Cyngor i drwsio wal ar gost o £850,000, ar ôl gwadu cyfrifoldeb

Yn ôl adroddiad, mae'r strwythur sy'n weddill o'r wal yn dangos arwyddion gweladwy o erydu
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor oedd wedi gwadu cyfrifoldeb am wal wnaeth ddymchwel ym Mhowys wedi "dod i'r casgliad" ei fod yn berchen arni ac y bydd yn ei thrwsio.
Roedd y wal yn gwahanu gerddi yn Ystradgynlais rhag Afon Tawe, ond disgynnodd y wal ym mis Chwefror yn dilyn glaw trwm.
Yn ôl adroddiad, mae'r strwythur sy'n weddill o'r wal yn dangos arwyddion gweladwy o erydu - sy'n golygu y gallai ei sylfeini fod wedi'u heffeithio gan erydiad tir.
Roedd gan Gyngor Sir Powys bedwar opsiwn i ddatrys y sefyllfa, ac mae wedi dewis trwsio'r wal ond peidio â newid y strwythur a fyddai'n amddiffyn glan yr afon.

Disgynnodd y wal ym mis Chwefror 2024 yn dilyn glaw trwm
Mae'r wal yn 100 metr o hyd ac fe syrthiodd 30 metr o'r strwythur yn Chwefror 2024.
Fe'i hadeiladwyd gan Gyngor Sir Brycheiniog yn 1912, ac yna aeth perchnogaeth i Gyngor Powys ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn y 1990au.
Ond dywedodd gwasanaeth priffyrdd y cyngor ei bod yn ased i naill ai Llywodraeth Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru - ond roedd y ddau yn gwadu hyn.
Ar ôl i'r wal ddisgyn yn rhannol, cyflogodd trigolion Llys Tawel gyfreithwyr a dadlau mai'r cyngor, fel perchennog y wal, oedd yn gyfrifol amdani.
Byddai'r cyngor, yn sgil hynny, hefo dyletswydd o ofal i "gymryd camau rhesymol i atal digwyddiadau naturiol ar ei dir rhag achosi difrod i eiddo cyfagos".

Bydd y gwaith o drwsio'r wal yn costio £850,000 i'r cyngor
Ar ôl cymryd cyngor cyfreithiol, daeth Cyngor Powys i'r casgliad mai nhw sy'n berchen ar y wal.
Dywedodd y cyngor y byddai'r wal yn cael ei "chydnabod yn ffurfiol fel ased corfforaethol, gydag archwiliadau, cynnal a chadw yn cael eu hariannu trwy adnoddau corfforaethol yn y dyfodol".
Ychwanegodd y byddai'r cyllid yn cael ei "dynnu o raglen gyfalaf y priffyrdd" i gefnogi'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio i drwsio'r wal.
Mae'r cyngor yn dweud bod yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn "ffurf sydd wedi'i brofi o reoli erydiad, sy'n cynnig amddiffyniad i'r glannau - ond na fyddai'n cael ei adfer i lefel wreiddiol y wal".
Bydd y gwaith yn costio £850,000 i'r cyngor.
Tawelu meddyliau
Opsiwn pedwar oedd newid y wal yn uniongyrchol - yn hytrach na'i thrwsio, gan ddarparu amddiffyniad i lan yr afon, a fyddai'n costio £1m.
Roedd opsiwn pedwar hefyd yn cael ei gefnogi gan bobl leol.
Dywedodd Kevin Davies, a'i gymdogion Imogen a Justin Crewe, yn y gorffennol fod y wal yn gwneud iddyn nhw deimlo fel pe bai'n rhaid iddyn nhw "adael" eu cartrefi cyn gynted ag y bydden nhw'n sylwi ar dywydd gwael.
Dywedodd y cynghorydd Susan McNicholas ei bod hi wedi "cymryd cryn amser i gyrraedd y cam rydyn ni ynddo nawr".
"Bydd y trigolion yn gorffwys yn llawer haws ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024