Shamrock Rovers yn trechu'r Seintiau yng Nghyngres UEFA

Jordan WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jordan Williams yn dathlu sgorio'r gôl gyntaf i'r Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Y Seintiau Newydd eu trechu oddi cartref yng Ngweriniaeth Iwerddon yng Nghyngres UEFA nos Iau, wrth i Shamrock Rovers ennill o 2-1.

Aeth y Seintiau ar y blaen wedi chwarter awr gyda gôl gan Jordan Williams, cyn i'r tîm cartref daro nôl yn fuan wedi hynny trwy Johnny Kenny.

Shamrock Rovers oedd y tîm gorau, a chyn hanner amser fe aethon nhw ar y blaen wrth i Dylan Watts rwydo o groesiad Darragh Burns.

Roedd hi'n ail hanner agored, ond roedd cyfleoedd da yn brin, ac roedd y Gwyddelod yn haeddu'r fuddugoliaeth.

Shamrock Rovers yw'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yng nghynghreiriau Gweriniaeth Iwerddon, ac fe ddaethon nhw yn ail y tymor hwn - tymor a ddaeth i ben nos Wener ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Kenny yn rhwydo gôl gyntaf Shamrock Rovers

Roedd y Seintiau wedi ennill un a cholli un yng Nghyngres UEFA cyn y gêm yn Nulyn nos Iau.

Fe gafon nhw eu trechu gan Fiorentina o'r Eidal, cyn sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Astana o Kazakhstan yn Amwythig - ble mae'r Seintiau yn chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth.

Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Mae gan bencampwyr Cymru dair gêm yn weddill yn y rownd yma - gartref yn erbyn Djurgårdens o Sweden a Panathinaikos o wlad Groeg, ac oddi cartref yn erbyn Celje o Slofenia.

Pynciau cysylltiedig