Michael Sheen i chwarae rhan Owain Glyndŵr mewn sioe theatr

Bydd Michael Sheen yn actio rhan Owain Glyndŵr yn un o gynyrchiadau cyntaf ei gwmni theatr newydd - Welsh National Theatre
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor byd-enwog Michael Sheen wedi dweud y bydd yn chwarae rhan Owain Glyndŵr mewn cynhyrchiad theatr newydd.
Owain Glyndŵr, neu Owain ap Gruffydd, oedd y Cymro brodorol olaf i hawlio teitl Tywysog Cymru - gan arwain gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Saesnig yn y 15fed ganrif.
Dyma fydd un o gynyrchiadau cyntaf cwmni theatr newydd Michael Sheen, sef Welsh National Theatre.
Bydd y cynhyrchiad, Owain & Henry, yn adrodd hanes gwrthryfel Glyndŵr - wnaeth arwain ato'n dod yn symbol o genedlaetholdeb Cymreig yn ddiweddarach.
Mae Sheen wedi datgan yn y gorffennol y dylai'r teulu Brenhinol roi'r teitl Tywysog Cymru i ffwrdd, ac mae'n dweud y bydd yn actio fel "gwir dywysog Cymru" yn y cynhyrchiad yma.

Roedd Owain Glyndŵr wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn rheolaeth Lloegr dros Gymru, gan ennill brwydrau a'i goroni'n Dywysog Cymru yn 1404
Dywedodd Michael Sheen fod yr hanes yn un o straeon hanfod ein cenedl ac "yr un mor berthnasol heddiw" ag yr oedd 600 o flynyddoedd yn ôl.
Bydd y ddrama yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2026.
Mae'r ddrama yn "adrodd yr union stori rydw i eisiau i'r Welsh National Theatre allu ei hadrodd, ar ail lwyfan mwyaf Ewrop," meddai Sheen wrth y BBC.
"Rwy'n hynod gyffrous."

Yn 2020 dywedodd Sheen byddai'n arwydd "ystyrlon a phwerus" i deitl Tywysog Cymru beidio cael ei drosglwyddo o Charles i William (uchod)
Yn 2020 dywedodd Sheen wrth golofnydd papur newydd, pan ddaw'r amser i deitl Tywysog Cymru gael ei drosglwyddo o Charles i William, y byddai'n arwydd "ystyrlon a phwerus i'r teitl hwnnw beidio â chael ei ddal yn yr un ffordd ag o'r blaen".
Y gred yw mai Owain & Henry yw'r tro cyntaf i hanes Glyndŵr gael ei adrodd gan ddramodydd.
Dywedodd awdur y ddrama, Gary Owen, pan ddechreuodd ysgrifennu'r stori, bod cael Sheen i chwarae'r rhan yn "freuddwyd" - ond nid oedd erioed wedi dychmygu y byddai hynny'n digwydd.
"Dwi wedi bod yn dweud ers blynyddoedd bod angen i ni wneud y sioeau mawr yma yng Nghymru. Mae angen cysylltu gyda chynulleidfa fawr," meddai Owen.
"A rŵan mae'n rhaid i mi wireddu'r peth. Felly mae'n rhywfaint o bwysau - ond mae'n bwysau i'w groesawu'n fawr."
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
Esboniodd Sheen ei fod wedi bod yn "ffan enfawr" o waith Owen ers blynyddoedd, gan ei alw'n "un o'r awduron gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu".
"Fe fydd yna bobl sy'n dod i hwn sydd erioed wedi clywed am Owain Glyndŵr o'r blaen - heb syniad beth yw'r hanes, pwysigrwydd y foment honno yn ein diwylliant.
"Mae'n dechrau sgwrs - mae'n dechrau sgwrs genedlaethol," meddai Michael Sheen.

Cyhoeddodd Sheen ei fod yn ariannu'r Welsh National Theatre ym mis Ionawr
Cyhoeddodd Sheen ei fod yn ariannu'r Welsh National Theatre ym mis Ionawr, i lenwi'r bwlch gafodd ei adael wrth i National Theatre Wales gael ei gau.
Mae'r cwmni, sydd wedi derbyn £200,000 o arian trawsnewid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, hefyd wedi cyhoeddi fersiwn Gymreig ar y ddrama Americanaidd glasurol Our Town, gydag awdur Doctor Who, Russell T Davies, yn goruchwylio fel cyfarwyddwr creadigol.
Mae Michael Sheen wedi dweud fod nifer o bobl wedi bod yn cysylltu i gefnogi'r Welsh National Theatre ers ei gyhoeddi, gan gynnwys yr actor Matthew Rhys.
"Mi ges i neges hyfryd gan Matthew," meddai.
Ychwanegodd bod un llythyr wedi cyrraedd cartref ei rieni - yn canmol ei gwmni theatr newydd ac yn cynnwys rhodd.
"Dwi'n ei gadw [y siec] yn fy mhoced," meddai Sheen. "Dwi'n cerdded o gwmpas gydag ef nawr."