Ergyd gyfreithiol i ymgyrchwyr ail gartrefi Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n lobïo yn erbyn mesurau sy'n ei gwneud hi'n anoddach trosi eiddo i fod yn ail gartref wedi derbyn ergyd i'w gobeithion cyfreithiol.
Gwynedd yw'r awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r hyn mae'r cyngor wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai".
Mae'n golygu bod angen caniatâd cynllunio i drosi eiddo yn ail gartref.
Ond ar ôl lansio her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad, mae'r grŵp Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 wedi cadarnhau nad oes caniatâd wedi’i roi gan farnwr i ddwyn adolygiad barnwrol drwy'r uchel lys.
Roedd y barnwr wedi dod i'r casgliad bod yr awdurdod lleol wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn "ymchwil cadarn a thrylwyr" ac nad oedd modd dadlau yn erbyn eu rhesymeg.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiwygio rheolau cynllunio wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd - sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Daeth penderfyniad Gwynedd i fanteisio ar y mesurau i reoli defnydd tai fel ail gartrefi i rym ym mis Medi eleni.
Honni ergyd i fusnesau lleol
Wedi codi dros £70,000 i gyllido adolygiad barnwrol, dywedodd Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 y byddai'r mesurau yn dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.
Dywedodd aelod o'r grŵp wrth BBC Cymru bod yr hawlydd a'u tîm cyfreithiol "ar hyn o bryd yn penderfynu a oes ganddyn nhw le i apelio", ond byddai'n rhaid ei lansio o fewn saith diwrnod o benderfyniad y barnwr.
Mae'r Cynghorydd John Brynmor Hughes yn cynrychioli ward Abersoch a Llanengan ar yr awdurdod lleol, ac mae'n gwrthwynebu Erthygl 4.
Mae'n dweud bod dirywiad wedi bod i fusnesau lleol ers i'r syniad gael ei grybwyll gan y cyngor.
“Dydi o'm yn helpu busnesau lleol o gwbl. Roeddwn yn siarad â pherchennog tecawê gynna' ac mae busnes ar i lawr," meddai.
"Mae pobl sy'n dod yma yn deud rŵan, 'Wel os dydyn nhw ddim isio ni, pam ddyla ni gefnogi nhw?'
"Mae pob busnes yma'n Abersoch yn gweld fod pethau ar i lawr."
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod prynu tai i’w defnyddio fel llety gwyliau ac ail gartrefi wedi gwthio prisiau allan o gyrraedd pobl leol ac hefyd yn lleihau nifer yr eiddo sydd ar gael.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod wrth BBC Cymru: "Rydym yn ymwybodol o benderfyniad yr Uchel Lys i wrthod yr hawl i ymgeisio am adolygiad barnwrol mewn perthynas â Chyfarwyddyd Erthygl 4."
Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn bwriadu cyflwyno Erthygl 4 ym mis Mehefin 2025, fyddai'n weithredol dros yr ardaloedd o siroedd Gwynedd a Chonwy sy'n syrthio o fewn ffiniau'r parc.
'Erthygl 4 yn rhan o’r datrysiad'
Yn croesawu'r penderfyniad, dywedodd Dr Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith: “Mae poblogaeth Gwynedd yn wynebu argyfwng tai sy’n bygwth tanseilio ei chymunedau a’r Gymraeg wrth i deuluoedd a phobl ifanc gael eu gorfodi i adael oherwydd anfforddiadwyedd tai i’w prynu neu rentu.
“Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a dechrau ymyrryd yn y farchnad dai agored yn rhan o’r datrysiad, felly rydym yn croesawu’r dyfarniad yma sy’n cadarnhau ei ddilysrwydd, ac yn ei sgil yn erfyn ar awdurdodau lleol eraill i gyflwyno mesurau tebyg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf