Gwynedd: Disgwyl rheolau llymach ar ail gartrefi a llety gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynghorwyr Gwynedd roi sêl bendith i’w gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud wythnos nesaf yn dilyn proses ymgynghori a ddenodd bron i 4,000 o ymatebion o blaid ac yn erbyn y mesurau.
Gyda'r bwriad o geisio rheoli effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Ngwynedd, yr argymhelliad yw fod cynghorwyr yn cymeradwyo mabwysiadu'r newidiadau i’r broses gynllunio, sy’n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, o 1 Medi 2024.
Ond bydd y newidiadau ddim yn effeithio ar ardal Parc Cenedlaethol Eryri, sydd eisoes wedi dechrau proses ymgynghori debyg yno.
Fe gafodd awdurdodau ledled Cymru mwy o bwerau gan y llywodraeth i reoli'r nifer o ail gartrefi yn Hydref 2022, a Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd hyn.
Ymatebion cymysg
Roedd y cyngor wedi derbyn 3,902 ymateb i’r ymgynghoriad, gyda rhai yn disgrifio’r mesurau fel rhai “annheg” ac hyd yn oed “anfoesol”.
Ymysg y 100 oedd wedi nodi anfodlonrwydd fod y cynllun yn “anghyfiawn”, roedd sylw fod “cyfyngiadau digonol eisoes yn bodoli” a fod y polisi yn “targedu'r Saeson yn bwrpasol“ gan fod “gan bawb hawl i werthu ar y farchnad agored”.
Roedd 1,242 hefyd wedi codi pryder y byddai’n cael effaith negyddol ar werth eiddo.
Dywedodd un ymatebwr: "Er y gellir ystyried hyn yn fantais i bobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu prisio allan o'r farchnad, pa ystyriaeth a roddwyd i'r rhai sydd eisoes yn byw yma, a dalodd bris llawn y farchnad am ein cartrefi ac sydd bellach yn wynebu'r posibilrwydd y caiff ein cartrefi eu dibrisio gan ein cyngor ein hunain?"
Ond roedd 1,321 o'r rheiny wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad yn cefnogi bwriad y cyngor.
Yn ôl adroddiad i Gabinet Gwynedd, gyda rhai wardiau gyda dros hanner y boblogaeth wedi eu geni tu allan i Gymru, mae angen ymyrraeth ychwanegol yn y farchnad.
Mae'r adran gynllunio eisoes wedi derbyn swm un tro o £400,000 gan y cabinet ym Mawrth 2023 er mwyn ariannu’r gost o gyflwyno’r gyfundrefn newydd, gyda'r awdurdod yn hyderus eu bod wedi derbyn cyngor cyfreithiol "ar hyd y daith".
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, sy’n dal portffolio amgylchedd y cyngor, ei fod yn gam “arloesol”.
“Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny'n allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni," meddai.
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
“Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.”
'Arf newydd'
Mae perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd eisoes yn talu premiwm o 150% ar ben eu treth cyngor.
Ond ychwanegodd y Cynghorydd Meurig byddai cyflwyno Erthygl 4 yn “arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau”.
“Mae gwaith manwl wedi ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu’r achos dros gyflwyno’r newid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.
“Mae’r sylwadau wedi derbyn ystyriaeth gofalus ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor a bydd y Cabinet rŵan yn ystyried yr holl dystiolaeth wrth benderfynu os am gadarnhau i weithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fis Medi ymlaen.”
'Argyfwng tu hwnt i ffiniau Gwynedd'
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu bwriad Cyngor Gwynedd ond wedi galw am fesurau tebyg mewn siroedd eraill yng Nghymru.
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn falch o weld Cyngor Gwynedd yn mynd ati gyda’r broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 a hynny ar draws y sir gyfan.
"Ond mae argyfwng tai Cymru’n bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd. Galwn nawr ar awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl yma ar draws eu siroedd nhw.
“Mae’n amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy’n cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir.
"Beth yw diben y grymoedd newydd yma os na all awdurdodau lleol wneud defnydd ohonyn nhw oherwydd diffyg adnoddau neu arweiniad?”
Mae disgwyl penderfyniad terfynol pan fydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod brynhawn Mawrth, 16 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023