Starmer yn gwadu bod rhaniadau ar ôl beirniadaeth Eluned Morgan

Eluned Morgan a Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Keir Starmer fod Prif Weinidog Cymru yn "iawn i godi pryderon"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog wedi gwadu bod yna raniadau o fewn ei blaid ar ôl wythnosau o feirniadaeth gyhoeddus gan arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan.

Dywedodd Syr Keir Starmer wrth BBC Cymru fod Prif Weinidog Cymru yn "iawn i godi pryderon" ac fe addawodd i ddelio gyda rheiny "cyn belled ag y gallwn".

Roedd yn siarad cyn ei araith i gynhadledd y blaid yn Llandudno, ble bydd yn honni y byddai Plaid Cymru yn fodlon ffurfio "cytundeb tu ôl i ddrysau caeedig" gyda Reform a'r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi dweud yn gadarn na fydden nhw'n gweithio gyda Reform mewn unrhyw ffurf, ac yn cyhuddo Keir Starmer o "werthu ffuglen".

Wrth annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn, bydd Eluned Morgan yn dweud y byddai Reform yn "datgymalu'r Gwasanaeth Iechyd".

Ym mis Mai, fe ddefnyddiodd Ms Morgan araith yng Nghaerdydd i feirniadu rhai o bolisïau Llywodraeth y DU, ac amlinellu nifer o'i gofynion.

Gan ei alw'n "Ffordd Goch Gymreig", dywedodd na fyddai'n "aros yn dawel" pe bai llywodraeth Syr Keir yn gwneud penderfyniadau "yr ydym ni'n credu bydd yn niweidio cymunedau Cymru".

Fe gwynodd am gynlluniau'r llywodraeth ar gyfer budd-daliadau a thaliadau tanwydd gaeaf, a mynnu bod Cymru'n elwa o ynni gwynt trwy Ystâd y Goron.

Ers hynny, maen nhw wedi gwneud tro pedol ar daliadau tanwydd gaeaf ac, yn fuan cyn y gynhadledd, ar fudd-daliadau anabledd ar ôl i nifer sylweddol o aelodau llafur fygwth pleidleisio yn ei erbyn.

Syr Keir Starmer
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n gweithio'n dda gyda'r Prif Weinidog", meddai Syr Keir

Wrth siarad â BBC Cymru yn ystod ymweliad ag RAF Fali ar Ynys Môn, dywedodd Syr Keir fod llywodraethau San Steffan a Chymru yn "gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd".

"Rwy'n gweithio'n dda gyda'r Prif Weinidog", meddai gan ddweud eu bod wedi darparu'r setliad ariannol mwyaf ers dechrau datganoli.

Dywedodd Syr Keir ei bod yn "berthynas dda" gan ddadlau bod yr adolygiad gwariant - roddodd £445m ar gyfer rheilffyrdd a gorsafoedd newydd a £118m ar gyfer diogelwch tomenni glo - yn dangos bod "llawer o bethau pwysig yn cael eu cyflawni i Gymru".

"Mae hi'n iawn i godi materion sy'n peri pryder a byddwn yn disgwyl iddi wneud hynny. A dwi'n gweithio gyda hi i gyflawni ar y rheiny cyn belled ag y gallwn."

'Dyma'r llywodraeth sy'n torri biliau'

Mewn araith i'r gynhadledd ddydd Sadwrn, bydd Keir Starmer yn dadlau bod cael dwy lywodraeth Lafur yn Llundain a Chaerdydd yn cyflawni dros Gymru.

"Dyma'r blaid sydd wedi sicrhau bod cyflogau yn codi'n gyflymach yn y 10 mis cyntaf nag a lwyddodd y Torïaid mewn 10 mlynedd. Dyma'r llywodraeth sy'n torri biliau ac yn creu swyddi."

Bydd yn rhybuddio y gallai cefnu ar Lafur beryglu "dychwelyd i'r anhrefn a'r rhaniadau a welwyd dros y ddegawd ddiwethaf" gyda "cytundeb tu ôl i ddrysau caeedig rhwng y Torïaid, Reform a Phlaid".

Mae Plaid Cymru wedi dweud yn bendant na fydden nhw'n cydweithio gyda phlaid Reform Nigel Farage, gyda'r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn dweud wrth BBC Cymru ym mis Mawrth nad oedd "unrhyw ffordd o weld unrhyw gydweithio o gwbl rhwng dwy blaid sydd mor wahanol yn sylfaenol".

Dywedodd hefyd ym mis Mai na allai weld "perthynas ffurfiol" gyda'r Ceidwadwyr, "ar ôl 14 mlynedd o ddinistr".

Ond fe ddywedodd y "gall cydweithio gymryd llawer o ffurfiau. Gall fod yn anffurfiol. Gall fod fesul mater".

Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae o fudd i'r wlad i gicio Llafur allan, fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hyn a thrwsio Cymru," meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar

Yn yr etholiad nesaf i'r Senedd mi fydd yn system bleidleisio llawer mwy cyfrannol, fydd yn adlewyrchu'n well sut mae pobl yn pleidleisio.

Bydd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i unrhyw blaid ennill mwyafrif neu i lywodraethu ar eu pen eu hunain, ac felly mae'n debygol iawn y bydd rhaid i bleidiau gydweithio mewn rhyw ffordd.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Os mai dyma araith fawr Llafur i bobl Cymru, yna a dweud y gwir, maen nhw'n crafu'r gasgen.

"Yn lle cynnig gobaith, maen nhw'n gwerthu ffuglen am gytundebau dychmygol sy'n cynnwys pleidiau sy'n cytuno ar brin dim byd."

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, wedi dweud y byddai'n gweithio gydag "unrhyw un" i ddisodli llywodraeth Llafur Cymru ym Mae Caerdydd.

Dywedodd: "Mae o fudd i'r wlad i gicio Llafur allan, fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hyn a thrwsio Cymru. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau'r canlyniad yna."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eluned Morgan yn dweud bod Reform eisiau "datgymalu" y gwasanaeth iechyd a'i "rhwygo i fyny" a chreu system "wedi'i breifateiddio, wedi'i gyrru gan elw"

Yn ei haraith hi i'r gynhadledd ddydd Sadwrn, bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn dweud y bydd etholiad nesaf y Senedd yn "ddydd barn".

Mewn ymgais i hybu aelodau'r blaid, bydd Ms Morgan yn dweud: "Mae Reform ar gynnydd. Mae Plaid yn ymgasglu.

"Nid yw hwn yn foment i edrych i ffwrdd. Dyma'r foment i edrych ymlaen - moment o gyfle mawr ac, ie, hefyd o fygythiad difrifol."

Bydd hi'n dweud bod Reform eisiau "datgymalu" y gwasanaeth iechyd a'i "rhwygo i fyny" a chreu system "wedi'i breifateiddio, wedi'i gyrru gan elw".

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn cyhoeddi cronfa gwerth £11m ar gyfer busnesau ym Mhort Talbot.

Mae'n cynnwys £6.78m gan Lywodraeth y DU a £5m gan Tata Steel, ac fe fydd yn cefnogi cwmnïau sy'n cynnig swyddi sgiliau uchel, sy'n talu'n dda.

Fe fydd hi'n dweud: "Mae'r gronfa newydd hon yn enghraifft bwerus o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd llywodraethau Llafur, undebau llafur a busnesau'n cydweithio i gyflawni dros gymunedau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.