Cwestiynu AS wedi trosglwyddiad fferm cyn cyhoeddi newid treth
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau wedi eu codi am Aelod Seneddol Llafur Cymreig wedi iddi ddod i'r amlwg i'w rieni drosglwyddo tir amaethyddol i enw eu mab 20 diwrnod cyn y gyllideb eleni.
Ar 10 Hydref eleni, fe drosglwyddodd Mark a Jane Tufnell, rhieni Aelod Seneddol Canol a De Penfro Henry Tufnell, berchnogaeth Upper Colne Farm and Stud i'w mab arall, Albermarle.
Mewn datganiad ar 30 Hydref, cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai'n rhaid talu 20% mewn treth etifeddiant ar asedau amaethyddol gwerth dros £1m o fis Ebrill 2026. Mae'r ffigwr hwnnw yn codi i £3m ar gyfer cyplau priod.
Doedd Henry Tufnell ddim am wneud sylw pan gysylltodd Newyddion S4C â'i swyddfa i ofyn a oedd wedi rhannu gwybodaeth fewnol am y cynlluniau i newid rheolau treth etifeddiant gyda'i deulu.
Ond fe ddywedodd Mr Tufnell wrth y Daily Mail: "Rwy'n cydnabod bod hwn yn edrych yn wael, ond does dim alla'i wneud amdano fe.
"Am wn i y pwynt yw mai dy deulu yw dy deulu, mae Dad wedi cael cyngor treth a siarad gyda chynghorwyr ariannol a dechrau cynllunio at y dyfodol. Ond dyw hynny ddim o ganlyniad i unrhyw beth rwy'i wedi dweud wrtho fe."
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd
Os yw eiddo yn cael ei drosglwyddo saith mlynedd neu fwy cyn marwolaeth unigolyn, does dim rhaid i'r etifedd dalu'r dreth.
Ar hyn o bryd, mae asedau amaethyddol wedi eu heithrio rhag treth etifeddiant.
Bu protestio gan ffermwyr yn dilyn datganiad Rachel Reeves, ac mae sawl un hefyd wedi dweud eu bod nhw'n grac wedi i'r manylion am drefniadau treth teulu Henry Tufnell ddod i'r amlwg.
Does dim awgrym bod trosglwyddo Upper Colne Farm i Albermarle yn anghyfreithlon.
'Halen yn y briw'
Dywedodd Hefin Jones, cadeirydd undeb amaethyddol NFU Cymru yn Sir Gâr, a chynghorydd Plaid Cymru: "Fyddwn i'n teimlo bod yr hyn mae Henry Tufnell, Aelod Seneddol Llafur wedi gwneud yn rhoi halen yn y briw mewn gwirionedd achos mae'r mater yma o dreth etifeddiant yn dipyn o daten dwym ar hyn o bryd ac wrth gwrs ma'r optics [yn wael] on'd yw e.
"Y ffordd mae hyn yn ymddangos yw bod y wybodaeth byddai e wedi gallu cael drwy fod yn Aelod Seneddol Llafur wedi, o bosib, rhoi'r cyfle iddo fe i weithredu yn y ffordd hyn."
Yn etholaeth Henry Tufnell, mae Aled Thomas yn gynghorydd sir sydd hefyd yn ffermio.
Mae'n codi cwestiynau am amseriad newid perchnogaeth Upper Colne Farm and Stud.
Dywedodd: "Pam mae'r newid yma wedi dod just cyn y budget? Mae cwestiynau i Henry ateb.
"Fi'n credu ar ddiwedd y dydd bydd Henry yn atebol i bobl Sir Benfro a bydd pobl fan hyn yn gwneud meddwl eu hunain lan ynglŷn â beth roedd Henry yn gw'bod neu beidio."
Doedd Henry Tufnell ddim am wneud sylw i Newyddion S4C pan ofynnwyd am ymateb.
Mae rhieni a brawd yr Aelod Seneddol hefyd wedi cael cais am ymateb.
Does dim awgrym o dor cyfraith.
Fe gafodd yr erthygl hon ei diweddaru ar 9 Rhagfyr i roi mwy o gyd-destun o amgylch sylwadau Henry Tufnell.