Ymgyrch i achub siop lyfrau Cymraeg rhag cau

Bys a BawdFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
  • Cyhoeddwyd

Mae criw o bobl leol yn ceisio atal yr unig siop lyfrau Cymraeg Sir Conwy rhag cau wrth i'r perchnogion presennol ymddeol.

Mae siop Bys a Bawd yn nhref Llanrwst wedi bod yn agored ar y stryd fawr ers 70 mlynedd.

Agorwyd y siop lyfrau Cymraeg ei drysau am y tro cyntaf yn 1955 gan Dafydd ac Arianwen Parry.

Mae'n debyg mai hon oedd y siop lyfrau Cymraeg gyntaf yng Nghymru.

Mae'r perchennog presennol, Dwynwen Berry eisiau ymddeol, ac yn 2023 rhoddodd y busnes, y siop a'r ddwy fflat ar werth.

Yn anffodus ni fu llawer o ddiddordeb a chysylltodd Cyngor Llyfrau Cymru â Menter Iaith Conwy i ofyn a fyddent yn cefnogi pryniant y busnes dan arweiniad y gymuned.

Bellach mae grŵp o ddeg o bobl wedi ffurfio bwrdd a phwyllgor Bys a Bawd Pawb.

Mae'r grŵp yn gyfuniad o unigolion lleol sy'n awyddus i ddod ag egni a brwdfrydedd newydd i'r siop.

Pwyllgor Bys a BawdFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Mae pwyllgor Bys a Bawd Pawb wedi cael ei sefydlu

Dywedodd Llyr ap Glyn sy'n aelod o'r pwyllgor: "Mae gennym weledigaeth! Rydym am ddatblygu Bys a Bawd yn ganolbwynt diwylliannol a llenyddol.

"Y gobaith ydi cynnal digwyddiadau, sgyrsiau, arwyddo llyfrau a gigs.

"Rydym yn rhagweld fod potensial i Bys a Bawd fod yn ganolfan i siaradwyr Cymraeg newydd hefyd, gan gynnal digwyddiadau, a bod yn gyfle i gymdeithasu ac ymarfer siarad mewn awyrgylch Gymreig," meddai.

Un sydd hefyd yn cefnogi'r fenter yw'r Prifardd Myrddin ap Dafydd sy'n fab i'r perchnogion gwreiddiol, Dafydd ac Arianwen Parry.

Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y siop wreiddiol ei hagor 70 mlynedd yn ôl gan rieni y Prifardd Myrddin ap Dafydd

Dywedodd Myrddin ap Dafydd: "70 mlynedd yn ôl fe wnaeth Dad werthu llyfrau ar stondin yn farchnad Llanrwst, ac roed y stondin mor llwyddianus, fe wnaeth fo a Mam benderfynnu prynu siop yn Llanrwst a'i hagor hi yn Hydref 1955.

"Siop Llyfrau Cymraeg oedd ei henw hi oherwydd doedd 'na 'run siop yn gwerthu llyfrau Cymraeg arall yng Nghymru yr adeg honno.

"Dros y blynyddoedd mae gan bob tref yng Nghymru bron eu siop Gymraeg erbyn hyn.

"Dyna bechod felly os y base Llanrwst yn mynd heb siop Gymraeg ac mae 'na ymgyrch arbennig ar hyn o bryd i greu Bys a Bawd Pawb," meddai.

Bydd y pwyllgor nawr yn trefnu digwyddiadau drwy'r flwyddyn i hyrwyddo'r fenter gymunedol ac i geisio egluro'r broses fuddsoddi.

Pynciau cysylltiedig