Galw eto am ymchwiliad i gangiau cam-drin plant yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Mae merch sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol fel plentyn gan gangiau, wedi galw eto am ymchwiliad penodol i Gymru er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth y DU i lansio un ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cafodd profiad Emily Vaughn ei rannu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn gynharach eleni, wrth iddyn nhw geisio perswadio gwleidyddion i gynnal ymchwiliad yma.
Dywedodd Ms Vaughn. sy'n defnyddio ffugenw i warchod ei phreifatrwydd, bod angen i bobl Cymru "ddeffro" i'r ffaith nad yw cam-drin yn stopio ar y ffin.
Fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ymchwiliad statudol llawn i gangiau cam-drin plant yng Nghymru a Lloegr ar y penwythnos wedi adroddiad gan y Farwnes Louise Casey oedd wedi arwain adolygiad i natur a maint y broblem.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ddydd Llun law yn llaw â datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin gan yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper.
Mewn datganiad a gafodd ei yrru at BBC Cymru, dywedodd Ms Vaughan sy'n defnyddio ffugenw: "Mae'n amser i Gymru i ddeffro i'r gwirionedd nad yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein, camfanteisio'n rhywiol ar blant, a cham-drin yn stopio ar ymylon rhanbarthol.
"Mae goroeswyr yng Nghymru wedi bod yn fud ers amser, wedi cael eu hanwybyddu, neu eu gorfodi i fynnu cyfiawnder gan systemau na sydd wedi'u creu i ddelio gyda'u profiadau."
Ei threisio 'drosodd a throsodd'
Mae Emily Vaughn nawr yn ei 30au ond mae hi'n dweud mai 11 oedd hi pan gafodd ei hecsbolitio gyntaf - fe wnaeth rywun feithrin perthynas amhriodol â hi ac yna cafodd ei threisio o 14 oed ymlaen.
Dywedodd iddi cael ei symud i Telford, Blackpool ac o fewn ardaloedd yng Nghymru a'i thresio drosodd a throsodd.
Fe wnaeth lluoedd heddlu Cymru ddweud wrth Lywodraeth Cymru yn ddiweddar nad yw gangiau o'r math yma yn broblem eang ar hyn o bryd.
'Angen eu trin fel rhai sydd angen cefnogaeth'
Ond mae Helen Mary Jones, sy'n gweithio gyda dioddefwyr, yn ei rôl fel dirprwy brifweithredwr Voices from Care Cymru yn dadlau ei fod yn broblem systemig.
"'Dan ni fel elusen yn dal i gefnogi merched, weithiau bechgyn, ond merched yn benodol sy'n cael eu trafficio o un dinas i'r llall - o Gaerdydd i lefydd lan yn y Midlands yn Lloegr, weithiau draw i Iwerddon.
"'Dan ni'n gweld enghreifftiau da o gydweithio - er enghraifft rhwng yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau, ond 'dan ni hefyd yn gweld enghreifftiau eraill lle gallai merched fod wedi cael eu hachub os oedd pobl wedi siarad â'i gilydd.
"A dyna sydd yn poeni fi. 'Dan ni'n mynd i gael ymchwiliad mawr arall, ac yn y cyfamser dyw'r pethau bach, manwl ar lawr gwlad dal ddim yn cael eu gwneud."
Yn ôl Ms Jones mae yna dueddiad o hyd gan rai "i weld y person sy'n dioddef fel y broblem nid y sefyllfa o'u cwmpas nhw".
"Beth sy'n bwysig iawn iawn yw ein bod ni'n trin y bobl ifanc yma fel plant sydd angen help a chefnogaeth nid fel pobl ifanc sy'n gwneud penderfynaidau anghywir neu penderfyniadau annoeth."

'Mae angen i oroeswyr wybod bod y rhai sydd wrth y llyw yn gwrando ac yn cymryd camau brys,' medd Comisiynydd Plant Cymru, Rocío Cifuentes
Wrth ymateb dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Rocío Cifuentes: "Mae'r adroddiad hwn yn ddychrynllyd a thu ôl i bob ystadegyn, a'r nifer o achosion eraill sydd wedi mynd heb eu hadrodd, mae plentyn a fethwyd gan y sefydliadau sydd yna i'w hamddiffyn.
"Dro ar ôl tro, rydyn ni wedi clywed bod materion gan gynnwys diffyg rhannu gwybodaeth, diffyg data cywir, diffyg adrodd, diffyg mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol, wedi caniatáu i blant gael eu hecsbloetio a'u cam-drin.
"Rhaid i'r adroddiad diweddaraf hwn nodi diwedd y methiannau difrifol hyn.
"Wrth i ni aros am fanylion am raddfa ac amseroedd yr ymchwiliad newydd a gyhoeddwyd, mae'n hanfodol cofio bod yna argymhellion gan ymchwiliad IICSA sydd dal heb eu gweithredu.
"Pe baen nhw'n cael eu gweithredu, bydden nhw'n helpu i ddiogelu plant.
"Rhaid i ni gael ffocws clir ar wneud gwelliannau fel bod ni'n sicr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu plant. Mae angen i oroeswyr wybod bod y rhai sydd wrth y llyw yn gwrando ac yn cymryd camau brys."
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar, ei fod yn croesawu ymchwiliad y DU, ond bod hynny wedi bod yn hir yn dod.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ymchwiliad newydd ac y byddent yn "ystyried ei argymhellion yn llawn i hysbysu ein gweithredoedd".
"Mae ein strategaeth deng mlynedd i Atal ac Ymateb i Gam-drin Rhywiol Plant yn mynd i ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.
"Mae pedwar llinyn i'r strategaeth sef atal, amddiffyn, cefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd, a chefnogi oedolion sydd wedi goroesi."