Llai na 1% o 8m o ddefaid Cymru wedi eu brechu am glefyd 'dinistriol'

- Cyhoeddwyd
Mae amheuaeth a chamwybodaeth yn amharu ar yr ymdrech i sicrhau bod anifeiliaid fferm yn cael eu brechu rhag y tafod glas, yn ôl milfeddygon blaenllaw.
Awgryma ffigyrau sydd wedi'u rhannu â'r BBC bod llai na 1% o'r 8 miliwn o ddefaid yng Nghymru wedi'u brechu hyd yma yn erbyn y feirws sy'n gallu lladd.
Mae symudiadau da byw o Loegr i Gymru wedi'u cyfyngu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gydag achosion newydd o'r clefyd bellach wedi'u canfod mor agos â Sir Henffordd.
Rhybuddio mae milfeddygon y gallai'r clefyd brofi'n "ddinistriol" pe bai'n gafael yng Nghymru, gan fod cymaint o ffermydd da byw yma.
Un pryder amlwg gan ffermwyr yw cost brechu, gyda brechlynnau'n tua £3 yr un i ddefaid, a hyd at £6 yr un i wartheg.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
Dyw'r tafod glas - sy'n cael ei wasgaru gan wybed man - ddim yn fygythiad i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Ond gall gael effeithiau niweidiol iawn i anifeiliaid sy'n cnoi cil fel defaid a gwartheg.
Mae sefydliadau milfeddygol ac amaethyddol yn defnyddio'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon i annog mwy o ddefnydd o'r brechlynnau sydd ar gael.
Mae'r sioe - sy'n un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf Ewrop - wedi gwahardd defaid a gwartheg o Loegr a'r Alban eleni, fel rhan o'r ymdrech i geisio cadw'r feirws allan o Gymru.
Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhwystro symudiad defaid ar draws y ffin heb brawf negyddol, tra bod yn rhaid i wartheg fod wedi'u brechu.

Mae lledaeniad y tafod glas yn un o'r pynciau llosg ar faes y Sioe Fawr eleni
Fe ddechreuodd y trafferthion presennol gyda chlefyd y tafod glas yn yr Iseldiroedd yn 2023, lle buodd degau ar filoedd o ddefaid farw.
Chwythwyd y gwybed mân o'r cyfandir, gan heintio da byw yn ne ddwyrain Lloegr hefyd.
Drwy gyfyngu ar symudiadau anifeiliaid fe lwyddwyd i arafu lledaeniad y feirws, ond ers 1 Gorffennaf 2025 mae Lloegr gyfan wedi'i ddynodi yn barth cyfyngedig ar gyfer y tafod glas.
Mae tymereddau uwch yn golygu bod y gwybed man bellach yn ôl, ac fe gofnodwyd yr achosion cyntaf eleni ar 11 Gorffennaf yn dilyn profion gwaed ar wartheg yn Sir Henffordd.
Mae eisoes wedi'i ddatgelu yr oedd y ddau anifail yna i fod i gael eu symud i Gymru.

"Mae 'na lot o amheuaeth allan yna ynglŷn â brechlynnau," meddai Phil Thomas
"Mae wedi cael ei weld fel rhywbeth sy'n bell bant - ond nawr mae 'na bosibilrwydd go iawn y gallai gyrraedd Cymru," rhybuddiodd Phil Thomas, o Ganolfan Gwyddorau Milfeddygol Cymru.
"Mae 'na lot o gamwybodaeth, lot o siarad y peth lawr wedi bod - a dwi'n credu hefyd yn dilyn Covid bod 'na lot o amheuaeth allan yna ynglŷn â brechlynnau," ychwanegodd.
Mae'r ffaith i'r feirws gyrraedd ardaloedd o'r Deyrnas Unedig lle mae llai o dda byw ar y cychwyn wedi helpu atal y lledaeniad hyd yma, meddai.
Ond roedd gwaith monitro o ffermydd gafodd eu heffeithio yn ne ddwyrain Lloegr wedi cynyddu pryderon ynglŷn â'r goblygiadau posib petai'r clefyd yn cyrraedd ardaloedd lle mae nifer sylweddol o wartheg a defaid.
'Mae'n golled economaidd fawr'
Clywodd sesiwn ar-lein a drefnwyd yn ddiweddar ar gyfer milfeddygon Cymru ynglŷn â'r sefyllfa fod ffermydd yn Norfolk yn profi effeithiau hir dymor yn ymwneud â ffrwythlondeb eu stoc.
"Roedd 'na fferm ddefaid lle'r oedd 30% o'r anifeiliaid wedi bod yn sâl, tua 5% wedi marw ond roedd hyrddod na'th oroesi yn anffrwythlon a'r mamogiaid yn rhoi genedigaeth i ŵyn oedd wedi'u cam-ffurfio," meddai.
Roedd esiamplau eraill yn cynnwys fferm â 120 o fuchod, wnaeth ond gynhyrchu 60 o loi y flwyddyn ar ôl i'r fuches gael ei heintio.
"Mae'n golled economaidd fawr, a gallai olygu lot o stoc marw petai'r clefyd yn cyrraedd ardaloedd lle mae 'na lot o greaduriaid, fel Cymru ac ar hyd y ffin," esboniodd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod milfeddygon wedi cynnig presgripsiwn ar gyfer 154,260 o anifeiliaid yng Nghymru
Cafodd ymgyrch ei lansio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda milfeddygon a ffermwyr Cymreig yn apelio ar i bobl ystyried brechu eu hanifeiliaid.
"Mae 'na bryder go iawn ynglŷn â phrinder pobl sy'n dewis brechu," eglurodd y milfeddyg Sara Pedersen, sy'n aelod o grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru.
Roedd milfeddygon yn gorfod delio a "chryn dipyn o gamwybodaeth", gan gynnwys pobl yn dweud "dyw e ddim yn glefyd cas iawn a neith e ddim cyrraedd Cymru," meddai.
"Roedden ni wir yn teimlo bod yn rhaid i ni dorri drwy hynny a gwneud y mwya' o'r cyfle o drio cadw'r tafod glas allan am mor hir â phosib."
"Pan fydd e'n cyrraedd fe allai gael effeithiau dinistriol," rhybuddiodd.

