Matthew Rhys: Chwarae Richard Burton a dod yn ddinesydd UDA

- Cyhoeddwyd
Wrth i Matthew Rhys baratoi i ddod adref i Gymru ar gyfer sioe un dyn, mae'n dweud fod chwarae rhan Richard Burton yn "codi arswyd" arno.
Bydd yr actor, sy'n wreiddiol o Gaerdydd yn dychwelyd i'r llwyfan ar ôl 20 mlynedd pan fydd yn chwarae rhan Richard Burton mewn monolog arbennig.
Bydd y sioe, sydd ar daith ym mis Tachwedd yn codi arian ar gyfer y Welsh National Theatre - cwmni newydd sydd wedi ei sefydlu gan un o ffrindiau Matthew, yr actor Michael Sheen.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Dros Frecwast fydd yn cael ei darlledu fore dydd Llun, meddai Matthew Rhys am Michael Sheen: "Pan sylweddoles i gymaint oedd o'n ei wneud trwy Gymru... nes i gysylltu a dweud 'os oes unrhyw beth allai wneud i helpu mewn unrhyw ffordd, gad i mi wybod'."
Matthew Rhys yn trafod chwarae rhan yr 'eicon' Richard Burton ar lwyfan
Prysurdeb a'r pandemig
Cafodd Matthew, sydd bellach yn byw gyda'i deulu yn Efrog Newydd y syniad o lwyfannu sioe un dyn ar achlysur canmlwyddiant geni Richard Burton.
Roedd ei amserlen brysur yn golygu nad oedd ganddo amser i ymarfer unrhyw gynhyrchiad o'r newydd.
"Nes i ddweud wrtho (Sheen) am ddathliadau canmlwyddiant Richard Burton ac am sioe un dyn hyfryd gan Mark Jenkins o'r enw Playing Burton ac fe wnaeth y planedau ddechrau llinellu a deud y gwir."
Roedd Matthew Rhys eisoes wedi bwriadu perfformio'r rôl yma yn 2021, ond daeth y pandemig a chafodd e erioed y cyfle i'w berfformio ar lwyfan.
"'Nes i fersiwn yn ystod y pandemig i Amazon ar gyfer Audible, fersiwn radio oedd e yn y bôn, y bwriad oedd ei neud e rhywbryd - rhyw ben yn Efrog Newydd ond daeth hwnna byth i ben a dwi'n neud e nawr," meddai.

Mae eleni'n 100 mlynedd ers geni Richard Burton
Wrth drafod y profiad o chwarae Richard Burton, dywedodd Mathew fod y syniad yn "codi arswyd arno".
"Mae'n un o eiconau mwyaf Cymru ac mae gyda lot o bobl syniad am pwy oedd Burton iddyn nhw hefyd, felly mae'n gallu bod yn rhywbeth personol dwi'n teimlo.
"Hefyd gyda'r llais, a thrio peidio gor-wneud rhywbeth - lle mae'n troi i rhywbeth fel parodi yn hytrach na dal gwraidd y dyn," meddai.
Bydd y sioe un dyn yn canolbwyntio ar fywyd cynnar Burton yn ne Cymru cyn iddo droi'n seren byd enwog.
Bydd hefyd yn trafod ei gariad tuag at Elizabeth Taylor a'i frwydr gydag alcoholiaeth.
"Mae'r hunllefau wedi dechrau'n barod. Dwi heb fod ar lwyfan yn Nghymru ers dros ddau ddegawd, neithiwr ges i hunllef yn meddwl fy mod yn sefyll ar lwyfan ddim yn gwybod fy ngeiriau.
"Yr hen cliché yn dod yn wir, dyna yw'r hunllef. Nid yn unig mynd ar lwyfan ond mynd ar lwyfan i wneud monolog 33 tudalen. Felly os chi'n anghofio eich geiriau, dwi ar ben fy hun, fydd raid i mi ddechrau canu Ar Hyd y Nos," meddai gan chwerthin.
Dinesydd America
Fe gadarnhaodd hefyd ei fod bellach yn ddinesydd Americanaidd a'i fod wedi penderfynu gwneud hynny yn sgil yr hinsawdd wleidyddol yno.
"Ges i gyngor gan gyfreithiwr oedd yn edrych ar ôl fy fisas i a dyma fe'n dweud y bydden nhw'n dechre torri'n ôl ar fewnfudwyr a'r fisas maen nhw'n eu rhoi.
"Dwi'n deall pam, eu pwynt nhw yw pam ydyn ni'n rhoi fisas 'ma bant pan mae 'na gymaint o actorion Americanaidd yn ffeindio hi'n anodd ffeindio gwaith.
"Felly dyna'r cam gymeres i, i wneud yn siŵr y byddai'n cael aros gyda fy mhlant fwy na dim," meddai.
Bydd Playing Burton yn teithio o amgylch Cymru rhwng 16-28 Tachwedd ac mae holl fanylion y daith ar wefan y Welsh National Theatre, dolen allanol.
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.