Cwmni milfeddygol wedi gwerthu miloedd o frechlynnau tafod glas

Swyddfa Wern
Disgrifiad o’r llun,

'Ni wedi gwerthu 10,000 o ddosys,' medd Rhys Jones o Filfeddygon y Wern yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni milfeddygol yn y gogledd eisoes wedi gwerthu miloedd o frechlynnau tafod glas wrth i reolau symud stoc newydd ddod i rym ar 1 Gorffennaf.

Yn ôl Rhys Jones o Filfeddygon y Wern yn Rhuthun mae 'na lawer o ffermwyr yn poeni am y sefyllfa ac effaith y clwy ar wartheg a defaid.

"Ni wedi cael lot o ymholiadau oherwydd fel practis ni'n gwerthfawrogi fod tafod glas yn medru cael effaith fawr ar ffermwyr a busnesau yng ngogledd Cymru.

"So ni wedi bod yn rhedeg cyfarfodydd hefo ffermwyr a mae llawer wedi penderfynu iwsho'r brechlyn yn sgil hynny – a ni wedi gwerthu 10,000 o ddosys," meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.

Mart Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

"Mi allwn ni weld yr effaith am flwyddyn neu ddwy," medd Richard Lloyd, arwerthwr gyda chwmni Ruthin Farmers

O 1 Gorffennaf bydd Lloegr gyfan mewn ardal tafod glas – sy'n golygu y bydd angen i ddefaid sy'n cael eu symud i Gymru gael prawf negyddol am y clwy.

Mae'r prawf yn £35 yr anifail a chostau milfeddygol ar ben hynny.

Gyda gwartheg bydd modd eu profi neu eu brechu – ond fe fydd angen brechu ddwywaith a gadael bwlch o 21 diwrnod ar ôl yr ail frechlyn.

Ond mae rhai ffermwyr ac arwerthwyr o'r farn bod y rheolau yn anymarferol ac yn ddrud.

Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Roberts wedi penderfynu peidio brechu am y tro oherwydd y gost

Yn ôl ffermwyr fel Aled Roberts o Ben-y-bont-fawr yn Sir Drefaldwyn – sy'n byw bum milltir yn unig o'r ffin – mae amaethwyr yr ardal yn poeni'n arw.

"I roi dyddiad o'r cyntaf o Orffennaf mi ellith neud y sefyllfa yn waeth.

"Mae pobl yn mynd i drio dod â defaid adra o Loegr rŵan yn lle yn hwyrach ymlaen pan fydd na lai o bryfaid sy'n cario'r tafod glas o gwmpas," meddai.

Mae Aled yn gaeafu tua 1,200 o ddefaid ac ŵyn yn Lloegr ac mae'n pryderu os y bydd yn eu symud yno - a bod y rheolau presennol yn dal mewn grym - na fydd modd iddyn nhw ddychwelyd heb orfod talu miloedd i'w profi am y clwy.

Mae'n dweud hefyd ei fod o'n gwybod am nifer o ffermwyr sydd wedi brechu – yn arbennig gwartheg, ond mae o wedi penderfynu peidio â gwneud hynny am y tro oherwydd y gost.

Nia Thomas a Richard Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Colli stoc ydy'r pryder, medd Richard Lloyd wrth Nia Thomas

Mae'r sefyllfa yn gur pen go iawn yn ôl Richard Lloyd, arwerthwr gyda chwmni Ruthin Farmers.

"'Di o ddim yn gwneud synnwyr, i ni fel cwmni - y pryder ydi colli stoc.

"Da ni'n cael dipyn yn dod dros y ffin - ac mi fydd yn 'ffeithio'n waeth ar rai cwmnïau na ni.

"Yn dibynnu am ba mor hir fydd hyn yn para, mi allwn ni weld yr effaith am flwyddyn neu ddwy," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y polisi wedi ei gyflwyno er mwyn cadw Cymru yn rhydd o'r tafod glas am gyn hired ag sy'n bosib gan roi cyfle i ffermwyr frechu.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn adolygu'r polisi yn gyson.

Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwnc trafod seriws iawn," yn ôl Rhys Jones

Yn ôl y milfeddyg Rhys Jones mae cost brechu oddeutu £2.50 y ddafad a £5 am wartheg.

"Mae'r brechlynnau yn lleihau symptomau ac yn arbed anifeiliaid rhag marw. Ond dydyn nhw ddim yn sicrhau amddiffyniad llwyr i bob anifail," meddai.

"Yn yr Almaen roedd tua 30% o ddefaid yn marw ond roedd y ganran yn 2% ar gyfer yr anifeiliaid oedd wedi eu brechu.

"Er mai dim ond ers rhyw flwyddyn mae'r brechlyn allan, ni'n credu y bydd yn effeithiol am rhyw flwyddyn," ychwanegodd.

Mae Aled Roberts yn teimlo y dylai Cymru ddilyn Lloegr a sefydlu parth tafod glas.

"Dyw'r gwybed ddim yn deall y ffin. Mae'n bwnc trafod seriws iawn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig