Angen diwygio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ôl Starmer

Kier Starmer
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog bod gan Lafur Cymru heriau wrth redeg y gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae angen diwygio’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru “yn druenus”, meddai’r Prif Weinidog Keir Starmer.

Pan ofynnwyd iddo a oedd Llafur Cymru wedi rhedeg y gwasanaeth iechyd yn dda, dywedodd “mae yna heriau… dwi ddim yn mynd i esgus fel arall”.

Daeth ei sylwadau wrth i'r rhestrau aros am driniaeth gyrraedd eu lefel uchaf erioed yng Nghymru am y chweched mis yn olynol.

Mae Syr Keir wedi disgrifio’r gwasanaeth yn Lloegr fel un sydd wedi “torri”, ond fe wrthododd ddweud yr un peth am Gymru, er bod rhai o'r amseroedd aros yn waeth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd Eluned Morgan fod angen blaenoriaethu rhestrau aros cyn diwygio

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan.

Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd fod angen diwygio, “ond mae’n anodd gwneud hynny pan fo gennych chi restrau aros hir sy’n gorfod bod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd”.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru cyn cynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd Syr Keir ei fod ef a Morgan wedi trafod cyflwr y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd bod angen “torchi llewys, cydweithio, rhannu arferion gorau a sicrhau nid yn unig y buddsoddiad ond y diwygio sydd ei angen yn druenus ar draws y ddarpariaeth iechyd - boed hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall",

'Penderfynol o ymateb i'r heriau'

Mae gwasanaeth iechyd Cymru wedi cael ei redeg gan lywodraethau Llafur ers i ddatganoli ddechrau ym 1999.

Gofynnwyd i Syr Keir a oedd llywodraeth Cymru - sef ei blaid ef wedi gwneud yn dda yn ystod chwarter canrif mewn grym.

Dywedodd: “Mae yna heriau y mae angen eu cwrdd, does dim amheuaeth am hynny a dwi ddim yn mynd i esgus fel arall.

“Fy swydd i, gyda’r prif weinidog, yw gweithio gyda’n gilydd i ymateb i ba bynnag heriau sydd yna a chyfleoedd ledled Cymru ac rwy’n benderfynol o wneud hynny.”