Caffi 'methu coelio' yr ymateb ar ôl helpu yn ystod Storm Bert
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog caffi ger Llanrwst wedi dweud ei bod hi "methu coelio" yr ymateb ar ôl iddi agor y drysau i'r gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr fu'n helpu yn ystod Storm Bert.
Yn ardal Trefriw dros y penwythnos roedd 'na waith chwilio mawr am ddyn yn ei 70au oedd wedi mynd ar goll wrth fynd a'i gi am dro.
Cafodd corff Brian Perry ei ddarganfod gan ddeifiwr heddlu ddydd Sul yn ardal Ffordd Gower.
Tra bod y gwasanaethau brys yn chwilio amdano, fe benderfynodd un perchennog caffi yn Nhrefriw i agor ei drysau ar gyfer y rheiny oedd allan yn gweithio yn y nos.
Bellach mae 'na ymgyrch godi arian wedi cychwyn i ddiolch i'r caffi a'r perchennog, Becca Lloyd.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Becca Lloyd ei bod wedi penderfynu "agor y drysau a chynnig paned boeth" i'r rheiny oedd yn gweithio gyda'r hwyr.
Dywedodd ei bod wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys i weld a oedden nhw angen man i gysgodi, ac felly fe aeth yn ôl i'r caffi i'w ailagor ymhell tu hwnt i'r oriau arferol.
"Es i syth lawr a nôl at y caffi a chynnig panad i bawb," meddai.
Dywedodd fod nifer o'r gweithwyr wedi dod draw i gael paned cyn iddyn nhw ailgychwyn ar y gwaith chwilio.
Erbyn hyn, mae aelodau'r gymuned wedi sefydlu ymgyrch i godi arian at y caffi fel ffordd o ddiolch am yr hyn wnaeth Becca.
Dywedodd: "O'n i ddim yn gwybod dim byd am y peth tan nos Sadwrn. O'n i'n mynd i 'ngwely a 'naeth rhywun tecstio fi."
Mae'r dudalen yn dweud eu bod yn "codi arian i ddangos ein gwerthfawrogiad i Becca Lloyd am ei gweithredoedd anhunanol ac am gyfrannu at ysbryd y gymuned".
Er mai dim ond ers mis Mawrth y mae'r caffi wedi agor, mae eisoes wedi sefydlu ei hun fel canolfan i'r gymuned, yn ôl Becca.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu, bydd Becca yn troi ei golygon at goginio cinio Nadolig i'r gymuned yn yr wythnosau nesaf.
"Dwi'n 'neud cinio Nadolig yr wythnos nesaf a'r wythnos wedyn i'r bobl sydd angen o fwyaf... neu sy'n isolated dros 'Dolig," meddai.
"Dwi o hyd wedi isio rhoi 'nôl i'r gymuned, ac mae'r fund yma yn meddwl 'mod i'n gallu gwneud soup kitchen unwaith y mis, a'r pay it forward scheme.
"Mae o'n anhygoel beth mae pobl wedi rhoi, mae o mor ffeind... dwi jyst methu coelio'r peth."