Y celfyddydau ddim am oroesi heb fwy o arian - Matthew Rhys
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor adnabyddus Matthew Rhys wedi rhybuddio "na fydd y celfyddydau yng Nghymru yn goroesi" os nad yw'r sector yn cael mwy o arian.
Mae'r seren Hollywood yn dweud fod y dyfodol yn edrych yn dywyll i'r sector, ac nad yw'n cael y gefnogaeth sydd ei angen i lwyddo.
Bu'n siarad â BBC Cymru o Efrog Newydd, lle mae'n ffilmio cyfres ar gyfer Netflix ar hyn o bryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "cyfraniad hanfodol" y celfyddydau, ac fe roddwyd £3.6m yn ychwanegol i'r sector fel ariannu brys yn gynharach yr wythnos hon.
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2024
Dywedodd Matthew Rhys bod penderfyniad Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru i gau eu conservatoire ar gyfer pobl ifanc wedi ei adael "yn gegrwth".
Mae'r actor yn gymrawd anrhydeddus, ac yn aelod o fwrdd y coleg.
Wrth edrych ar y celfyddydau yng Nghymru yn ehangach, dywedodd: "Fi'n credu taw beth sy'n bryderus ar y foment yw gymaint mae celfyddydau nawr yn cael ei drywanu.
"Fel ni wedi gweld gyda'r Welsh National Opera a [National Theatre Wales] - gall celfyddydau fel hyn yng Nghymru ddim goroesi, yn sicr gyda'r ffordd y mae'r llywodraeth yn eu trin nhw ar hyn o bryd."
Mae pennaeth y Coleg Celf a Drama yn cydnabod y bu cau'r conservatoire yn "benderfyniad anodd" a gafodd ei orfodi gan ddiffyg arian, meddai.
Mae Helena Gaunt yn galw am gynyddu'r arian i'r sector yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd rwy'n pryderu am y sefyllfa ariannol yn y coleg," meddai.
"Mae'n heriol iawn i bob prifysgol yng Nghymru ac ym Mhrydain, ac hefyd mae'r sefyllfa ariannol i'r celfyddydau yn anodd iawn hefyd.
"Felly dwi ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd nawr ond dwi'n siŵr am un peth - 'da ni'n gweithio o fore tan nos i ddod o hyd i atebion."
'Pryder enfawr'
Dydd Llun fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau y byddan nhw'n rhoi £3.6m ychwanegol - ar y cyd - i'r sector fel ariannu brys.
Bydd Llywodraeth Cymru'n amlinellu ei chyllideb ddrafft yr wythnos nesaf.
Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth bod "sector y celfyddydau yn gwneud cyfraniad hanfodol i gymdeithas, i gelfyddyd ac i'r economi - gan gyfoethogi cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol".
Mae'r sector wastad wedi cael ei thrin yn eilradd, ym marn Matthew Rhys.
"Mae arian y celfyddydau'n cael ei dorri'n drychinebus," meddai.
"Mae'n bryder enfawr i'r rheiny ohonom sy'n trio meithrin talent ifanc y wlad 'ma."
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd23 Mai 2024
Y llynedd fe gollodd y Cwmni Opera 10% o'i gyllid gan Gyngor y Celfyddydau, ac fe gollodd National Theatre Wales y cyllid craidd yn gyfan gwbl.
Eleni mae Llywodraeth Cymru wedi torri 10.5% o gyllid Cyngor y Celfyddydau. Mae'r corff wedi colli 40% o'i gyllid mewn termau real ers 2010.
Tim Rhys-Evans yw cyfarwyddwr cerdd Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru, a dywedodd ei fod yn cael sgyrsiau'n aml gyda myfyrwyr sy'n pryderu am eu dyfodol.
"Ein hanthem fel cenedl yw gwlad beirdd a chantorion," meddai.
"Os mae'r llywodraeth yn gwrando a just meddwl, 'ie mae'r celfyddydau yn bwysig i ni fel cenedl'. Mae'r sector mewn sefyllfa ariannol anodd iawn."
Ychwanegodd nad oes cydnabyddiaeth chwaith o'r "gwahaniaeth y mae celfyddydau'n ei wneud i fywyd yn gyffredinol".
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni.
Ond wrth ddathlu'r llwyddiant a fu a'r garreg filltir nodedig, mae 'na bryder dybryd hefyd am y blynyddoedd i ddod.