Joe Allen: Y 'Xavi Cymreig' a thrysor cenedlaethol

Joe Allen yn paratoi i chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Allen wedi ymddeol o bêl-droed yn 35 oed

  • Cyhoeddwyd

"Mi fydd hwn yn chwarae dros Gymru ryw ddiwrnod."

O oedran ifanc iawn mi oedd Joe Allen wedi creu argraff ar sawl un yn academi Abertawe.

Chwarter canrif yn ddiweddarach mae wedi penderfynu ymddeol, ond mi fydd o'n cael ei gofio fel un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Cymru.

Mae'n rhoi'r gorau i bêl-droed ar ôl chwarae yng Nghwpan y Byd a'r Euros dros Gymru, yn ogystal â chwarae dros 600 o gemau ar lefel clwb i Abertawe, Lerpwl, Stoke City a Wrecsam, lle y cafodd gyfnod byr ar fenthyg ar ddechrau ei yrfa.

Mi gafodd Allen ei ddisgrifio fel "legend" gan Gareth Bale yn 2023.

Tydi o erioed wedi cael yr un ganmoliaeth â chwaraewyr fel Bale ac Aaron Ramsey dros y blynyddoedd, ond mae o'n sicr wedi cael yr un dylanwad ar y tîm cenedlaethol yn ystod yr 'oes aur' dros y ddegawd ddiwethaf.

Joe Allen yn chwarae dros Abertawe'n erbyn Manchester United gyda Paul Scholes yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn chwarae i Abertawe yn erbyn Manchester United

Fe ymunodd ag Abertawe pan oedd yn naw oed, ac mi gafodd ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf am y tro cyntaf yn 16 oed.

Yn ei dymor llawn cyntaf fe chwaraeodd ran hollbwysig wrth i'r Elyrch ennill Adran Un, gyda'r rheolwr Roberto Martinez yn llawn canmoliaeth o'i sgiliau pasio a'r ffordd yr oedd yn gallu'r cadw'r meddiant.

Dair blynedd yn ddiweddarach mi oedd 'na ddyrchafiad arall i Abertawe ac i Allen, wrth iddyn nhw gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr o dan arweinyddiaeth Brendan Rodgers.

Y Xavi Cymreig

Ar ôl tymor cyntaf llwyddiannus ar y lefel uchaf, fe ddilynodd Rodgers i Lerpwl am £15m.

Wrth groesawu Allen i Anfield, fe gafodd ei ddisgrifio gan Rodgers fel y "Xavi Cymreig" - enw sydd wedi aros efo fo dros y blynyddoedd.

Fe gafodd amseroedd da yn Lerpwl, gan chwarae'n rheolaidd am dri thymor. Mi oedd yn rhan allweddol o'r tîm ddaeth yn agos at ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn nhymor 2013-14.

Joe Allen yn chwarae dros Lerpwl gyda Steven Gerrard yn AnfieldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn dathlu gyda Steven Gerrard yn ystod ei gyfnod gyda Lerpwl

Fe adawodd Lerpwl yn 2016, gan ymuno â Mark Hughes yn Stoke City am £13m ar ôl i Abertawe wrthod y cyfle i'w ail-arwyddo.

Mi dreuliodd chwe blynedd gyda Stoke, gan chwarae dros 200 o gemau i'r clwb.

Mae sawl un yn credu y dylai fod wedi gadael y clwb yn 2018 pan syrthion nhw allan o Uwch Gynghrair Lloegr, ond fe arhosodd yno tan 2022.

Pan ddaeth ei gytundeb gyda'r Potters i ben, fe ail-ymunodd ag Abertawe.

Yn anffodus mae wedi cael lot fawr o anafiadau yn ystod y tri thymor diwethaf sydd wedi bod yn rhwystredig iawn iddo.

Ar ôl dweud hynny - pan yn holliach - mi oedd ei dalent dal yn amlwg - ac mae ei ddylanwad yn yr ystafell newid wedi bod yn hollbwysig wrth i'r Elyrch orffen y tymor yn gryf.

Gareth Bale, Joe Allen a Neil Taylor yn dathlu curo Gwlad Belg 3-1 yn Lille yn Euro 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale, Joe Allen a Neil Taylor yn dathlu curo Gwlad Belg yn Euro 2016

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2009, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn lle Jack Collison yn erbyn Estonia o flaen 4,000 o gefnogwyr yn Llanelli.

Mi oedd hi'n gyfnod anodd i'r tîm cenedlaethol o dan arweinyddiaeth John Toshack, ond mi oedd 'na ddyddiau gwell i ddod.

Fe ddaeth yn ddewis cyntaf yng nghanol y cae gyda Gary Speed wrth y llyw, ac fe dyfodd ei ddylanwad yn ystod teyrnasiad bythgofiadwy Chris Coleman.

'Oes aur' Cymru

Fel sawl un o chwaraewyr Cymru fe ddaethth uchafbwynt ei yrfa yn 2016.

Fe chwaraeodd ymhob un o'r gemau wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gynderfynol yr Euros yn Ffrainc.

Doedd Cymru heb fod yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol ers 1958, oedd yn golygu fod y gobeithion yn eithaf isel, ond diolch i Allen, Gareth Bale a gweddill y criw fe lwyddon nhw i synnu'r byd pêl-droed.

Fe gafodd Allen ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth - ac mi oedd o'n llawn haeddu'r anrhydedd yna.

Mi oedd 'na fwy o lwyddiant i ddod yng nghrys coch Cymru, wrth iddo eu helpu nhw i gyrraedd Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Joe Allen yn gadael y cae yn erbyn Lloegr gydag anaf yn ystod Cwpan y Byd 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn gadael y cae gydag anaf yn ystod Cwpan y Byd 2022

Mi oedd hi'n siom nad oedd Allen 100% yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar oherwydd anaf i'w goes.

Doedd 'na ddim lle iddyn nhw yn rownd yr 16 olaf wrth iddyn nhw golliyn erbyn Lloegr ac Iran yn y grŵp, a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Fyddai hi wedi bod yn stori wahanol os fyddai Allen wedi bod yn gwbl ffit? Digon posibl.

Fe benderfynodd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl y gystadleuaeth yn 32 oed, gan ddweud ei bod hi'n amser iddo wneud lle i'r "genhedlaeth nesaf".

Mi oedd 'na deimlad ymysg cyn-chwaraewyr a chefnogwyr ei fod wedi gwneud camgymeriad.

Yn ôl Rob Page, doedd 'na ddim ffordd 'nôl i Allen, ond mi oedd gan Craig Bellamy syniadau eraill.

Ac ym mis Hydref 2024, bron i ddwy flynedd ar ôl iddo ennill cap rhif 74, fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Montenegro i ennill cap rhif 75.

Mae'n ymddeol am yr eildro gyda 77 cap i'w enw.

Unwaith eto mi fydd 'na gwestiynau yn cael ei gofyn am ei benderfyniad, gyda sawl un yn credu fod ganddo dal ran i'w chwarae ar lefel clwb ac ar y lefel rhyngwladol.

Mae un peth yn sicr - mi fydd 'na golled anferth ar ei ôl.