Rhybudd melyn am ragor o law trwm i'r de a llifogydd posibl

Map y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym tan 23:59

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ddydd Mercher, gan ddweud y gallai arwain at lifogydd mewn mannau.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru, rhwng 06:00 a 23:59.

Mae un rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, a hynny ar gyfer ardal Elái yn Llanbedr-y-fro, ac mae nifer o rybuddion 'byddwch yn barod'.

Daw'r rhybuddion wythnos ar ôl i'r de orllewin brofi llifogydd difrifol, gyda busnesau lleol yn wynebu llawer o ddifrod.

Cafodd yr A466 ei chau fore Mercher yn Upper Redbrook oherwydd y tywydd garw gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r glaw achosi rhagor o drafferthion i deithwyr.

Fore Mercher roedd y rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Abertawe

  • Torfaen

  • Bro Morgannwg

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig