Cyhuddo dyn o Gasnewydd o geisio llofruddio

Ffordd Caerllion.Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dyn 36 oed ei anafu yn yr ymosodiad yn gynnar fore Sadwrn, Mawrth 1

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed o Gasnewydd wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau gan gynnwys ceisio llofruddio.

Daw'r cyhuddiadau gan Heddlu Gwent fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad yng Nghasnewydd ar ddydd Sadwrn, Mawrth 1.

Cafodd y dyn ei gyhuddo o droseddau eraill hefyd, gan gynnwys difrod troseddol, ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A, a bod mewn meddiant o arf mewn man preifat.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa nes iddo fynd o flaen Ynadon Casnewydd ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth.

Yn gynharach ddydd Gwener, cafodd bachgen 17 oed o Gasnewydd hefyd ei gyhuddo o nifer o droseddau gan gynnwys difrod troseddol.

Cafodd dyn 19 oed ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, tra bod ail ddyn 19 oed wedi'i ryddhau heb wynebu unrhyw gamau pellach.

Mae dyn 36 oed, a gafodd ei anafu yn yr ymosodiad ar Ffordd Caerllion tua 12.55am ddydd Sadwrn, wedi gadael yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod eisiau clywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.