Grŵp Cricieth Creadigol yn ennill gwobr am eu gwaith cymunedol

Cricieth CreadigolFfynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ffion, Pam, Lorraine, Catrin a Margaret o Cricieth Creadigol yn derbyn y wobr yn y seremoni yn Llundain nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp celf cymunedol Cricieth Creadigol wedi dod i'r brig yng Ngwobrau Bywydau Creadigol 2024.

Dathlu a chydnabod pwysigrwydd gweithgareddau creadigol o bob math mewn cymunedau lleol yw nod y gwobrau.

Mewn seremoni yn Llundain nos Iau, fe ddaeth Cricieth Creadigol i'r brig yng nghategori 'Dewis y Bobl' yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Yn ôl Dr Catrin Jones, clerc Cyngor Tref Cricieth, mae ennill y wobr yn "anrhydedd", gan ddiolch hefyd i "bawb sy'n cyfrannu at ein gwaith creadigol cymunedol" yn y dref.

Roedd 34 o grwpiau creadigol wedi eu cynnwys ar y rhestr fer, a hynny o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae Bywydau Creadigol yn dathlu creadigrwydd bob dydd grwpiau o fewn cymunedau - o furluniau a mosaigau, i bantomeim, barddoniaeth a ffotograffiaeth.

Mae'r elusen yn dweud eu bod nhw'n ceisio cefnogi grwpiau cymunedol creadigol er mwyn meithrin cymunedau mwy cynaliadwy.

Ffynhonnell y llun, Cricieth Creadigol
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Cricieth Creadigol gyrraedd y rhestr fer

Ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Catrin Jones - fu'n derbyn y wobr ar ran y grŵp yn y seremoni - eu bod nhw "wir yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth".

"Ma' fe'n cynnwys y gwaith wnaethon ni i harddu Cricieth er mwyn croesawu pobl i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd y llynedd," meddai.

"O'dd y gwaith yn amrywio o faneri, i arwyddion croeso i toppers bocsys post - ac fe wnaethon ni arddangosfa ar stryd fawr Cricieth i gofio Eisteddfod 1975.

"O'dd e'n dathlu cysylltiadau Cricieth gyda'r Eisteddfod - y beirdd sy' 'di bod, y diweddar W R P George yn ennill Coron Eisteddfod Caerfyrddin 50 mlynedd yn ôl, a'r prifardd Twm Morys yn ennill y Gadair."

Ffynhonnell y llun, Cricieth Creadigol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth aelodau'r grŵp osod coed Nadolig arbennig o gwmpas y dref y llynedd

Ychwanegodd Dr Jones fod ymdrechion y grŵp yn cael ei werthfawrogi gan bobl leol ac ymwelwyr.

"Pobl leol sy'n 'neud y gwaith, ond mae'n cael ei werthfawrogi ac mae'n dod a gwên i bobl sy'n byw yn y dref.

"Ma' 'da ni 40,000 o ymwelwyr yn dod i Gricieth bob blwyddyn, ac mae'n hyfryd gweld pobl yn tynnu lluniau o'r gwaith ac yn gwerthfawrogi'r hyn 'da ni'n ei wneud.

"Ni'n ffodus bo' gyda ni Joyce Jones - wnaeth greu gŵn yr archdderwydd blynyddoedd yn ôl - mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned.

"Roedd 17 ohonom ni wedi cyfrannu, ond fe wnaeth hi greu map caeau Cricieth - map y degwm 1839 - ac roedd y gwaith anhygoel 'ma yn yr arddangosfa celf a chrefft yn yr Eisteddfod."

'Brwydro yn erbyn unigrwydd'

Pan gafodd Cricieth Creadigol eu cynnwys ar y rhestr fer, dywedodd cadeirydd cyngor tref Cricieth, y cynghorydd Delyth Lloyd, fod y grŵp wedi dod â siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg at ei gilydd.

"Rydym yn hynod o falch bod ein prosiectau arloesol wedi cael eu cydnabod gyda Gwobr Bywydau Creadigol Cymru yn 2021, a dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr," meddai.

"Mae ein prosiectau - llawer mewn partneriaeth - wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, ysgol leol Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion-Dwyfor, artistiaid unigol a doniau creadigol eraill.

"Yn ogystal â hyrwyddo creadigrwydd, maent wedi helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr."

Pynciau cysylltiedig