Dymchwel ffatri eiconig yn y de i godi 400 o dai

Cynhyrchu peiriannau golchi oedd pwrpas ffatri Hoover ar un adeg, ond daeth hynny i ben yn 2009
- Cyhoeddwyd
Bydd cyn-ffatri Hoover, oedd yn cyflogi 5,000 o bobl ym Merthyr Tudful ar ei hanterth, yn cael ei dymchwel er mwyn codi dros 400 o dai.
Cynhyrchu peiriannau golchi oedd pwrpas y ffatri ar un adeg, ond daeth hynny i ben yn 2009, ac mae wedi bod yn safle dosbarthu i gwmni Haier tan y llynedd.
Mae'r cwmni peirianneg sifil, grŵp Walters, wedi cytuno i brynu'r ffatri ar yr amod o gael caniatâd cynllunio - sydd i'w ddisgwyl gan fod y safle eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer tai.
Eu bwriad ydy dechrau ar y gwaith dymchwel flwyddyn nesaf, gyda'r nod o werthu'r safle ymlaen i adeiladu mwy na 400 o gartrefi erbyn diwedd 2026.
Diolchodd cwmni Hoover "i chi, Merthyr, am fod yn rhan anhepgor a bythgofiadwy o'n taith".
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2016
Daeth perchnogion Americanaidd Hoover i Ferthyr Tudful fel un o'r buddsoddiadau tramor mawr yn economi Prydain yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Roedden nhw'n cyflogi 350 o bobl i ddechrau ond tyfodd hynny i fwy na 5,000 yn ystod y 1960au a'r 1970au wrth i'r farchnad ar gyfer peiriannau domestig gynyddu.
Roedd y rhain yn cynnwys peiriannau golchi, a nhw oedd y cyflogwyr mwyaf ym Merthyr, ac wedi rhoi gwaith i genedlaethau o deuluoedd.
Roedd tristwch mawr yn lleol yn 2009 pan benderfynodd y perchnogion, Candy, symud y gwaith cynhyrchu i Dwrci.
Mynnodd Candy ar y pryd nad oedd dewis ganddynt oherwydd colledion.