Mae Helen Roberts o'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol yng Nghymru yn annog eu haelodau i ystyried brechu
Mae'r ffigyrau diweddaraf, sydd wedi'u rhannu gyda'r BBC, yn dangos bod milfeddygon wedi cynnig presgripsiwn ar gyfer 154,260 o anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys 103,970 o wartheg, 48,904 o ddefaid, 200 lama neu alpaca, a 1,186 o eifr.
Mae perchnogion anifeiliaid wedi adrodd iddyn nhw frechu 79,694 o anifeiliaid, gan gynnwys 48,403 o wartheg, 30,898 o ddefaid, a 393 o lamas, alpacas a geifr.
Ym mart Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin doedd yr un ffermwr y buodd BBC Cymru'n siarad â nhw wedi brechu eu hanifeiliaid hyd yma.
"Dwi reit lawr yng ngorllewin Cymru felly heb ystyried brechu eto," eglurodd Alan Jones.
"Ond dwi'n cadw llygad ar y sefyllfa ac yn darllen y newyddion drwy'r amser," meddai.
"Ry'n ni'n ffodus nad yw'r tafod glas wedi effeithio'r ardal yma eto," ychwanegodd Gruff Jones, oedd yn poeni am faint fyddai'n rhaid iddo dalu i frechu ei braidd.
"Mae 'na gymaint o gostau i ffermwyr ar hyn o bryd... os nawn ni ychwanegu hwn hefyd fydd 'na ddim elw o gwbl," meddai.
Roedd Kevin Page o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynnig cyfrannu'n ariannol at y gwaith brechu.
"Fe ddyle fod mwy o help i ffermwyr frechu eu defaid," meddai.
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae brechlynnau ar gyfer defaid yn costio rhwng £2.50 - £3 yr un, a rhwng £5 - £6 ar gyfer gwartheg.
Dywedodd Helen Roberts o'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) yng Nghymru bod y corff yn annog eu haelodau i ystyried brechu.
"Hyd yn oed os na fydd 'na drafferthion mawr eleni, ry'ch chi dal yn diogelu'ch hun rhag y clefyd yn dychwelyd y flwyddyn nesaf - mae wir werth gwneud," meddai.
Galwodd hefyd am gyflymu gwaith ymchwil ynglŷn ag ydy'r brechlynnau'n mynd ymhellach na lleddfu symptomau'r clefyd mewn defaid, ac ydyn nhw'n atal y feirws rhag cylchredeg yn y gwaed.
Byddai hynny o bosib yn galluogi'r cyfyngiadau ar hyd y ffin i gael eu llacio ar gyfer defaid sydd wedi'u brechu.
"Dwi wir yn gobeithio y daw'r wybodaeth yna drwodd cyn gynted â phosib," meddai, gan ychwanegu y byddai hynny'n annog mwy o ffermwyr i frechu eu stoc.
Mae'r NSA yn gofyn ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun yn egluro sut mae'n bwriadu delio a'r trafferthion o ran masnachu ar hyd y ffin sydd wedi'u peri gan y cyfyngiadau.
"Mae'n agosáu at y cyfnod prysuraf a phwysicaf o ran gwerthu defaid bridio - mae angen i ni gael cyhoeddiad cyn hir," dywedodd Ms Roberts.
'Y blaidd wrth y drws'
Dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies wrth BBC Cymru fod y llywodraeth yn "gwneud ei gorau glas i ddal y clefyd yn ôl," gan "brynu amser i ffermwyr frechu".
Ond roedd y feirws "ar y ffin - mae'r blaidd wrth y drws," rhybuddiodd.
Dywedodd ei fod yn derbyn diweddariadau'n ddyddiol gan ei swyddogion a phrif filfeddyg Cymru.
Byddai'r llywodraeth yn parhau i adolygu'r cyfyngiadau ar symud da byw ar draws y ffin drwy'r haf ac maen nhw'n cydnabod pryderon ffermwyr ynglŷn â'r modd y mae'n amharu ar fasnachu.
"Ond dwi eisiau dweud yn onest iawn - bob tro ry'n ni'n addasu'r rheolau mae'r risg o'r tafod glas yn cyrraedd Cymru yn cynyddu," meddai.