'Gwario llai ar dai, ffyrdd a llyfrgelloedd heb setliad teg'

Mae cost darparu gwasanaethau ar gyfer plant a'u teuluoedd wedi codi 94% i gynghorau rhwng 2008-09 a 2023-24
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n galw am "setliad ariannol cynaliadwy a theg".
Daw wedi iddi ddod i'r amlwg fod mwy a mwy o arian y cynghorau yn mynd at wasanaethau cymdeithasol a bod llai i'w wario ar ffyrdd, llyfrgelloedd a thai.
Mae'r corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus, Swyddfa Archwilio Cymru, yn rhybuddio y gallai'r sector llywodraeth leol fod yn "anghynaladwy yn y tymor hir".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cynghorau lleol wedi cael dros £6bn eleni.
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
Dros gyfnod o 15 mlynedd mae newid amlwg wedi bod yn y ffordd mae cynghorau'n gwario eu harian, a hynny'n destun ymchwiliad gan Archwilio Cymru ddiwedd y llynedd.
Fe edrychon nhw ar y newid yn y gwariant dros gyfnod o 15 mlynedd, o 2008-09 hyd at 2023-24.
Dros y cyfnod hwnnw roedd gwariant ar wasanaethau gofal plant a theulu wedi codi 94%, gyda chynnydd tebyg (92%) ar amddiffyn rhag llifogydd, a 31% yn fwy yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol pobl hŷn.
I'r gwrthwyneb, mae 'na ostyngiad wedi bod yn yr hyn sy'n cael ei wario ar lyfrgelloedd (41%), ffyrdd a phriffyrdd (37%), a thai (21%), ar ôl ystyried effaith chwyddiant.

Mae gwariant cynghorau ar lyfrgelloedd wedi gostwng 41% mewn 15 mlynedd, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru
Ategu hynny mae arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price, sydd hefyd yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
"Ni 'di gweld cynnydd mawr yn y gwariant yn nhermau gofal cymdeithasol i blant ac oedolion," meddai.
"Mae 'na bwysau mawr hefyd o ran addysg ac anghenion ychwanegol a chwymp mawr yn y gwariant ar briffydd, ar bethau diwylliannol, llyfrgelloedd, tai, felly mae gwahanol stori'n perthyn i wahanol adrannau."

Mae yna bwysau maawr ar gyllidebau addysg hefyd, medd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Darren Price
Mae Archwilio Cymru, a wnaeth yr ymchwil, yn rhybuddio all hi ddim parhau fel hyn.
"Mae 'na risg bod y sector llywodraeth leol yng Nghymru yn anghynaladwy yn ariannol yn y tymor canolig a'r tymor hir oni bai bod y cynghorau a'u partneriaid yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â'r sefyllfa," meddai'r rheolwr archwilio Euros Lake.
"Mae gynnoch chi betha' fath â chwyddiant, cyfraddau llog - rheiny'n arwain at gostau cynyddol o ran nwyddau, gwasanaethau benthyca hefyd.
"Mae hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllidebau cynghorau - yn yr un modd mae prisiau ynni dros y blynyddoedd diwetha' wedi cynyddu, costau cynnal adeiladau, a rhedeg gwasanaethau cyhoeddus."

Yn ôl Euros Lake, mae 'na berygl bod y sector llywodraeth leol yn "anghynaladwy yn ariannol"
Yn ôl Dr Marlene Davies, cyn-bennaeth cyfrifeg ym Mhrifysgol De Cymru, mae perygl y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn llyncu mwy a mwy o arian.
"Mwy na thebyg byddan nhw - y peth yw, mae costau byw wedi codi," meddai.
"Mae pobl yn gweld trafferthion yn talu rhent, talu morgais.
"Mae hwnna'n golygu ambell waith bod rhaid mynd o'u cartrefi, maen nhw'n gorfod byw mewn gwestai, a mae hwnna'n effeithio ar blant ac mae mwy o blant yn gorfod cael mwy o ofal.
"Mae'r henoed yn cael mwy o ofal yn eu cartrefi, er maen nhw'n gorfod cyfrannu at hynny."

Dywed Dr Marlene Davies fod perygl y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn llyncu mwy a mwy o arian
Ond oes angen i gynghorau edrych ar y ffordd y maen nhw'n gweithredu a newid ambell i beth, o ystyried y rhybudd gan Swyddfa Archwilio Cymru fod angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa?
"Mae hynny 'di bod yn digwydd yn barhaol dros y 15 mlynedd diwetha'," ydy ateb y Cynghorydd Darren Price.
"Dwi 'di bod yn gynghorydd sir ers dros 20 mlynedd ac mae'r rhan fwya' o'r blynyddoedd yna'n golygu tocio ar wariant, edrych ar systemau mewnol, lleihau staff, defnyddio technoleg newydd."

Mae costau amddiffyn llifogydd wedi codi 92% i gynghorau mewn 15 mlynedd, mewn ymgais i osgoi'r math o ddifrod a welwyd ym Mhontypridd wedi Storm Bert y llynedd
"Mae'n digwydd yn barhaol," ychwanegodd.
"Yma yn Sir Gaerfyrddin 'dan ni'n cymryd miliynau o bunnau bob blwyddyn mas o'r system just drwy drio gweithio'n fwy effeithiol, ond mae'n cyrraedd pwynt nawr, mae'n rhaid torri gwasanaethau neu gynyddu treth y cyngor yn fwy nag y bydden ni mo'yn.
"Ni mor ddibynnol ar yr arian sy'n dod o Lywodraeth Caerdydd a Llywodraeth San Steffan, a dyna pam mae hi mor bwysig fod 'na setliad cynaliadwy a theg i gynghorau sir ar draws Cymru."
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynghorau wedi cael dros £6bn o'r setliad ariannol eleni, yn ogystal â £1bn mewn grantiau penodol ychwanegol.
Maen nhw'n dweud bod hynny'n gynnydd o dros £253m o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
Bydd cyllideb ddrafft yn yr hydref o ran yr arian ar gyfer y flwyddyn nesaf.