Ateb y Galw: Bethan Rhys Roberts

  • Cyhoeddwyd
bethan rhys roberts

Yr wythnos yma Bethan Rhys Roberts sy'n Ateb y Galw. Mae Bethan newydd gael ei henwi fel cyflwynydd newydd Hawl i Holi ar BBC Radio Cymru wedi i Dewi Llwyd gyhoeddi ei fod yn ildio'r awenau wedi 15 mlynedd â'r rhaglen.

Yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd Newyddion S4C, BBC Wales Live, a Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dyma gyfle i ddod i 'nabod Bethan 'chydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Yn hogan fach, roedd gen i gi bach ar olwynion, Sion, a dwi'n cofio mynd â fo am dro ar ben fy hun yr holl ffordd ar hyd Ffordd Penrhos ym Mangor yn dair oed. Diolch byth fe ddaeth rhywun o hyd i mi a mynd â fi adra!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Tysilio - lle hudol yng nghanol y Fenai. Fe wnes i dreulio oriau ac oriau yn chwarae efo ffrindiau ysgol ac yn rhedeg ar hyd 'Belgium prom' i'r fynwent a'r goedwig.

Disgrifiad o’r llun,

Ynys Tysylio - man agos iawn at galon Bethan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti priodas - teulu, ffrindiau, bybls, jazz, hwyl a'r gŵr gorau yn y byd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Brwdfrydig, hunan feirniadol, ffyddlon

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Roeddwn i'n cael gwers hwylio ychydig flynyddoedd yn ôl a roedd 'na griw ohonan ni ar gwch eitha' mawr yn gwrando ar yr hyfforddwr yn ein dysgu ni sut i wneud gwahanol glymau. Fe aeth fy meddwl ar grwydr, fe wnes i eistedd nôl a disgyn dros fy mhen-ôl i'r mor. Move over Mr Bean!

Ffynhonnell y llun, Bethan Rhys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bethan yn mynd am dro gyda'i chi, Mili

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan o'n i'n gweithio fel waitress yn Ffrainc dwi'n cofio gollwng llond powlen o datws menyn ar ffrog melfed un o brif westeion cinio mawreddog. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth pan nes i drio ll'nau'r llanast. Ches i ddim cwblhau'r shifft yna!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Mis diwetha' yn cofio am Dad.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes nifer fawr mae'n siŵr - ond trio gwneud gormod o bethau ar yr un pryd a disgwyl i bobl eraill ddeall be' dwi'n trio'i wneud - a llosgi tost yn y bore.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi wrth fy modd yn gwrando ar bodlediad The Rest is Politics - trafod difyr o ddau bersbectif gwleidyddol

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alastair Campbell ac Rory Stewart; cyflwynwyr y podlediad The Rest is Politics

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Yr Arlywydd Zelenski - lle ma' dechra efo cyn gomedïwr sy'n arwain ei wlad mewn rhyfel.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n lliw ddall sy'n eitha' prin ymhlith merched. Dwi'n gallu gweld lliwiau cryf (dwi'n meddwl!) ond weithiau 'does gen i ddim syniad sut i roi enw i'r hyn dwi'n ei weld.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Diwrnod o deithio efo'r teulu… brecwast gyda'r wawr yn Île St Louis ym Mharis, p'nawn mewn caiacs yn Venice a gorffen gyda fish a chips wrth i'r haul fachlud ym Mhorthgain.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Siôn Corn - codi gwên ar bob plentyn yn y byd a chael gwibio ar draws y blaned mewn noson - waw!

Hefyd o ddiddordeb: