Cyhoeddi enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2025

- Cyhoeddwyd
Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi yr enwebiadau ar gyfer gwobrau 2025 - y ddrama sydd wedi cael y mwyaf o enwebiadau yw Lost Boys and Fairies - drama sy'n dilyn cwpl hoyw drwy'r broses fabwysiadu
Mae'r ddrama wedi derbyn saith enwebiad, tra bod y gyfres Until I Kill You wedi'i henwebu mewn pum categori.
Mae pedwar enwebiad hefyd i'r ffilm Mr Burton - sy'n dilyn bywyd cynnar yr actor Richard Burton a'i berthynas gyda'i athro ysgol - a phedwar enwebiad i'r ddrama Cleddau.
Bydd enillwyr yr holl wobrau, sy'n cwmpasu meysydd crefft, perfformio a chynhyrchu, yn cael eu cyhoeddi ar 5 Hydref mewn seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Mae Rhys Ifans wedi cael ei enwebu am ei berfformiad yn y gyfres House of the Dragon
Dywedodd Lee Walters, cadeirydd BAFTA Cymru: "Llongyfarchiadau i enwebeion BAFTA Cymru eleni, y mae eu doniau a'u creadigrwydd rhagorol wedi ffurfio rhestr o ffilmiau, teledu a pherfformiadau sy'n werth eu gweld.
"Mae'r enwebiadau yma'n dathlu cryfder gwaith adrodd straeon o Gymru a'n diwydiannau sgrin sydd ar gynnydd.
Yr enwebiadau'n llawn
Actor
HARRY LAWTEY Mr Burton - Severn Screen / Promise Pictures / Brookstreet Pictures
RHYS IFANS House of the Dragon - Bastard Sword / GRRM / 1:26 Pictures Inc. / HBO / Sky Atlantic
SHAUN EVANS Until I Kill You - World Productions / ITV1
SION DANIEL YOUNG Lost Boys and Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales

Fra Fre (Andy) a Sion Daniel Young (Gabriel) yn Lost Boys & Fairies
Actores
ANNA MAXWELL MARTIN Until I Kill You - World Productions / ITV1
ELEN RHYS Cleddau - BlackLight Television / S4C
GWYNETH KEYWORTH Lost Boys & Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales
KATY WIX Big Boys - Roughcut TV / Channel 4

Elen Rhys a Richard Harrington yn y gyfres Cleddau
Gwobr 'Torri Drwodd'
ADAM LLEWELLYN, JAMES PRYGODZICZ, THOMAS REES The Golden Cobra, Awdur - Beastly Media / BBC Three
MARED SWAIN Cleddau, Cynhyrchydd - BlackLight Television / S4C
SARA NOURIZADEH Finding Hope, Cyfarwyddwr - Avalanche Productions / Boom Cymru / BBC Two Wales
Rhaglen Blant
DEIAN A LOLI - Cwmni Da / S4C
MABINOGI-OGI - Boom Cymru / S4C
PWYSUTPAM? - Cwmni Da / S4C
Cyfarwyddwr: Ffeithiol
GWENLLIAN HUGHES & NICK LEADER Hunting Mr Nice: The Cannabis Kingpin / Kailash Films / Passion Docs / BBC Two
HANNAH LOWES Helmand: Tour of Duty - Kailash / Passion Pictures / BBC One Wales
IWAN ROBERTS Brianna: A Mother's Story - Multistory Cymru / ITV1
LUNED TONDERAI Miriam: Death of a Reality Star - Expectation Factual / Channel 4
Cyfarwyddwr: Ffuglen
JAMES KENT Lost Boys and Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales
JOSHUA TRIGG Satu: Year of the Rabbit - Geronimo Boy Film Ltd
RHYS CARTER Ar y Ffin - Severn Screen / S4C
Golygu
DAFYDD HUNT Cleddau - BlackLight Television / S4C
DANIELLE PALMER Lost Boys & Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales
DYLAN GOCH Ffa Coffi Pawb! - Ie Ie Productions ltd / S4C
TIM HODGES Mr Burton - Severn Screen / Promise Pictures / Brookstreet Pictures
Rhaglen Adloniant
THE GOLDEN COBRA - Beastly Media / BBC Three
SGWRS DAN Y LLOER: NOEL THOMAS - Teledu Tinopolis Cyf / S4C
LLOND BOL O SBAEN - Cwmni Da / S4C
Y LLAIS - Boom Cymru / S4C

Rose Datta o Gaerdydd yn ennill cyfres Y Llais 2025
Cyfres Ffeithiol
A SPECIAL SCHOOL - Slam Media / BBC One Wales
AR BRAWF – Darlun / S4C
HUNTING MR NICE: THE CANNABIS KINGPIN - Kailash / Passion Pictures / BBC One Wales
MARW GYDA KRIS - Ffilmiau Twm Twm / S4C
Newyddion a Materion Cyfoes
BBC WALES INVESTIGATES - UNMASKED: EXTREME FAR RIGHT - BBC Wales Current Affairs Team /BBC One Wales
NEWYDDION S4C - NEIL FODEN - BBC Wales / S4C
WALES AT SIX: WOMEN'S EUROS SPECIAL - ITV Cymru Wales / ITV1
Y BYD AR BEDWAR: HUW EDWARDS - ITV Cymru / S4C
Ffotograffiaeth A Goleuo: Ffuglen
BRYAN GAVIGAN A Cruel Love: The Ruth Ellis Story - Silverprint Pictures / ITV1
SAM THOMAS Until I Kill You - World Productions / ITV1
STUART BIDDLECOMBE Mr Burton - Severn Screen / Promise Pictures / Brookstreet Pictures
Cyflwynydd
AMY DOWDEN Strictly Amy: Cancer and Me - Wildflame / BBC One Wales
BETHAN RHYS ROBERTS Etholiad 2024 - BBC Cymru Wales / S4C
CHRIS ROBERTS Chris Cooks Cymru - Cwmni Da / BBC One Wales
KRISTOFFER HUGHES in Marw gyda Kris - Ffilmiau Twm Twm / S4C
Ffilm Fer
LIMINAL ROOTS - The National Film and Television School
MAULED BY A DOG - Scymru Films
MOTHER'S DAY - Cliff Edge Pictures
RIPPLES - Artvomit Studios
Rhaglen Ddogfen Sengl
BRIANNA: A MOTHER'S STORY - Multistory Cymru / ITV1
HELMAND: TOUR OF DUTY - Kailash / Passion Pictures / BBC One Wales
LEGENDS OF WELSH SPORT: LIZ JOHNSON- SWIMMING AGAINST THE TIDE – Kailash / BBC One Wales
STRICTLY AMY: CANCER AND ME – Wildflame / BBC One Wales
Sain
Production Team for Mr Burton - Severn Screen / Promise Pictures / Brookstreet Pictures
Sound Team for Cleddau - BlackLight Television / S4C
Sound Team for Lost Boys and Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales
Sound Team for Helmand: Tour of Duty - Kailash / Passion Pictures / BBC One Wales

Harry Lawtey yn chwarae rhan Richard Burton yn y ffilm Mr Burton
Drama Deledu
AR Y FFIN - Severn Screen / S4C
LOST BOYS AND FAIRIES - Duck Soup Films / BBC One Wales
UNTIL I KILL YOU - World Productions / ITV1
Awdur
ABI MORGAN Eric – SISTER / Netflix
DAF JAMES Lost Boys and Fairies - Duck Soup Films / BBC One Wales
NICK STEVENS Until I Kill You - World Productions / ITV1
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Mawrth