Buddugoliaeth hanesyddol i'r Seintiau Newydd yn erbyn Astana
- Cyhoeddwyd
Fe enillodd y Seintiau Newydd o 2-0 yn erbyn Astana o Kazakhstan nos Iau.
Dyma oedd ail gêm y tîm o Gymru yn rownd y gynghrair yng Nghyngres Europa, wedi iddyn nhw golli yn erbyn cewri’r Eidal, Fiorentina ddechrau’r mis.
Er bod hon yn gêm gartref i'r Seintiau Newydd, roedden nhw'n chwarae'r gêm yn Amwythig.
Mae stadiwm arferol y Seintiau - Neuadd y Parc - yn cydymffurfio â rheolau UEFA ar gyfer gemau rhagbrofol, ond nid ar gyfer gemau yn y brif gystadleuaeth.
Croesiad gan Jordan Williams arweiniodd at y gôl gyntaf, gyda Rory Holden yn llwyddo i benio i gornel uchaf y rhwyd.
Fe orffennodd yr hanner gyntaf gyda’r Seintiau Newydd ar y blaen.
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2024
Daeth cyfle i’r Seintiau Newydd ddyblu’r fantais pan ildiodd Astana gic o'r smotyn yn yr ail hanner.
Tarodd Declan McManus y bêl i gefn y rhwyd i ddyblu mantais y Seintiau.
Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y tîm yn y gystadleuaeth.
Astana oedd y clwb cyntaf o Kazakhstan i gyrraedd rownd y grwpiau yng Nghynghrair y Pencampwyr nôl yn 2015.
Mae gan bencampwyr Cymru bedair gêm yn weddill yn rownd y grwpiau - a hynny yn erbyn Djurgårdens o Sweden, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia.