gradd 'D' ar gyfer glendid.

Ar draws Cymru, sbwriel yn gysyltiedig ag ysmygu a phecynnau bwyd a diod oedd i'w weld fwyaf aml, gydag unigolion yn taflu sbwriel fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol.

Nododd elusen Keep Britain Tidy bod y sefyllfa'n debyg ar draws y DU, a phrin iawn oedd y lleoliadau yn Lloegr heb sbwriel, yn ôl eu harolygon.

Er eu bod hwythau wedi "datgan argyfwng sbwriel" yn 2022, dywedodd Keep Scotland Tidy bod lefelau sbwriel ar strydoedd yn dal i gynyddu.

Lynne Thomas yn edrych at y camera mewn ffrog flodeuog, gyda adeilad gymunedol tu ol iddi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn "dorcalonnus" i drigolion Sblot, ond mae llawer y gall unigolion wneud, meddai Lynne Thomas

Yng Nghaerdydd, roedd lleoliadau nifer o'r strydoedd 'D' gwaethaf yn cyfateb ag ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas fel Sblot, Trelái a Grangetown.

"Pryd mae na loads o sbwriel o gwmpas mae pobl yn colli calon" yn ôl Lynne Thomas, sy'n trefnu sesiynau casglu sbwriel unwaith y mis o amgylch Sblot.

"Mae'n effeithio lles meddwl nhw - mae pobl lawr, maen nhw'n isel," meddai.

Yn ôl Ms Thomas mae lot o'r llanast yn cael ei achosi gan bobl yn rhoi eu biniau allan yn anghywir, yn enwedig yn dilyn newidadau i'r drefn ailgylchu yn lleol.

"Alle pethe fod yn well - os ydy pobl yn rhoi'r bags anghywir allan a wedyn dyn nhw ddim yn cael eu casglu am mwy na phythefnos, ma seagulls yn torri y bagiau a ma'r sbwriel yn mynd dros y ffordd i gyd.

"Hefyd ma'r gwynt yn chwythu y sbwriel lawr y strydoedd - a ma 'da ni strydoedd hir iawn yma yn Sblot felly ry'n ni'n teimlo hynny."

Pentwr o wastraff gan gynnwys bagiau du, bocsys cardfwrdd a carped, wedi ei adael yn anghyfreithlon nesa i wal gefn cartref a gwrych.
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod sbwriel fel hyn, tu ôl stâd yn Sblot, yn newid sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau

Yn rhinwedd ei gwaith fel prif weithredwr mudiad Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot mae'n pwysleisio bod yna offer casglu sbwriel ar gael i'w fenthyg yn lleol.

"Y peth yw da ni ddim gorfod aros i'r cyngor 'neud popeth amdanon ni - allwn ni helpu ein hunain a pobl ni'n byw ymysg," meddai.

'Ychydig o bobl hunanol'

Wrth arwain grŵp yn casglu sbwriel o amgylch stad yn ardal Sblot, daw Gareth Davies o Cadwch Gymru'n Daclus ar draws pentwr mawr o sbwriel gan gynnwys bagiau du gorlawn, bin gwastraff bwyd wedi ei dorri, a hyd yn oed hen garped.

Gan nad yw hi'n ddiogel i'r gwirfoddolwyr dacluso'r pentwr, mae'n rhaid galw'r cyngor i ddelio ag e.

Dyn yn gwisgo siaced Cadwch Gymru'n Daclus a cap yn edrych at y camera, gyda pentwr mawr o sbwriel wedi ei daflu yn anghyfreithlon y tu ol iddo
Disgrifiad o’r llun,

Mae atal sbwriel ar strydoedd Cymru yn "frwydr" yn ôl Gareth Davies sydd wrthi'n ceisio ei dacluso

"Mae pobl yn prowd i fyw yn Sblot, i fyw yn Gaerdydd, am eu ardal nhw a weithiau ddim y pobl o'r stad sydd yn tipio'n anghyfreithlon, weithiau mae'n pobl sy'n dod mewn i'r cymunedau a taflu y sbwriel i fewn."

"Mae'n edrych yn really gwael, mae'n ddrewllyd hefyd. A [mae'n gallu golygu bod] llygod mawr yn dod i fewn i'r gerddi, i dai pobl."

Can cwrw gwag wedi ei adael ar ei ochr mewn pwll dwr budr nesaf i balmant.
Disgrifiad o’r llun,

"Hunanol" yw disgrifiad Norma Mackie o'r rhai sy'n taflu sbwriel

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, aelod cabinet dros wastraff ar Gyngor Caerdydd fod "sbwriel, boed o'n cael ei ollwng ar y ddaear neu ei daflu o gerbydau, yn cael ei achosi gan ychydig o bobl hunanol".

"Pe bai pobl sy'n gadael sbwriel yn defnyddio'r biniau sbwriel sy'n cael eu darparu ar y stryd, neu'n cael gwared â sbwriel gartref ar ôl eu taith, yna fe allai'r arian sy'n cael ei wario ar y broblem hon ar hyn o bryd gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau eraill," meddai.

Gyda'i gilydd, gwariodd cynghorau yng Nghymru fwy na £64m ar lanhau strydoedd yn 2023-24, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dweud ei fod yn "broblem enfawr" i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Rhybuddiodd hefyd fod yr angen am fwy o arian ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol yn golygu bod cyllidebau eraill yn cael eu gwasgu.

Llun wedi ei dynnu ar lefel y llawr, yn dangos sbwriel o'r cartref gan gynnwys tiniau, potiau iogwrt a bagiau plastig yn gorwedd ar palmant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dinasoedd yn arbennig o wael, ond mae pob man yng Nghymru yn profi lefelau uwch o sbwriel nag erioed o'r blaen

Mae CLlLC - sy'n cynrychioli awdurdodau lleol ar draws Gymru, a Cadwch Gymru'n Daclus wedi annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda chynlluniau sydd wedi eu gohirio i orfodi cynhyrchwyr pecynnu i dalu tuag at gostau clirio sbwriel.

Mae cynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chaniau sy'n hirddisgwyliedig hefyd wedi ei oedi yn dilyn anghytundebau gyda Llywodraeth y DU dros benderfyniad Cymru i gynnwys gwydr yn y cynllun.

Dywedodd Owen Derbyshire, prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, fod Llywodraeth Cymru yn "cymryd camau pwysig" ond bod angen cynllun hirdymor ar gyfer lleihau sbwriel stryd.

"Be' sy'n eitha clir o'r data yw bod y cyd-destun ry'n ni'n gweithio ynddi yn anoddach na mae fe erioed wedi bod."

Mae'r elusen eisiau ymgyrchoedd addysg gyhoeddus torfol, gorfodaeth gryfach o ddeddfau sbwriel a "symud oddi wrth ddiwylliant untro".

Ond dywedodd Mr Derbyshire nad mater i'r llywodraeth na'r cynghorau yn unig oedd hyn.

"Fi'n deall yn iawn pam fod cymunedau yn grac am hwn," meddai.

"Ond beth y'n ni'n dechrau sylweddoli ydy nid bai un partner yw hwn. Mae gyda ni gyd gyfrifoldeb, mae gyda ni gyd rôl i chwarae os ni isie gwella'r sefyllfa yma."

'Taclo sbwriel yn allweddol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid, yn cynnwys Cadwch Gymru'n Daclus, gan ein bod eisiau gweld mwy o ardaloedd glan ac sy'n cael gofal ar draws Cymru".

Ychwanegodd y llefarydd bod "taclo sbwriel a phroblemau amgylcheddol lleol yn allweddol" a bod y llywodraeth wedi rhoi rhagor o arian i Cadwch Gymru'n Daclus gynnal rhagor o weithgareddau, ac yn gweithio ar gynllun dychwelyd poteli "sy'n gweithio i Gymru".