Aelodau Llafur yn galw am roi'r grym dros Ystâd y Goron i Gymru

Eluned Morgan a Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei haraith ddydd Sadwrn, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn barod "i godi llais dros Gymru"

  • Cyhoeddwyd

Mae cynhadledd y blaid Lafur wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi'r grym dros Ystâd y Goron i Gymru ac i ddiwygio'r system ariannu.

Gydag aelodau'r blaid yng Nghymru yn cefnogi cynnig oedd yn dweud mai dim ond os yw Cymru'n derbyn "pob ceiniog sy'n ddyledus iddi" y gellir buddsoddi'n iawn mewn iechyd ac addysg.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas wrth y gynhadledd y gallai'r blaid ennill etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf pe bai Cymru yn cael ei hariannu'n well.

"Llafur yw plaid datganoli, ond mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ni nawr ddiwygio sut yr ydym yn cael ein hariannu a sicrhau bod Cymru'n derbyn cyfran deg a'r grymoedd da ni ei angen," meddai.

Hyd yn hyn mae llywodraeth Syr Keir Starmer wedi gwrthod galwadau gan Eluned Morgan i roi rheolaeth i Gymru dros Ystâd y Goron - sy'n cynnwys £603m o dir yng Nghymru a 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.

Yn ei haraith 'Ffordd Goch Gymreig' ym mis Mai, dywedodd y prif weinidog ei bod am weld Cymru yn elwa mwy o ffermydd gwynt sy'n cael eu hadeiladu ar wely môr yr ystâd.

"Maen nhw wedi cymryd ein glo, maen nhw wedi cymryd ein dŵr. Fyddwn ni ddim yn gadael iddyn nhw gymryd ein gwynt, nid y tro hwn, nid dan fy arweinyddiaeth i," meddai.

Mae Llywodraeth Lafur y DU yn dadlau na fyddai datganoli Ystâd y Goron yn gwneud synnwyr masnachol.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi dadlau y byddai'n peryglu'r potensial ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr.

Mae'r Alban yn derbyn arian o brosiectau Ystâd y Goron, er bod cyllid ar gyfer Llywodraeth yr Alban yn cael ei addasu o ganlyniad.

Cynhadledd Llafur Cymru yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y cynnig gan undeb Unison hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i negodi fformiwla ariannu sy'n "seiliedig ar degwch ac asesiad o anghenion".

Mae pob gwlad yn y DU, heblaw am Loegr, yn cael eu hariannu trwy'r fformiwla Barnett, sy'n seiliedig i raddau ar faint y boblogaeth.

Mae beirniad y system bresennol, eisiau gweld Cymru yn cael ei hariannu yn ôl ei hangen.

Ond ar hyn o bryd does gan Lywodraeth y DU ddim cynlluniau i adolygu'r ffordd y mae Cymru yn cael ei hariannu.

Roedd Cynnig Unison yn galw am drafodaethau fyddai'n "caniatáu i ystâd y goron gael ei datganoli i Gymru".

"Ein credoau sosialaidd yw'r hyn sy'n ein gyrru i ddarparu gwell ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru, boed hynny drwy dai gweddus, gwelliannau mewn addysg, gwell rhagolygon gyrfa a chanlyniadau iechyd cadarnhaol," meddai'r undeb.

"Dim ond os yw Llywodraeth Cymru yn derbyn pob ceiniog sy'n ddyledus iddi" mae'n bosib darparu gwell ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru.

'Sicrhau bod Cymru'n derbyn cyfran deg'

Dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, ac ymgeisydd posib ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026: "Llafur yw plaid datganoli, ond mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ni nawr ddiwygio sut yr ydym yn cael ein hariannu a sicrhau bod Cymru'n derbyn cyfran deg a'r grymoedd 'da ni eu hangen.

"Dyna sut rydym yn dangos ein bod yn well na Reform a Phlaid Cymru a dyna sut y byddwn yn ennill yn 2026."

Yn hwyr ddydd Sadwrn, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn targedu pobl 55-74 oed sy'n wynebu risg uchel o ddioddef canser yr ysgyfaint.

Dywedodd Mr Miles y bydd y cyhoeddiad am ganser yr ysgyfaint yn "allweddol i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach ac i wella canlyniadau a chyfraddau goroesi pobl".