Bethan Rhys Roberts yn ennill gwobr arbennig BAFTA Cymru 2025

Bethan Rhys RobertsFfynhonnell y llun, Lydia Lambert
  • Cyhoeddwyd

Y newyddiadurwraig a chyflwynydd adnabyddus, Bethan Rhys Roberts, fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips BAFTA Cymru eleni.

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at y byd ffilm neu deledu.

Bethan Rhys Roberts yw prif gyflwynydd Newyddion S4C, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno rhaglenni Post Prynhawn a Hawl i Holi ar Radio Cymru.

Dywedodd Bethan ei bod yn "gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli newyddiadurwyr ifanc – ac yn arbennig menywod – i herio a pharhau i geisio'r gwirionedd".

Mae BAFTA hefyd wedi cyhoeddi bod yr awdur a chynhyrchydd, Russell T Davies yn derbyn gwobr am Gyfraniad Neilltuol at y Byd Teledu.

Dywedodd BAFTA ei fod yn derbyn y wobr am "dorri tir newydd yn y byd drama LGBTQIA+" dros ddau ddegawd.

Bethan yn Washington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Rhys Roberts yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig menywod, wrth dderbyn gwobr BAFTA Cymru

Mae gyrfa amrywiol Bethan dros dri degawd wedi mynd â hi o gwmpas y byd gan gynnwys rhyfeloedd mewn gwledydd fel Bosnia a Thwrci.

Yn wreiddiol o Fangor fe enillodd radd mewn Ffrangeg ac Eidaleg cyn astudio newyddiaduraeth Ewropeaidd ym Mharis.

Fe arhosodd yn y ddinas fel newyddiadurwraig lawrydd cyn symud i Lundain i fod yn ohebydd seneddol gyda'r BBC.

Wrth gyhoeddi'r wobr soniodd am daith i wersyll i ffoaduriaid yn Sudan rai blynyddoedd yn ôl.

Dywedodd bod ganddi "atgof byw iawn am wyneb un ferch fach" oedd yn ei dilyn o gwmpas wrth iddyn nhw ffilmio.

"Fydda i'n aml yn meddwl tybed beth ddigwyddodd iddi", meddai.

"I mi, gweld plant yn dioddef yw'r rhan anoddaf o'r gwaith bob tro. Waeth beth fo'r amgylchiadau, nhw yn aml yw'r cyntaf i wenu – maen nhw'n gwneud teganau o shrapnel, ac yn chwilio am y daioni lle mae oedolion wedi creu gwrthdaro a chaledi ofnadwy."

'Anrhydedd go iawn'

Ymhlith enillwyr Gwobr Siân Phillips y gorffennol mae'r actor Rhys Ifans, yr awdur Russell T Davies, yr actor Michael Sheen, yr awdures ac actores Ruth Jones, a'r actor Mark Lewis Jones, enillydd gwobr y llynedd.

Dywedodd Bethan: "Mae derbyn y wobr fawr ei bri yma yn enw eicon ysbrydoledig rhyngwladol o Gymraes yn anrhydedd go iawn.

"Mae hi wir yn fraint ac yn cydnabod rhagoriaeth y cydweithwyr a'r timau hynod rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw wrth adrodd straeon pobl yng Nghymru a'r tu hwnt."

Ychwanegodd mai "adrenalin" sy'n ei gyrru - "yr angen am adrodd y stori ac o fewn yr amser sydd ar gael".

"Dim ond ar ôl stopio y mae hi wir yn gallu effeithio arnoch chi", meddai.

Guto Harri, Bethan Rhys Roberts, Dewi Llwyd, Vaughan Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan yn rhan o'r tîm oedd yn gohebu ar refferendwm datganoli 1997

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd Bethan ei bod yn falch bod maes newyddiaduraeth yn cael cydnabyddiaeth, yn enwedig newyddiadura Cymraeg.

"Mae newyddiaduraeth mor bwysig" meddai ac "mae'n mynd yn fwyfwy pwysig yn y byd sydd ohoni".

Ychwanegodd ei bod hi'n "fyd lliwgar iawn rŵan – mae pawb yn gweiddi".

"Dwi'n meddwl mai USP y BBC a Newyddion S4C ydy diduedd a ma' rhaid i ni weiddi am hynny", meddai.

"Oes mae 'na garfanau, mae 'na bolareiddio, a mae pobl isio pegynna' ond os nad oes yna newyddiaduraeth gytbwys yn y canol mae'n fyd eitha' brawychus."

'Newyddiaduraeth yn bwysicach nag erioed'

Dywedodd hefyd bod y maes wedi "trawsnewid".

Erbyn hyn gyda ffonau symudol a'r cyfryngau cymdeithasol "mae pawb yn newyddiadura ar draws y byd," meddai, "sy'n g'neud newyddiadura cytbwys a theg a diduedd – beth bynnag yw hynny - yn fwy pwysig nag erioed".

Pwysleisiodd bod technoleg deallusrwydd artiffisial am chwarae rhan enfawr wrth symud ymlaen.

"Mae'n gyffrous iawn", meddai "ond 'da ni ddim yn gwybod ble bydd hynny'n mynd â ni i'r dyfodol."

Wrth gyfeirio at wneud gwaith ymchwil dywedodd bod "rhywbeth fydda' 'di cymryd oria' - o fewn eiliada' mi ges i gynnig graffia' lliw, amserlen, ac fe alla rhywun fod wedi darlledu'n syth ond pwy sy'n gwirio hwnna?

"Mae am fod yn her aruthrol i newyddiaduraeth – mae mor gyffrous bod hynna i gyd ar flaena'n bysadd ni o fewn eiliada' ond eto ma' angan gwirio popeth."

Bethan Rhys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan ei bod hi'n gyfnod cyffrous ym myd newyddiadura o ystyried technoleg deallusrwydd artiffisial

Dywedodd Cadeirydd BAFTA Cymru, Lee Walters bod Bethan wedi bod yn "ymgorffori'r safonau uchaf" ers dros dri degawd.

"Mewn oes lle mae'r cyfryngau'n newid ar garlam, mae ei gwaith wedi cynnal y rôl hanfodol o gyfleu'r gwirionedd gydag uniondeb, eglurder a thegwch bob tro," meddai.

Ychwanegodd: "Dim ots ai adrodd ar wleidyddiaeth, digwyddiadau mawr neu'r straeon pob dydd sy'n llunio ein cenedl y mae hi, mae Bethan yn llais y mae cynulleidfaoedd ar draws Cymru'n ymddiried ynddo" ac mae'n "esiampl wych i genhedlaeth newydd o ddarlledwyr".

'Dipyn o anrhydedd'

Dechreuodd Russell T Davies ei yrfa 40 mlynedd yn ôl, ac mae'n cael ei adnabod am ei ran wrth ailgyflwyno Dr Who i gynulleidfa newydd yn 2005.

Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am sawl drama lwyddiannus, yn cynnwys ei ddrama i blant yn 1996, Dark Series, a roddodd ei wobr BAFTA gyntaf iddo.

Russell T DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Russell T Davies bod derbyn y wobr yn "ganmoliaeth aruthrol"

Mae ei waith wedi cwmpasu nifer o flynyddoedd, sianeli a genres, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan BAFTA fel un sydd wedi "ailddiffinio'r canfyddiad o bortreadu LGBTQIA+ ar y sgrin".

"Mae Russell wedi bod wrth galon y byd drama cwiar, wrth greu rhaglen arloesol Channel 4 Queer as Folk, a ymddangosodd am y tro cyntaf ym 1999, 15 mlynedd cyn Cucumber, cyfres arall sy'n nodedig am ei phortread hynod gynhwysol o LGBTQIA+", meddai BAFTA.

Wrth gyhoeddi'r wobr, dywedodd Davies: "Mae gwobrau yn hurt ac yn hyfryd.

"Mae derbyn y Wobr yma am Gyfraniad Neilltuol yn dipyn o anrhydedd. Mae'n golygu bod rhywun wedi gwylio rhywbeth ac wedi cofio rhywbeth rydych chi wedi ei wneud.

"Ein cymheiriaid sy'n penderfynu ar wobrau fel hyn, sy'n ganmoliaeth aruthrol."

Wrth longyfarch y ddau, dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru, bod eu "hangerdd a'u hymroddiad i'r diwydiant i'w gweld yn glir ac mae'r ffordd y maent wedi ysbrydoli eraill i ddilyn yn eu llwybr gyrfa yn dyst i'w rhagoriaeth".

"Rydym yn hynod o ffodus yma yng Nghymru i gael yr unigolion ysbrydoledig, talentog hyn yn ein plith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.