Teyrnged i daid 'gonest a gweithgar' yn dilyn gwrthdrawiad

Malcolm ShoplandFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i daid oedd a'i "gryfder tawel a'i hiwmor tyner yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth a chynhesrwydd i'r rhai o'i gwmpas".

Roedd Malcolm John Shopland, 72 oed o Ystradgynlais, yn seiclo pan fu mewn gwrthdrawiad gyda dau gerbyd ar yr A4221 ger Coelbren.

Digwyddodd ar y gyffordd wrth Ffordd Cefn Byrle, am tua 15:00 ar 15 Mai.

Mae teulu Mr Shopland wedi ei ddisgrifio fel "dyn gonest, gweithgar a roddodd ei fywyd i'w deulu a'r pethau hynny yr oedd yn eu caru".

Yr A4221 ger pentref CoelbrenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar yr A4221

Roedd Malcolm Shopland yn ŵr, yn dad i ddau, tad yng nghyfraith i un ac yn daid i ddau.

Mae ei deulu wedi dweud fod ganddo angerdd tuag at feiciau modur a'i fod yn cael llawenydd ym mhleserau syml bywyd, fel garddio a cherddoriaeth.

"Diolch o galon i'r holl wasanaethau brys aeth i'r lleoliad, ac am y gefnogaeth rydym wedi'i dderbyn gan Heddlu Dyfed-Powys," meddai'r teulu.

Mae'r heddlu yn dal i apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig