Ffermwr 'methu â chysgu' dros newid treth etifeddiant

Jacob Anthony a'i dad Peter, sy'n ffermio ger Tondu, Pen-y-Bont ar OgwrFfynhonnell y llun, Jacob Anthony
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jacob a'i dad Peter yn poeni am orfod gwerthu tir yn y dyfodol i fforddio bil treth etifeddiant

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr yn dweud iddo "fethu â chysgu" a theimlo "ofn" ers cyhoeddiad ar newidiadau i dreth etifeddiaeth gan y llywodraeth.

Mae Jacob Anthony o Ben-y-Bont ar Ogwr yn pryderu y bydd yn rhaid gwerthu rannau o'i fferm deuluol 700 erw er mwyn fforddio bil treth yn y dyfodol, gan ddweud y byddai'i gyndeidiau yn gandryll.

Mae Mr Anthony yn bwriadu teithio i Lundain ddydd Mawrth i ymuno â phrotest gan ffermwyr o bob rhan o'r DU yn erbyn y newidiadau.

Mynnu mae'r Trysorlys bod y newidiadau gan y Canghellor Rachel Reeves yn rhai "teg a chytbwys", fydd yn helpu ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amaethwyr yma yn teithio o Gaerfyrddin ddydd Mawrth i ymuno â'r brotest yn Llundain

Mae Jacob yn cynrychioli'r pumed cenhedlaeth o'i deulu ar fferm Cwm Risca, Tondu, gyda'i 1,000 o ddefaid a 300 o wartheg.

"Rwy moyn y cyfle i allu pasio hyn ymlaen i fy mhlant i yn dyfodol, a dwi'n teimlo fel bod y llywodraeth yma'n cymryd hynny oddi wrtho' ni," meddai dan deimlad, gan ymddiheurio am fod "yn emosiynol".

"Ond dwi mor, mor grac gyda nhw," ychwanegodd.

Fe gollodd Jacob ei dad-cu yn 2022, ac mae ei dad, Peter yn dweud bod hynny wedi rhoi dealldwriaeth ddyfnach i'r teulu o oblygiadau'r newid sydd i ddod.

"Y'n ni wedi bod yn rhoi trefn ar bethau yn ddiweddar iawn yn dilyn colli Dad," esboniodd Peter.

Petai wedi bod yn rhaid talu bil treth etifeddiaeth bryd hynny - "dyna fyddai wedi bod diwedd y fferm fel ry'n ni'n ei 'nabod e".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd o ffermwyr i brotestio y tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ddydd Sadwrn

Mae yna ddegau o fysys wedi'u trefnu o bob cwr o Gymru i fynd â ffermwyr i Lundain ar gyfer y protestiadau.

Mae rhai wedi'u trefnu gan yr undebau amaeth, ac eraill yn annibynnol.

Bydd yna ddigwyddiad swyddogol gan undeb yr NFU yn cael ei gynnal mewn canolfan gynhadleddau yn San Steffan, gyda chymaint o alw am docynnau bu'n rhaid rhannu'r dydd i sawl sesiwn yn cynnwys 600 ym mhob un.

Mae un yn benodol ar gyfer ffermwyr o Gymru, fydd wedyn yn mynd yn eu blaenau i gwrdd ag aelodau seneddol lleol.

Yn y cyfamser, mae rali ar wahân y tu allan, sydd wedi'i drefnu ar-lein yn bennaf.

Ffynhonnell y llun, Ioan Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r ffermwr Ioan Humphreys o'r Drenewydd annerch y dorf yn y brotest yn San Steffan

Bydd Ioan Humphreys, ffermwr defaid, gwartheg a dofednod o'r Drenewydd ym Mhowys - sydd â dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol - ymysg y sawl sy'n annerch y dorf.

Roedd ganddo rôl wrth drefnu'r brotest fawr y tu allan i'r Senedd ym mis Chwefror, gan ffermwyr oedd yn poeni am bynciau'n cynnwys newidiadau i'w cymhorthdaliadau.

"Fyddech chi'n meddwl y bydde Llywodraeth y DU wedi edrych ar hwnna a meddwl 'aros eiliad'... yn hytrach 'na phentyru rhagor o bwysau [ar y diwydiant]," meddai.

"Fy mhryder i yw dyw hyn ddim just yn effeithio ar ffermwyr - ond busnesau lleol hefyd - y mechanics, y masnachwyr, y bobl sy'n gwerthu tractors," ychwanegodd.

"Os fydd ffermwyr yn gorfod gwerthu'u tir a'u ffermydd yna fe fydd hynny'n brifo'r gymuned wledig yn gyfan gwbl."

Faint o ffermwyr fydd yn cael eu heffeithio?

Yn ei chyllideb fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai ffermydd sy' werth dros £1m yn wynebu treth etifeddiaeth yn y dyfodol ar raddfa o 20%, gyda'r opsiwn o'i dalu'n radddol dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ers hynny, mae'r llywodraeth wedi honni droeon bod lwfansau eraill yn golygu bod y trothwy mewn gwirionedd yn nes at £3m i nifer, gan olygu y byddai'r newid ond yn targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cefnog, ac yn diogelu ffermydd bach.

Ond dyw hyn ddim wedi llwyddo i leddfu'r pryderon o fewn y gymuned wledig, yn ogystal â'r dryswch ynglyn â faint fydd yn cael eu heffeithio.

Mae'r Trysorlys yn cynnig ffigwr o tua 500 ystad y flwyddyn, tra bod yr undebau amaeth yn pwyntio at ddata gan adran materion gwledig y llywodraeth, DEFRA, sy'n awgrymu y byddai nes at dau draean o ffermydd yn ddigon mawr i orfod talu'r dreth.

Dywedodd Sion Roberts, cynghorydd treth siartredig o gwmni Dunn-Ellis yng ngogledd orllewin Cymru, ei fod yn credu bod rhwng 50-100 o'i gleientiaid ei hun yn mynd i gael eu taro.

"Maen nhw wedi seilio eu ffeithiau nhw ar hen ystadegau o 2021/22 a symleiddio fo gan gysidro bod bob ffarm yn gwpl - ond be' 'da ni'n gwbod ydy bod yna rei ffermwyr yn tradio yn enw eu hunain, neu bod 'na gwpl lle ma gŵr neu wraig wedi'n gadael ni," eglurodd.

"Mae'n mynd i effeithio ar lawer mwy na maen nhw'n dweud ar y funud," meddai, "a mae hefyd yn rhywbeth sy'n mynd i gymryd misoedd a lot o gostau i sortio allan."

Cynllun 'teg'

Tra'n amddiffyn y cynlluniau dywedodd ysgrifennydd materion gwledig Cymru a'r dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies wrth gynhadledd NFU Cymru bod angen "rhagor o waith" i ddeall effaith y newid ar ffermydd Cymru.

Mae'r prif weinidog wedi dweud wrth raglen radio bod angen i bawb "ymdawelu ychydig nes ein bod ni i gyd yn gwybod faint o ffermydd fydd yn gweld gwahaniaeth".

Mae'r ffrae yn dod ar adeg anodd i'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, sydd wedi bod yn ceisio ail-osod eu perthynas â chymunedau amaethyddol yn dilyn protestiadau mis Chwefror.

Mae disgwyl iddyn nhw amlinellu manylion hir-ddisgwyliedig eu cynllun cymhorthdal newydd i ffermwyr yr wythnos nesaf, tra bod Llywodraeth y DU hefyd yn addo cyhoeddiad ar yr hyn y mae'n nhw'n ei alw'n "New Deal for Farmers" cyn hir.

Dywedodd y Trysorlys eu bod wedi gwneud "penderfyniad anodd i sicrhau bod y drefn yn gynaliadwy", ond bod y cynllun yn "deg".

Ychwanegodd y llefarydd bod cyplau sy'n berchen ar ffermydd yn cael pasio hyd at £3m heb dalu treth, ac mai tua 500 o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn.

Pynciau cysylltiedig